Mae disgyblion yn arfarnu ansawdd y ddarpariaeth yn eu hysgol

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Llanllechid


 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Llanllechid wedi ei lleoli ar gyrion pentref Rachub ger tref Bethesda.  Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Gwynedd.  Mae 261 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 31 o ddisgyblion oedran meithrin rhan-amser.

Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol.  Daw llawer o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg.  Mae tua 11% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 19% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys ychydig iawn ohonynt sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.

Diwylliant ac ethos

Ceir ethos cynhwysol, cefnogol a chyfeillgar yn Ysgol Llanllechid, ac fe gaiff disgyblion gyfle cyfartal i gymryd rhan yn ei holl weithgareddau.  Rhoddir pwyslais ar ddangos parch a chwrteisi at bawb, sy’n arwain at amgylchedd diogel sy’n meithrin gofal a goddefgarwch am bobl eraill.  Mae llais y disgyblion yn ganolog i’r holl brofiadau dysgu ar draws yr ysgol.

Gweithredu

Caiff cyfranogiad disgyblion a’r cyngor ysgol eu cydlynu gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth.  Mae’r cyngor ysgol yn cyfarfod bob wythnos i rannu syniadau a thrafod meysydd i’w gwella yn yr ysgol. 

Mae’r ysgol yn mynd ati i gynnwys disgyblion yn holl feysydd gwella’r ysgol ac mae’n ymgysylltu â nhw yn rheolaidd wrth arfarnu ansawdd y ddarpariaeth ar draws yr ysgol.  Er enghraifft, mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn gweithio gyda’r cydlynydd addysg gorfforol i arfarnu ansawdd gwersi addysg gorfforol.  Fe wnaethant gynnal trafodaethau â’r cydlynydd, arsylwi gwersi ac adrodd yn ôl wrth y cydlynydd, yr athrawon a’r disgyblion.  Nododd disgyblion arfer ragorol mewn gwersi addysg gorfforol a rhai meysydd i’w gwella.  O ganlyniad i’r argymhellion a wnaed gan ddisgyblion, adolygodd yr ysgol ei pholisi a’i disgwyliadau ynghylch gwisg ysgol yn ystod gwersi addysg gorfforol. 

Mae aelodau o’r cyngor wedi cynnal ymgyrch lwyddiannus i wella arferion darllen eu cyd-ddisgyblion ar draws yr ysgol.  Datblygodd y cyngor ysgol holiadur i gael gwybod mwy am arferion darllen disgyblion.  Dadansoddodd y deilliannau yn ofalus a nododd gryfderau a meysydd i’w gwella yn narllen disgyblion.  Adroddodd yn ôl ar ei ganfyddiadau mewn gwasanaeth ysgol gyfan.  Adroddodd yn ôl hefyd a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r llywodraethwyr yn ystod cyfarfod tymhorol.  Gweithredodd uwch arweinwyr yn unol â’r canfyddiadau, er enghraifft i ddatblygu cysylltiadau agosach â’r llyfrgell leol i gefnogi darllen rhai disgyblion ar draws yr ysgol. 

Adroddodd y cyngor ysgol am ei ganfyddiadau wrth rieni a gofalwyr trwy lythyr i ennyn diddordeb rhieni i gefnogi’r ymgyrch i wella arferion darllen ar draws yr ysgol.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn deall pwysigrwydd darllen yn rheolaidd ac mae llawer ohonynt wedi ymuno â’r llyfrgell leol gyda chefnogaeth gan eu rhieni. 

Yn Ysgol Gynradd Llanllechid, mae disgyblion yn cyfrannu at y broses hunanarfarnu trwy arfarnu gwersi a meysydd cwricwlaidd, a helpu i greu polisïau.

Deilliannau

Mae bron pob un o’r disgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando arnynt.  Mae disgyblion yn ymateb yn hyderus i’r cyfleoedd a gânt i ddylanwadu a gwneud penderfyniadau.

Mae aelodau o’r cyngor ysgol yn cydweithredu â staff, rhieni, eu cyfoedion a’r gymuned leol hefyd.  Fel aelodau o’r cyngor ysgol, maent yn ennill medrau personol, cymdeithasol a threfniadaethol.  Maent hefyd yn datblygu eu medrau personol a chymdeithasol trwy drafod materion sydd o bwys iddynt gydag ystod o randdeiliaid. 

Bernir bod lles yn yr ysgol yn rhagorol, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.  Maent yn datblygu eu medrau meddwl a dysgu annibynnol yn llwyddiannus.