Mae disgyblion yn dylanwadu ar y cwricwlwm ac yn ei wella - Estyn

Mae disgyblion yn dylanwadu ar y cwricwlwm ac yn ei wella

Arfer effeithiol

Cefn Hengoed Community School


 

Cyd-destun

Ysgol uwchradd ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 16 oed yw Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed ar ochr ddwyreiniol Abertawe, gyda 644 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae tua 40% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.1%. 

Mae gan ryw 39% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25%.  Mae gan ryw 5% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, sydd ddwywaith yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer Cymru gyfan.  Mae gan yr ysgol gyfleuster addysgu arbenigol yr awdurdod lleol ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu cymedrol ac fe gaiff y disgyblion hyn eu cynnwys ar gofrestr yr ysgol.

Diwylliant ac ethos

Mae’r pennaeth yn dangos ymrwymiad grymus i ddatblygu’r ysgol fel cymuned ddysgu ragorol ac mae ei harweinyddiaeth yn gyrru llwyddiant yr ysgol.  Mae ei harweinyddiaeth gref ac ymroddedig wedi arwain at welliannau cynaledig ym mherfformiad a lles disgyblion. 

Mae gan yr ysgol ethos eithriadol o ofalgar a chynhwysol sy’n seiliedig ar barch ar y ddwy ochr, a pherthnasoedd cryf rhwng disgyblion, staff a’r gymuned.  Caiff arwyddair yr ysgol, ‘Os ydych yn credu, gallwch gyflawni’, ei blethu ym mhob agwedd ar waith yr ysgol, ac adlewyrchir hyn yn y disgwyliadau uchel a’r agwedd ofalgar a ddangosir gan staff.  Mae lefel uchel yr ymddiriedaeth a’r parch rhwng staff a disgyblion yn hyrwyddo dysgu’r disgyblion a’u datblygiad cymdeithasol, ac mae’n nodwedd gadarnhaol o fywyd yr ysgol.  Caiff rôl disgyblion mewn dylanwadu ar wneud penderfyniadau ei hymgorffori’n dda ar draws yr ysgol ac mae’n flaenoriaeth a rennir gan arweinwyr, staff a disgyblion.

Gweithredu

Mae’r ysgol wedi datblygu ystod eang o strategaethau i gynnwys disgyblion mewn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu profiadau dysgu a’u lles.

Mae’r ysgol wedi penodi aelod o staff sy’n gyfrifol am gydlynu llais y disgybl ar draws yr ysgol.  Mae’r aelod hwnnw yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod cyfathrebu effeithiol rhwng y grwpiau cyfranogi, yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r corff llywodraethol.

Nodwedd gref yn yr ysgol yw cyflwyno ‘arweinwyr cwricwlwm sy’n ddisgyblion’.  Maent yn cyfarfod ag athrawon i arfarnu rhaglenni astudio, ac yn gwneud penderfyniadau am eu dysgu a’r dewis o strategaethau a gweithgareddau cyfoethogi sy’n ategu llwyddiant.  

Mae llais y disgybl yn ganolog i waith y gyfadran ddyniaethau yn yr ysgol.  Mae gan y gyfadran arweinwyr cwricwlwm sy’n ddisgyblion a benodwyd yn llwyddiannus yn dilyn proses gyfweld drylwyr.  Maent yn cyfarfod â staff y gyfadran bob hanner tymor i adrodd yn ôl ar faterion yn ymwneud â’r cwricwlwm, addysgu a dysgu.  Maent hefyd yn cyfrannu at ddatblygu cynlluniau gwaith ac yn dylanwadu ar destunau astudio yn y gyfadran.  Er enghraifft, cyflwynodd y gyfadran uned prosiectau annibynnol yn dilyn adborth gan yr arweinwyr cwricwlwm sy’n ddisgyblion.

Mae’r gyfadran wedi rhannu’r arfer hon ar draws yr ysgol a gydag ysgolion lleol eraill trwy hyfforddiant mewn swydd ysgol gyfan.  Mae’r gyfadran hefyd yn cynnig hyfforddiant ar gyfer staff y gyfadran a disgyblion cyn iddynt ymgymryd â’u rôl fel arweinwyr cwricwlwm.

Yn yr adran addysg gorfforol, caiff arweinwyr cwricwlwm sy’n ddisgyblion eu penodi o blith capteiniaid tai, unigolion a benodwyd gan y disgyblion a ‘disgyblion ymdrechgar’ (y rheiny sy’n dangos ymroddiad eithriadol yn y pwnc).  Mae arweinwyr y cwricwlwm yn dylanwadu ar opsiynau’r cwricwlwm a chyfleoedd allgyrsiol yn y pwnc.  Er enghraifft, mae’r adran wedi ymestyn y ddarpariaeth ddawns yn dilyn adborth gan ddisgyblion. 

Mae disgyblion o Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn cyfrannu’n rheolaidd at fforymau ymgynghori awdurdodau lleol i lywio blaenoriaethau cyllideb ac opsiynau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion rhwng 14 ac 19 oed. 

Deilliannau

Mae bron pob un o’r disgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando arnynt.  Mae gan bron bob un o’r disgyblion synnwyr eithriadol o berthyn i gymuned yr ysgol, a lefel uchel o ymwybyddiaeth o’u lles eu hunain ac effaith eu hymddygiad ar bobl eraill.  Mae disgyblion yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i ddylanwadu ar ddewis a darpariaeth ac maent yn mynd ati i ymgymryd ag ystod eang y cyfleoedd a gynigir yn yr ysgol. 

O ganlyniad, bu effaith gadarnhaol iawn ar safonau ar draws yr ysgol.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, bu tuedd gref o welliant mewn presenoldeb a gostyngiad cyffredinol yng nghyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol. 

Mae presenoldeb, ymddygiad ac ymgysylltiad gwell â dysgu wedi cyfrannu’n sylweddol at duedd gref o welliant ym mhob un o’r dangosyddion perfformiad yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4 dros y tair blynedd ddiwethaf.

Ers cyflwyno’r arweinwyr cwricwlwm sy’n ddisgyblion, mae llawer o gyfadrannau, er enghraifft yn y dyniaethau ac mewn addysg gorfforol, wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion ar gyfer cyrsiau TGAU ar ddiwedd cyfnod allweddol 3. 

Am y tair blynedd ddiwethaf, ni adawodd yr un disgybl yr ysgol heb gymhwyster cydnabyddedig.  Ar ddiwedd Blwyddyn 11, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn aros mewn addysg amser llawn.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn