Mae dull strwythuredig o gyfathrebu yn helpu hyrwyddo amgylchedd dysgu cynhwysol

Arfer effeithiol

Coleg Elidyr


 
 

Gwybodaeth

Mae Coleg Elidyr yn goleg arbenigol annibynnol preswyl i bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sydd ag awtistiaeth, anawsterau dysgu ac anableddau. Mae’r holl ddysgwyr yn byw yn un o chwe thŷ preswyl y coleg, sydd wedi’u lleoli mewn 180 erw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Mae’r safle’n cynnwys ei siop groser, tyddyn a gardd gegin, man gwely a brecwast, a menter gwneud sebonau a bomiau bath. Hefyd, mae’n gartref i 27 o bobl ifanc eraill sydd ag anawsterau dysgu ac anableddau.

Cenhadaeth y coleg yw galluogi pobl ag anawsterau dysgu ac anableddau i ddatblygu’u gwybodaeth a’u medrau, a chyrraedd eu potensial llawn, gan fyw a gweithio mewn cymuned.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer

Mae gan yr holl ddysgwyr yng Ngholeg Elidyr anghenion cymhleth ac nid yw llawer ohonynt yn eiriol neu maent yn defnyddio bach iawn o eiriau. Yn nodweddiadol, mae mwy na hanner y dysgwyr yng Ngholeg Elidyr ag awtistiaeth ac mae gan un o bob pump arall nodweddion awtistig. Mae gan bob un ohonynt anawsterau cyfathrebu, o ran cael eu deall gan eraill a deall beth sy’n cael ei gyfleu iddyn nhw.

Mae llawer o ddysgwyr yn cael anawsterau prosesu synhwyraidd a heriau wrth ddelio â newidiadau wedi’u cynllunio a rhai annisgwyl, ac ar adegau o drawsnewid, er enghraifft wrth adael y coleg a dychwelyd iddo, symud rhwng amgylcheddau preswyl ac addysg neu rhwng sesiynau ar eu hamserlen ddyddiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Mae cyfathrebu cyflawn yn ddull sy’n cael ei ddefnyddio i gynorthwyo â chyfathrebu am ddymuniadau ac anghenion sylfaenol ac i alluogi unigolion i ddod yn llai dibynnol ar eraill. Mae’n hwyluso cynhwysiant trwy ddarparu strwythur a threfn er mwyn osgoi rhwystredigaeth a gorbryder. Hefyd, mae’n rhoi cyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol ac mae’n cynorthwyo unigolion i reoli trawsnewidiadau. Mae’n gosod pwyslais ar gefnogi angen unigolyn am amser prosesu digonol a sut gall hynny amrywio dros amser ac ar draws sefyllfaoedd. Mae cyfathrebu cyflawn effeithiol hefyd yn galw am lefel uchel o gyfathrebu effeithiol rhwng staff.

Mae cyfathrebu cyflawn yn cyfuno siarad, arwyddo ac adnoddau ffisegol ynghyd. Caiff arwyddion eu defnyddio bob amser i ategu cyfathrebu geiriol a defnyddir amrywiaeth o offer arall, yn dibynnu ar angen y dysgwr. Ar draws safle’r coleg, mae adnoddau cyfathrebu cyflawn yn cefnogi dealltwriaeth dysgwyr, er enghraifft trwy fyrddau cyfathrebu mewn tai preswyl ac ar draws ardaloedd gweithdy’r coleg ac ardaloedd y cwricwlwm.

Mae adnoddau ffisegol yn cynnwys byrddau ‘nawr a nesaf’ a rhestri tasgau sy’n defnyddio symbolau gweledol a thestun i ategu dealltwriaeth. Gall adnoddau eraill, fel ‘matiau siarad’, gael eu defnyddio ar ddiwedd sesiwn addysgu i gynorthwyo dysgwyr nad ydynt yn eiriol i fyfyrio ar y sesiwn a’r cynnydd a wnânt yn ôl eu nodau dysgu. Mae defnyddio ‘llithryddion dilyniant’, sy’n esbonio’r camau sy’n ofynnol i gwblhau tasgau penodol, yn gallu cael effaith arwyddocaol ar gefnogi annibyniaeth dysgwyr. Er enghraifft, gallant gael eu defnyddio gan ddysgwyr i symud o gwmpas safle’r coleg heb i neb eu hebrwng. I lawer o bobl ifanc, dyma fydd eu profiad cyntaf o annibyniaeth o’r fath. Caiff ‘straeon cymdeithasol’ eu defnyddio i esbonio sefyllfaoedd, digwyddiadau neu weithgareddau, a defnyddir ‘gwrthrychau cyfeirio’ ochr yn ochr ag arwyddo a lleferydd i ategu dealltwriaeth dysgwyr.

Mae dull cyfathrebu cyflawn y coleg yn golygu na chaiff yr un dysgwr ei hepgor o ryngweithiadau ffurfiol ac anffurfiol dyddiol ar draws y coleg. I helpu i gynnal y dull hwn, mae’r holl staff yn cwblhau cwrs arwyddo, wedi’i ddilysu’n allanol, i bobl ag anawsterau dysgu ac anableddau. Hefyd, mae gan y coleg gydlynydd cyfathrebu cyflawn pwrpasol sy’n gweithio ar draws yr amgylcheddau gofal ac addysg i sicrhau dulliau cyson. Yn ogystal, mae’r holl fyfyrwyr a staff yn cymryd rhan mewn sesiynau 90 munud wythnosol, pwrpasol, ar gyfathrebu cyflawn, lle maent yn meithrin ac yn atgyfnerthu medrau.

Yr effaith ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae seilwaith cyfathrebu cyflawn yn magu hyder dysgwyr yn eu hamgylchedd ac ynddyn nhw eu hunain. Mae’n cynorthwyo dysgwyr i gyfathrebu mewn ffyrdd nad oeddent, efallai, yn gallu gwneud o’r blaen, gan annog mwy o ryngweithiadau, hunaneiriolaeth, llesiant, hunanddibyniaeth a gwydnwch. Trwy ddefnyddio adnoddau perthnasol cyfathrebu cyflawn, gall dysgwyr ddilyn eu targedau a monitro’u cynnydd eu hunain yn hawdd.

O ganlyniad i ymagwedd y coleg at gyfathrebu cyflawn, sydd wedi’i chydlynu’n dda, gall pobl ifanc a allai, yn y gorffennol, fod wedi’u heithrio o fwyafrif helaeth y rhyngweithiadau o’u cwmpas, fyw mewn amgylchedd cwbl gynhwysol lle y gallant ddeall a chael eu deall.

Yn ei arolygiad diweddar o’r coleg yn Hydref 2019, nododd arolygwyr Estyn:

“Mae ymddygiad dysgwyr o gwmpas y coleg yn rhagorol. Mae hyn oherwydd, wrth iddynt ddatblygu’r medrau i gyfathrebu’n fwy effeithiol, maent yn dysgu mynegi eu hemosiynau a rheoli eu hymddygiadau.”

“Mae’r coleg yn darparu lefelau eithriadol o uchel o ofal, cymorth ac arweiniad ar gyfer dysgwyr. Yn benodol, mae strategaeth effeithiol iawn y coleg cyfan ar gyfer cyfathrebu’n llwyr yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau dysgu a’u medrau cymdeithasol, ac yn eu paratoi yn eithriadol o dda ar gyfer bywyd oedolyn.”


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn