Mae hyrwyddo rhieni fel partneriaid yn cefnogi gwelliant ysgol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Ysgol gynradd 3-11 oed ym mhentref Trelewis, Merthyr Tudful yw Ysgol Gynradd Trelewis. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer 240 o ddisgyblion, ac mae ganddi wyth dosbarth, gan gynnwys meithrinfa amser llawn. Cyfartaledd tair blynedd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw oddeutu 15.9%. Nodir bod gan ryw 20% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae’r pennaeth presennol wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2016.
Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector
Cytunodd tîm arweinyddiaeth newydd yr ysgol ei bod yn hanfodol fod yr holl randdeiliaid yn yr ysgol yn gallu cyfrannu at broses gwella’r ysgol, a chymryd rhan ynddi, er mwyn sicrhau gwelliannau. Er mwyn gwneud hyn, sicrhaodd yr ysgol gyfryngau cyfathrebu agored a chreodd gymuned y gallai’r holl randdeiliaid gymryd rhan ynddi a theimlo’n rhan ohoni, yn enwedig rhieni. Dechreuodd y tîm arweinyddiaeth hyrwyddo ethos ‘Rhieni fel Partneriaid’ a sefydlodd weledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, a oedd yn anelu at sefydlu ‘Ysgol sy’n canolbwyntio ar y plentyn sydd wrth wraidd y Gymuned’.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector
Nododd yr ysgol i ddechrau mai cyfathrebu oedd y rhwystr cyntaf i fynd i’r afael ag ef. Teimlai ei bod yn bwysig rhoi gwybodaeth a oedd ar gael yn hawdd i’r holl randdeiliaid, yn enwedig rhieni. Sicrhaodd yr ysgol fod cyfathrebu â rhieni yn glir ac ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys negeseuon testun, cyfryngau cymdeithasol a gwefan newydd i’r ysgol. Roedd cylchlythyrau rheolaidd a diweddariadau newyddion hefyd yn sicrhau bod rhieni’n cael gohebiaeth glir, yn ogystal â darparu cardiau busnes i rieni yn rhestru dyddiadau HMS a dyddiadau’r tymhorau. Dechreuodd hyn fynd i’r afael ar unwaith â materion yn ymwneud â chyfathrebu rhwng y cartref a’r ysgol, a rhoddodd gyfle i sicrhau bod yr ethos ‘Rhieni fel Partneriaid’ yn cael ei hyrwyddo’n rheolaidd.
Yn dilyn gwaith yr ysgol yn gwella cyfathrebu, anfonwyd arolwg cychwynnol at bob un o’r rhieni er mwyn nodi meysydd pellach y gallai’r ysgol ddechrau mynd i’r afael â nhw, i gael gwared ar rwystrau pellach oedd yn atal rhieni rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol. O’r dadansoddiad o ymatebion, nododd yr ysgol fod llawer o rieni’n teimlo nad oeddent yn gallu mynd at yr ysgol, ac o ganlyniad, nid oeddent yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi dysgu eu plentyn yn ddigon da.
Dechreuodd y pennaeth sefydlu presenoldeb rheolaidd a gweladwy o gwmpas yr ysgol, a rhoddwyd strategaethau ar waith er mwyn sicrhau bod rhieni’n teimlo y gallant fynd at staff yr ysgol, a gweithio gyda’r ysgol, er mwyn sicrhau safonau gwell parhaus ar gyfer disgyblion. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu polisi drws agored, lle roedd rhieni’n gallu siarad ag aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol ar y ffôn neu yn bersonol pan oedd pryderon yn codi, gan gynnig ffyrdd ymarferol o gyfathrebu uniongyrchol.
Fel man cychwyn i wella ymgysylltu â rhieni, cynhaliwyd boreau coffi rheolaidd, er mwyn dechrau cael gwared ar rwystrau a oedd yn atal rhieni rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol. Roedd y boreau coffi’n darparu amgylchedd hamddenol lle gallai rhieni fynd i’r ysgol a chyfarfod ag aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol yn anffurfiol. O’r adborth a ddaeth i law yn ystod y boreau coffi, llwyddodd yr ysgol wedyn i nodi anghenion cymorth rhieni ymhellach. Roedd hyn yn cynnwys eu cynorthwyo i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd eu plentyn, ac aethpwyd i’r afael â hyn trwy strategaeth o’r enw ‘Dysga gyda Fi’ (‘Learn with Me’).
Rhoddodd y sesiynau ‘Dysga gyda Fi’ gyfleoedd rheolaidd i rieni weithio ochr yn ochr â’u plentyn yn amgylchedd yr ysgol mewn fformat arddull gweithdy, ochr yn ochr ag athro dosbarth eu plentyn. Rhoddodd y sesiynau hyn strategaethau a syniadau i rieni ynglŷn â sut gallent gefnogi datblygiad parhaus eu plentyn gartref. Er enghraifft, roedd un o’r sesiynau ‘Dysga gyda Fi’ yn cysylltu â gwaith ystafell ddosbarth am y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd. Yn ystod y sesiwn, treuliodd disgyblion amser gyda’u rhieni yn edrych ar wahanol fwydydd iach i wneud pryd tro-ffrio Tsieineaidd. Cynorthwywyd disgyblion i dorri llysiau o hyd amrywiol, gan atgyfnerthu geirfa fathemategol fel ‘yn hirach na’, ‘yn fyrrach na’, ac ‘yn yr un faint â’. Galluogodd hyn y rhieni i ddeall sut y gellid defnyddio tasgau’r cartref, fel coginio, i hyrwyddo a datblygu medrau rhifedd disgyblion.
Canolbwyntiodd sesiynau ‘Dysga gyda Fi’ eraill ar feysydd oedd yn cynnwys datblygu medrau ysgrifennu disgyblion, ymchwilio i’r awyr agored, a datblygu ffoneg. Rhoddodd pob un o’r sesiynau hyn lwyfan i rieni gymryd rhan yn y broses ddysgu a chodi cwestiynau neu awgrymiadau ynglŷn â digwyddiadau y gellid eu cynnal yn y dyfodol, er mwyn cefnogi dysgu eu plentyn yn well.
Fe wnaeth yr ysgol hefyd ymgysylltu ag asiantaethau allanol sydd â phrofiad o weithio gyda theuluoedd. Rhoddodd hyn ragor o gyfleoedd i rieni ymwneud â dysgu eu plentyn. Er enghraifft, sefydlwyd ‘Caffi Darllen’ ar gais rhieni, lle rhoddwyd cyfleoedd iddynt ddod i’r ysgol a dysgu am strategaethau y gallent eu defnyddio i gefnogi medrau darllen eu plentyn gartref.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau disgyblion?
O ganlyniad i’r strategaethau a roddwyd ar waith, mae’r ysgol yn nodi ei bod yn parhau i weld lefel fwy o lawer o ymgysylltu â rhieni, a bod rhieni’n teimlo’n fwy abl i fynd at yr ysgol os oes ganddynt unrhyw bryderon. Maent yn teimlo bod rhieni’n cael cyfleoedd i gefnogi dysgu a datblygiad parhaus eu plentyn yn well.
Amlygodd arfarniad o ymatebion o arolwg adolygu a ddosbarthwyd gan yr ysgol fod bron pob un o’r rhieni’n teimlo erbyn hyn eu bod yn gallu mynd at yr ysgol os oes ganddynt gwestiynau neu awgrymiadau. Mae’r ysgol yn credu bod hyn yn welliant nodedig o gymharu â deilliannau’r arolwg cychwynnol. Mae’r ysgol yn nodi effaith ar les disgyblion hefyd, gan fod rhieni’n ymwneud yn fwy â’r ysgol. Yn yr arolwg diweddaraf o agweddau disgyblion a gynhaliwyd gan yr ysgol, dywedodd y rhan fwyaf o ddisgyblion fod ganddynt agwedd gadarnhaol tuag at yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi mireinio’i phroses wella yn well i gynnwys yr holl randdeiliaid yn weithredol, sy’n sicrhau ffocws parhaus ar wella safonau disgyblion. O ganlyniad i sail dystiolaeth ehangach, a gafwyd yn sgil ymgysylltiad gwell gan yr holl randdeiliaid, mae’r ysgol yn credu bod ganddi ddarlun mwy trylwyr a chywir o’i pherfformiad erbyn hyn.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos ag ysgolion eraill yn y clwstwr lleol ac mewn partneriaethau gweithio braenaru. Mae wedi cymryd rhan mewn adolygiad cymheiriaid ac wedi rhannu arfer ag ysgolion eraill, er mwyn ceisio rhagor o gyfleoedd i ymgysylltu â theuluoedd, yn seiliedig ar yr arfer dda a welwyd mewn lleoliadau eraill.