Mae disgyblion yn helpu i ddatblygu cyfeiriad strategol yr ysgol

Arfer effeithiol

Ysgol Penmaes


 

Cyd-destun

Ysgol ddydd arbennig yw Ysgol Penmaes sy’n darparu addysg ar gyfer 110 o ddisgyblion rhwng 2 ac 19 oed.  Mae’r ysgol yn Aberhonddu ac fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Powys. 

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion sydd ag ystod eang o anawsterau dysgu.  Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu difrifol, anhwylder y sbectrwm awtistig ac anawsterau dysgu dwys a lluosog.  Mae gan bob disgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Nid oes unrhyw ddisgybl wedi cael ei ddatgymhwyso o’r Cwricwlwm Cenedlaethol. 

Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith gartref.  Mae tua 31% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim ac mae 10% yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. 

Diwylliant ac ethos

Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘Gyda’i Gilydd, Mae Pawb yn Cyflawni Mwy’.  Mae’n hyrwyddo’r genhadaeth yn dda ac mae hyn yn gosod y safonau ar gyfer cynwysoldeb yn Ysgol Penmaes.  Ceir ethos hynod gefnogol a chadarnhaol ar draws yr ysgol, gyda ffocws cryf ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.  Mae’r ysgol yn effeithiol o ran cael gwared ar rwystrau rhag dysgu a chyfranogi. 

Gweithredu

Mae Ysgol Penmaes yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd cyfranogi amrywiol ar gyfer cymuned yr ysgol gyfan ac mae’n cydnabod bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar berthnasoedd ar draws yr ysgol.  Maent wedi datblygu strwythurau a chymorth i alluogi pob un o’r disgyblion i gyfrannu at daith yr ysgol i wella.

Yn Ysgol Penmaes, ceir llawer o wahanol ffyrdd i ddisgyblion gyfleu eu safbwyntiau a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.  Pan nodir bod cyfathrebu yn peri anhawster i unigolion neu grwpiau o ddisgyblion, mae’r ysgol yn datblygu strategaethau i wneud yn siŵr bod pob disgybl yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan a dylanwadu ar benderfyniadau.  O ganlyniad, mae staff yn datblygu dealltwriaeth well o anghenion a diddordebau eu disgyblion.  Mae disgyblion yn teimlo’n hyderus fod staff yn gwrando arnynt a bod eu safbwyntiau’n cael eu gwerthfawrogi.

Ceir cyngor ysgol effeithiol.  Caiff aelodau’r cyngor ysgol eu hethol gan eu cyfoedion ac maent yn ymgymryd â’u rolau yn frwdfrydig.  Mae gan y cyngor ysgol gyllideb i brynu adnoddau yn ystod y flwyddyn.  Mae hyn yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r angen i flaenoriaethu a chyllidebu fel rhan o’u rôl fel aelodau o’r cyngor.  Mae’r cyngor ysgol yn trafod ystod eang o faterion fel amgylchedd yr ysgol, ansawdd ffreutur yr ysgol, profiadau dysgu a hunanarfarnu.  Fel rhan o’i gwaith, mae wedi creu prosbectws defnyddiol a hygyrch iawn ar gyfer darpar ddisgyblion.

Cyflwynodd yr uwch arweinwyr ddiwrnod hunanarfarnu ar gyfer disgyblion, staff a llywodraethwyr i wneud yn siŵr bod pob un o’r disgyblion yn cyfrannu at gyfeiriad strategol yr ysgol.  Yn ystod y diwrnod hunanarfarnu, mae staff ac arweinwyr yr ysgol yn gweithio gyda disgyblion i gael eu safbwyntiau ar bob agwedd ar yr ysgol, fel dysgu ac addysgu, ansawdd y gofal, adeiladau’r ysgol ac ansawdd yr amgylchedd dysgu awyr agored.  Mae’r ysgol wedi cyflwyno ystod o strategaethau i wneud yn siwr bod pob disgybl yn cyfrannu’n weithredol at y broses.  Mae disgyblion sy’n fwy abl yn arfarnu ansawdd y ddarpariaeth yn yr ysgol yn hyderus trwy ddefnyddio symbolau ac arwyddion.  Mae disgyblion eraill yn gweithio ochr yn ochr â staff i rannu eu safbwyntiau. 

Mae aelodau o’r corff llywodraethol yn mynychu’r diwrnod hunanarfarnu ac yn ennill dealltwriaeth helaeth o safbwyntiau’r disgyblion ar ddarpariaeth a meysydd i’w datblygu.  Mae’r pennaeth yn casglu’r wybodaeth ac mae’n llywio cynllun datblygu’r ysgol.  Er enghraifft, nododd disgyblion eu bod yn mwynhau’r cyfle i ddysgu yn yr awyr agored a bod arnynt eisiau cael mwy o gyfleoedd i wneud hynny’n rheolaidd.  O ganlyniad, buddsoddodd yr ysgol mewn detholiad o offer awyr agored a gwnaeth welliannau i’r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored i ddisgyblion fwynhau eu gwersi yno, lle bo’n briodol.

Mae’r diwrnod hunanarfarnu yn gwneud yn siwr bod pob un o’r disgyblion, y staff a’r llywodraethwyr yn cael cyfle i weithio gyda’i gilydd i nodi cryfderau’r ysgol, meysydd y mae angen eu gwella a blaenoriaethau ar gyfer cynllun datblygu’r ysgol.  

Deilliannau

Yn Ysgol Penmaes, ceir perthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion a rhwng y disgyblion.  Ceir synnwyr clir o ymddiriedaeth ac empathi ar y ddwy ochr am bob aelod o gymuned yr ysgol.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o anghenion a dewisiadau eu cyfoedion.  Adlewyrchir hyn yn y penderfyniadau a wna disgyblion fel rhan o’r cyngor ysgol a’r grwpiau cyfranogi. 

Mae bron pob un o’r disgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando arnynt a bod eu safbwyntiau a’u barn yn cael eu gwerthfawrogi.  Mae ganddynt agwedd gadarnhaol tuag at eu dysgu a’r ysgol.  O ganlyniad, caiff effaith gadarnhaol ar safonau ar draws yr ysgol.  Mae ymddygiad bron pob disgybl, mewn gwersi ac yn ystod y diwrnod ysgol, yn eithriadol o dda.  Ni fu unrhyw waharddiadau parhaol o’r ysgol ers nifer o flynyddoedd ac mae nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol yn eithriadol o isel.  O ganlyniad, gydag ychydig iawn o eithriadau, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da dros gyfnod. 

Mae disgyblion yn ennill ystod eang o achrediad cydnabyddedig ar ddiwedd cyfnod allweddol 4.  Llwyddodd pob disgybl a oedd wedi cofrestru ar gynllun gwobr Dug Caeredin i gyflawni’r lefel efydd ac arian a llwyddodd bron pob un ohonynt i ennill y wobr aur.  Mae hyn yn gyflawniad sylweddol. 

Mae nifer yr ymadawyr nad ydynt yn ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi bod yn gyson isel am nifer o flynyddoedd.

Mae’r ysgol yn cynnwys disgyblion yn rheolaidd mewn trafodaeth am eu dysgu eu hunain.  Mae hyn yn datblygu medrau gwrando a chyfathrebu disgyblion yn llwyddiannus.  Mae disgyblion hefyd yn gwella eu dealltwriaeth o effaith eu penderfyniadau ar ddisgyblion a phobl eraill yng nghymuned yr ysgol.  Er enghraifft, nododd aelodau o’r cyngor ysgol fod angen gwella cyfathrebu ymhellach rhyngddyn nhw eu hunain a phoblogaeth ehangach y disgyblion a rhoddwyd cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r mater hwn.  Mae arweinwyr yr ysgol, y llywodraethwyr ac aelodau o’r cyngor ysgol yn monitro’r cynllun yn rheolaidd.