Mae disgyblion yn gweithio gyda staff i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu
Quick links:
Cyd-destun
Ysgol breswyl arbennig awdurdod lleol yw Heronsbridge, a gynhelir gan awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 19 oed. Mae 237 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae bron pob un ohonynt yn mynychu bob dydd.
Mae gan lawer o’r disgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig. Mae gan ddisgyblion yn yr ysgol ystod o anawsterau, gan gynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol ac anhwylderau’r sbectrwm awtistig.
Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith gartref. Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 5% o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Mae tua 40% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Mae hyn ychydig yn is na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 43% ar gyfer ysgolion arbennig a gynhelir.
Diwylliant ac ethos
Mae gan y pennaeth a’r uwch arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol sy’n cael ei deall yn llawn a’i rhannu gan bob un o’r staff a’r llywodraethwyr. Maent yn mynegi eu disgwyliadau uchel ac yn cynnal diwylliant cadarnhaol yn yr ysgol. Arwyddair yr ysgol yw: ‘Gyda’n gilydd, gallwn’ (Together we can’) a’i werthoedd yw annibyniaeth, lles, cyfle a chynaliadwyedd. Mae’r rhain yn llywio ac yn arwain gweithgareddau’r ysgol.
Ceir ethos cefnogol a chadarnhaol ar draws yr ysgol gyda ffocws cryf ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion yn cael yr un cyfle i elwa ar y cwricwlwm.
Gweithredu
Caiff cyfranogiad disgyblion ei gydlynu gan uwch aelod o staff sy’n gyfrifol am les ar draws yr ysgol. Mae’r rôl gydlynu yn golygu bod llinellau cyfathrebu effeithiol rhwng yr uwch dîm arweinyddiaeth, y corff llywodraethol a’r disgyblion. Caiff disgyblion adborth amserol a sensitif gan yr aelod staff enwebedig ar eu hawgrymiadau a’u hargymhellion.
Mae’r ysgol wedi blaenoriaethu hyfforddiant a chymorth ar gyfer disgyblion i wneud yn siŵr bod cyfleoedd cyfranogi yn berthnasol i anghenion a galluoedd cymuned yr ysgol. Er enghraifft, mae cwmni drama lleol wedi bod yn gweithio gyda’r disgyblion i ddatblygu eu medrau a’u dealltwriaeth o gyfranogiad mewn modd sensitif ac yn briodol i anghenion. Mae hyn wedi datblygu medrau personol a chymdeithasol disgyblion ac wedi cyfrannu at wneud cyfranogi yn fwy ystyrlon i lawer o ddisgyblion.
Mae bron pob un o’r disgyblion yn arfarnu eu profiadau dysgu ar ddiwedd yr uned waith. Mae’r ysgol wedi datblygu ystod o strategaethau effeithiol i oresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu a gwneud yn siŵr bod pob disgybl yn cael cyfle i arfarnu eu dysgu eu hunain. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio’r canlynol:
-
ystumiau lle mae disgyblion yn dangos ffafriaeth
-
lluniau neu ffotograffau y gall disgyblion eu cyfleu trwy ddarlunio eu hymatebion neu bwyntio at y lluniau
-
systemau cyfathrebu fel y systemau cyfathrebu trwy gyfnewid lluniau
-
disgrifiadau ysgrifenedig
Mae disgyblion yn graddio’r uned waith gyda chymorth gan staff gan ddefnyddio system goleuadau traffig a ddeellir yn dda. Mae rhai disgyblion yn llenwi holiaduron sydd wedi eu teilwra i’w hanghenion ac mae llawer ohonynt yn cyfrannu trwy ymatebion lluniau a chwestiynau llafar. Mae disgyblion iau yn arfarnu eu gwaith a thestunau yn effeithiol gan ddefnyddio ‘wynebau hapus’. Mae athrawon yn casglu arfarniadau disgyblion o’u profiadau dysgu personol ar ddiwedd y tymor. Caiff y rhain eu dadansoddi’n ofalus a’u defnyddio i lywio cynllunio’r athrawon. Mae uwch arweinwyr yn mireinio cynnig y cwricwlwm yn briodol wrth ymateb i safbwyntiau disgyblion.
Deilliannau
Mae cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad disgyblion sy’n cael eu trefnu’n fedrus yn cyfrannu at ddatblygu hunanhyder a medrau cymdeithasol disgyblion. Dros gyfnod, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu hannibyniaeth ac yn cymryd cyfrifoldeb cynyddol amdanyn nhw eu hunain a’u dysgu yn unol â’u hanghenion a’u gallu.
Mae bron pob un o’r disgyblion yn hyderus wrth gyfleu eu hanghenion yn glir, naill ai ar lafar, trwy arwyddo neu ddefnyddio system gyfathrebu trwy gyfnewid lluniau.
Mae cynlluniau’r cwricwlwm y mae disgyblion yn dylanwadu arnynt yn rheolaidd, yn adeiladu’n systematig ar wybodaeth, dealltwriaeth, medrau a diddordeb disgyblion. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymgysylltu’n dda yn eu gwersi, ac mae eu hymddygiad yn y dosbarth ac yn ystod adegau anstrwythuredig o’r dydd yn rhagorol.
O ganlyniad, mae bron pob un o’r disgyblion hŷn yn ennill cymwysterau priodol mewn cyrsiau achrededig sy’n gweddu’n dda i’w galluoedd, eu hanghenion a’u diddordebau.