Mae diddordebau plant yn arwain gweithgareddau dysgu

Arfer effeithiol

Cogan Nursery School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Feithrin Cogan ym Mhenarth ym Mro Morgannwg. Adeg yr arolygiad, roedd 50 3 i 4 mlwydd oed o blant ar y gofrestr. Mae plant yn mynychu’n rhan-amser naill ai yn y bore neu’r prynhawn.

Adeg ysgrifennu’r darn hwn, nodwyd bod gan 16% o blant anghenion addysgol arbennig, ac mae tua 38% o blant yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol neu’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae cwricwlwm y cyfnod sylfaen wedi cael ei roi ar waith yn llawn yn Ysgol Feithrin Cogan. Mae staff yn adolygu eu harferion yn gyson i sicrhau eu bod yn darparu’r gweithgareddau dysgu gorau posibl ar gyfer yr holl ddysgwyr. Caiff y gweithgareddau eu datblygu’n bennaf o ganlyniad i ddiddordebau’r plant. Trwy ddarparu’r cyfleoedd hyn, yn ogystal â rhywfaint o addysgu ar wahân, mae staff yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ystod gynhwysfawr o fedrau a gwybodaeth wrth iddyn nhw chwarae.

Mae’r rhan fwyaf o blant yn ymuno â’r ysgol feithrin â medrau llythrennedd, rhifedd a medrau personol a chymdeithasol islaw’r rhai a ddisgwylir ar gyfer eu hoedran. Mae llawer o blant yn dechrau’r ysgol â gweithgareddau lleferydd ac iaith neu Saesneg fel iaith ychwanegol. Er gwaethaf hyn, mae llawer o blant yn gwneud cynnydd da yn datblygu eu medrau yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol feithrin, ac mae llawer o blant yn gwneud cynnydd da iawn.

Mae pob un o’r staff yn dyfeisio, yn cynllunio ac yn gwerthuso gweithgareddau gyda’i gilydd. Mae
trafodaethau’n cynnwys ystyried diddordebau presennol plant. Mae dealltwriaeth staff o ddarpariaeth effeithiol yn y cyfnod sylfaen a datblygiad plant yn eu galluogi i gynorthwyo’r plant i arwain eu dysgu eu hunain wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae staff wedi ymgymryd ag ymchwil a hyfforddiant i ddatblygu eu dealltwriaeth ymhellach o sut i uchafu dysgu plant. Atgyfnerthodd arsylwadau o lefel ymglymiad plant fod plant yn cymryd mwy o ran mewn gweithgareddau a oedd wedi cael eu datblygu ar ôl ystyried eu diddordebau.

Penderfynwyd dyfeisio a chynllunio gweithgareddau mewn darpariaeth barhaus ac estynedig sy’n adeiladu ar ddiddordebau plant. Caiff gweithgareddau newydd eu modelu gan ymarferwyr trwy ddefnyddio ystod o gwestiynau, a gwahanol arddulliau o gwestiynau. Gall plant archwilio’r holl weithgareddau yn rhwydd – y tu mewn a’r tu allan. Trwy arsylwadau, mae ymarferwyr yn nodi sut mae’r plant yn defnyddio’r gweithgareddau a sut cânt eu gwella – naill ai gan y plant neu’r oedolion. Caiff gweithgareddau eu diweddaru neu’u newid bob wythnos. Defnyddir botymau neu gardiau cofnodadwy â chwestiynau penagored yn agos at y gweithgareddau fel sbardunau, ac i gynorthwyo’r dysgwyr i ddatblygu medrau ym mhob maes dysgu.

Mae ymarferwyr yn cynorthwyo plant i archwilio’r gwahanol weithgareddau ac olrhain datblygiad eu medrau mewn meysydd o gwricwlwm y cyfnod sylfaen, yn ogystal â phroffil y cyfnod sylfaen. Defnyddir amseryddion i gynorthwyo’r dysgwyr i reoli’r amser maen nhw’n ei dreulio yn ymgymryd â gweithgaredd. Mae hyn yn hynod effeithiol pan gyflwynir gweithgaredd newydd, neu os yw gweithgaredd yn hynod boblogaidd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r arfer hon wedi cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth yn ein hysgol feithrin. Rhoddir ystyriaeth ofalus i ddiddordebau plant ac i’w cyfnod datblygu, wrth ddyfeisio, cynllunio a gwerthuso gweithgareddau.

Mae pob un o’r staff yn adnabod pob plentyn yn dda iawn. Maent yn adolygu’r gweithgareddau yn barhaus, ac mae llawer o drafodaeth broffesiynol am ddatblygiad pob plentyn.

Ar ôl cyfnod byr yn unig yn yr ysgol feithrin, mae bron pob un o’r plant yn ymgymryd â chyfleoedd dysgu newydd yn hyderus. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dal ati i ganolbwyntio a dyfalbarhau mewn gweithgareddau. Maent yn gweithio’n annibynnol, gan fanteisio ar offer ac adnoddau priodol yn ôl yr angen. Mae bron pob un ohonynt yn barod i fentro, yn enwedig yn yr ardal awyr agored, ac maent yn datblygu gwydnwch yn dda. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cydweithio’n dda, mewn parau a grwpiau bach, gan gynorthwyo’i gilydd i ddatrys gwrthdaro.

Ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol feithrin, mae’r rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd da ac mae llawer o blant yn gwneud cynnydd da iawn mewn datblygu eu gwybodaeth a’u medrau.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol feithrin wedi croesawu staff o lawer o ysgolion yn eu consortiwm i rannu eu harfer o ran grymuso plant i arwain eu dysgu eu hunain.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn