Mae rhoi llais i ddisgyblion yn gwneud lles i agweddau at ddysgu ac yn helpu gwella’r ysgol

Arfer effeithiol

West Park Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd West Park yn Notais, ger Porthcawl yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae 416 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 52 o blant meithrin, sy’n mynychu’n rhan-amser.  Mae 15 o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.  

Mae’r cyfartaledd treigl ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf yn golygu bod tua 5% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.  

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 6% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae hyn yn llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros gyfnod, mae’r ysgol wedi datblygu ymagwedd effeithiol iawn at lais y disgybl ac at sicrhau bod gan ddisgyblion y medrau i gymryd cyfrifoldeb a chyfrannu at benderfyniadau.  Mae’r ysgol wedi sefydlu pwyllgor eco a chyngor ysgol ers sawl blwyddyn.  Fodd bynnag, ym mis Medi 2016, cydnabu’r ysgol nad oedd y grwpiau hyn yn gweithredu mewn ffordd annibynnol a’u bod yn dibynnu’n ormodol ar gymorth athrawon.  Trwy wrando ar ddysgwyr, canfu staff fod llawer o ddisgyblion eisiau bod yn rhan o’r grwpiau hyn, ond nad oeddent yn cael cyfle i wneud hynny, gan fod aelodaeth yn aml trwy broses ethol.  Yn ychwanegol, er bod disgyblion wedi cyfrannu syniadau ar gyfer dysgu trwy ddatblygu gweithgareddau thema, ni chawsant gyfle i wneud hyn mor annibynnol ag y gallent.  Defnyddiodd yr ysgol nifer o strategaethau, a oedd yn effeithio ar ei gilydd i wella cyfleoedd llais y disgybl o fewn yr ysgol, a gwella’r medrau roedd eu hangen ar ddisgyblion er mwyn iddynt allu elwa’n llawn ar y cyfleoedd gwell.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

I ddechrau, aeth yr ysgol ati i wella’r amrywiaeth o ran grwpiau llais y disgybl, a sicrhau bod cyfleoedd gwell i ddisgyblion ymuno â’r grwpiau hynny.  Yn ystod y cyfnod hwn, aeth yr ysgol ati i ddadansoddi a gwella ei hymagwedd at y 12 ymagwedd addysgegol yn y cwricwlwm newydd i Gymru.  Yn benodol, roedd hyn yn cynnwys datblygu tair egwyddor addysgegol y ‘cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu’, ‘annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain’ a ‘defnyddio dulliau sy’n annog datrys problemau, meddwl yn greadigol ac yn feirniadol’.  Mae’r ysgol wedi canolbwyntio ar ddatblygu maes dysgu y celfyddydau mynegiannol hefyd.  Trwy ei strwythur monitro a gwrando ar ddysgwyr, daeth yn glir i arweinwyr ysgol fod gwelliannau’r ysgol o ran y tair egwyddor addysgegol a’r celfyddydau mynegiannol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar allu’r disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a gwneud penderfyniadau, ac fe wnaeth hyn drawsnewid eu hagweddau at ddysgu, ar y cyfan.

O ganlyniad, sylweddolodd yr ysgol, er mwyn cael llais da i’r disgybl, fod rhaid i ddisgyblion feddu ar y canlynol:

  • agweddau da at ddysgu  
  • medrau dysgu annibynnol da
  • medrau arwain da   

Yn ei thro, canolbwyntiodd yr ysgol ar sicrhau bod cwricwlwm effeithiol a difyr yn cefnogi’r tair agwedd hon yn effeithiol. 

Datblygu agweddau da at ddysgu trwy gwricwlwm effeithiol:

Mae’r ysgol yn defnyddio ymagwedd ar sail thema at y cwricwlwm, gan sicrhau datblygiad medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a medrau meddwl disgyblion.  O fis Ionawr 2017, rhoddodd yr ysgol bedwar diben craidd y cwricwlwm newydd wrth wraidd ei themâu.  Cynlluniwyd pob syniad thema, ac fe gafodd ffyrdd o ddatblygu pob un o’r dibenion craidd trwy’r thema eu cynllunio’n benodol gan athrawon yn gweithio mewn timau.  Canfu’r ysgol, trwy ddatblygu themâu yn y modd hwn, ei bod yn hyrwyddo egwyddor ‘cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu’ ac ar gyfer annog medrau datrys problemau, meddwl beirniadol a meddwl creadigol disgyblion.  O ganlyniad, roedd yr ysgol yn gallu ailddatblygu ei themâu i fod yn fwy cyffroadol ac wedi’u seilio ar faterion, gyda diben go iawn ar gyfer dysgu.

Mae disgyblion yn cyfrannu at ‘beth’ maent yn ei ddysgu, a ‘sut’, gan ddefnyddio gweithgareddau cychwynnol ar ddechrau thema, a thrwy gydol y thema.  Er enghraifft, ar ôl ymgodymu â’r thema, maent yn defnyddio’r geiriau ‘trafod, cymharu, ymchwilio, dadansoddi, cyflwyno, archwilio, paratoi’ i ddatblygu gweithgareddau sy’n arwain at ddiweddglo i’r thema.  Mae pob un o’r disgyblion yn astudio’r un thema i alluogi meddwl cydweithredol, a gwella’r diben ar gyfer dysgu.  Er enghraifft, trodd thema’r Ail Ryfel Byd yn ‘Heddwch a Gwrthdaro’, er mwyn edrych ar faterion llawer ehangach a go iawn na thema benodol yr Ail Ryfel Byd.  Dechreuodd disgyblion trwy ddysgu am, ac ymdrwytho mewn, gwlad Ewropeaidd benodol, gyda phob carfan yn dewis gwlad wahanol.  Yn dilyn hyn, byddai digwyddiad yn achosi i wledydd y carfanau wrthdaro â’i gilydd.  Bu disgyblion yn trafod eu profiadau o wrthdaro, fel anghytuno â ffrindiau, ac edrychwyd ar achosion o wrthdaro a’r teimladau sy’n cael eu hennyn ganddynt, gan ymchwilio i’r ffyrdd y gellir goresgyn gwrthdaro a defnyddio eu profiad eu hunain.  Fe wnaethant edrych yn ôl mewn hanes i weld a allent ddysgu sut roedd pobl wedi goroesi gwrthdaro yn y gorffennol, a buont yn ymchwilio i’r Ffrynt Cartref yn ystod y Rhyfeloedd Byd.  Buont yn ymchwilio i effaith gwrthdaro, trwy ddarganfod am fywydau ffoaduriaid yr oes fodern a chymharu hyn â faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Buont yn trafod materion fel ‘a oes gennym ni ddyletswydd i helpu ffoaduriaid yn awr ac yn y gorffennol yn yr Ail Ryfel Byd – pam / pam ddim?’  Cynigiodd disgyblion syniadau amrywiol i hyrwyddo heddwch, gan benderfynu cynnal Gemau Olympaidd HEDDWCH yn y pen draw.

Mewn thema arall, sef ‘Cefnforoedd Anhygoel’ (‘Incredible Oceans’), bu disgyblion yn ymchwilio i lygredd plastig a’i effaith, ac yn dadlau a thrafod materion ynghylch p’un a oes gennym ni gyfrifoldeb i gadw’r cefnforoedd yn lân – pam? neu pam ddim?  Fe wnaethant gynllunio ffyrdd o lanhau’r cefnforoedd a ffyrdd o atal llygredd plastig.  Ysgrifennon nhw at y cyngor a grwpiau lleol eraill, a threfnwyd gorymdaith brotest trwy’r dref leol i hyrwyddo ymwybyddiaeth.

Ystyrir syniadau’r disgyblion ar gyfer dysgu, ac mae disgyblion yn rhydd i ddysgu yn eu ffordd eu hunain.  Mae hyn wedi trawsnewid agweddau at ddysgu, ac mae bron pob un o’r disgyblion yn ymroi yn llwyr i’w dysgu.  Yn sgil natur y themâu a’r adeiladu at ddiweddglo, mae disgyblion yn teimlo bod ganddynt lais; maent yn credu bod eu llais yn cyfrif ac y gallant wneud gwahaniaeth.  O ganlyniad, mae bron pob un o’r disgyblion yn awyddus i fod yn rhan o grwpiau llais y disgybl a chyfrannu at fywyd yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi gwella’i darpariaeth ar gyfer y celfyddydau mynegiannol hefyd, sy’n effeithio’n gryf ar hyder disgyblion i benderfynu beth i’w ddysgu, a sut, a sut i ddangos eu dysgu.  Roedd prynhawn yr wythnos yn cael ei neilltuo ym Mlynyddoedd 4, 5 a 6 i addysgu medrau’r celfyddydau mynegiannol.  Addysgwyd medrau penodol cerddoriaeth, celf, perfformio, y cyfryngau digidol a dawns mewn blociau chwe wythnos, trwy gyd-destun thema fel astudiaethau’r cyfnod allweddol cyfan ar yr un thema.  Penderfynodd disgyblion ym mha drefn y byddent yn dysgu’r medrau, ac fe wnaethant gylchdroi pob medr am floc chwe wythnos, gan gwblhau pob un o’r blociau erbyn diwedd y flwyddyn.  Bu’r disgyblion yn gweithio mewn grwpiau fertigol ar draws y grwpiau blwyddyn.  Bu’r dull hwn yn llwyddiannus iawn o ran gwella medrau disgyblion yn y celfyddydau mynegiannol, a’u gallu i gymhwyso’r medrau hyn ar draws y cwricwlwm mewn ffordd effeithiol iawn.  Roedd staff eisoes wedi ymchwilio i addysgeg yr hyn sy’n gwneud dysgu annibynnol da.  Roedd hyn yn golygu bod gan bob un o’r staff ar draws yr ysgol ddull, strwythur ac iaith gyffredin ar gyfer dysgu annibynnol.  Fe wnaeth y ddealltwriaeth ar y cyd hon gan staff, wedi’i chyfuno â medrau celfyddydau mynegiannol mwy datblygedig y disgyblion, wella eu hagweddau cadarnhaol at ddysgu ymhellach, gan eu bod wedi gallu datblygu dysgu’n llawn yn eu ffordd eu hunain, cynhyrchu eu canlyniadau eu hunain, a gwybod bod pob math o ddeilliannau dysgu yn cael eu gwerthfawrogi. 

O ganlyniad i’r cyfuniad hwn o wella themâu, gwella medrau dysgu annibynnol a sicrhau celfyddydau mynegiannol o ansawdd da, roedd disgyblion yn ymroi yn fwy i’w dysgu, gan wella agweddau at ddysgu, ac yn ei dro, eu hawydd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau – i ennill y medrau sydd eu hangen i gymryd rhan, a’u cred y gallent wneud gwahaniaeth.  Roedd hyn, yn ei dro, yn gwella gallu grwpiau llais y disgybl i weithredu mewn ffordd annibynnol a bod yn llawer mwy hunangymhellol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae bron bob un o’r disgyblion, beth bynnag fo’u gallu, yn dangos agweddau da iawn at ddysgu, ac maent yn ymroi’n dda i’w dysgu, sy’n cael effaith gadarnhaol ar safonau a chynnydd.  Mae disgyblion yn awyddus i ddysgu ac yn ymddwyn yn dda iawn yn y dosbarth, o ganlyniad.  Mae safonau gwaith ar draws yr ysgol yn dda, ac mae disgyblion yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn.  Mae grwpiau llais y disgybl yn yr ysgol yn effeithiol iawn, mae ganddynt rôl weithredol ym mywyd yr ysgol, ac yn cyfrannu’n dda at y penderfyniadau a wneir.   

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd arferion effeithiol ar draws yr ysgol trwy gael staff i weithio mewn timau i ddatblygu themâu, cyd-hyfforddi, a thimau o athrawon yn gwrando ar weithgareddau dysgwyr.

Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda o ran llais y disgybl yng Ngŵyl Ddysgu Pen-y-bont ar Ogwr yn 2018 a 2019.

Mae arfer dda o ran llais y disgybl wedi cael ei rhannu a’i datblygu fel rhan o’r ysgol yn gweithio mewn clwstwr.