Mae arferion addysgu yn creu profiadau dysgu o ansawdd uchel

Arfer effeithiol

Stanwell School

Gwybodaeth am yr ysgol:

Mae Ysgol Stanwell yn ysgol uwchradd gymysg cyfrwng Saesneg 11-19 oed ym Mhenarth, Bro Morgannwg.  Mae 1,983 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae tua 470 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Penarth a’r Sili.  Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.5%.  Mae ychydig dros 4% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector:

Nid yw ymwelwyr ag Ysgol Stanwell dan unrhyw amheuaeth bod disgwyl i’r staff ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar greu hinsawdd o barch ar y ddwy ochr a lleoliad sy’n meithrin parch tuag at bobl eraill, yr amgylchedd a chyflawniad.  Mae’r ffocws hwn ar ddisgwyliadau uchel i’w weld ym mhob ystafell ddosbarth ac mae’r pwyslais ar sefydlu arferion effeithiol yn yr ystafell ddosbarth sy’n defnyddio amser yn effeithlon wedi arwain at arferion dysgu rhagorol sy’n amlwg ar draws y cwricwlwm.

Mae disgyblion yn cyflawni deilliannau rhagorol yn yr ysgol, gan fod dealltwriaeth gyson ar draws y staff a’r disgyblion o’r ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at ddeilliannau rhagorol.  Yn gyntaf, mae hyn wedi’i gyflawni trwy sicrhau bod nodweddion hanfodol allweddol yn bodoli, er enghraifft bod pob athro â disgwyliadau cyson uchel ynghylch gwaith ac ymddygiad disgyblion a bod cynlluniau gwaith da ac asesiadau cadarn ar waith gan bob adran.  Yn ail, ac yr un mor bwysig, mae arweinwyr wedi datblygu diwylliant ar draws yr ysgol o rannu arfer dda, gan gydnabod bod pob athro yn gallu gwella’i fedrau mewn hinsawdd o fyfyrio beirniadol.  Caiff arfer dda ei rhannu’n effeithiol o fewn ac ar draws adrannau, ac mae’r ysgol yn chwilio am bartneriaethau tu allan i’r ysgol i ddatblygu arfer a medrau arwain athrawon.  Mae polisi drws agored ar draws yr ysgol, lle y mae athrawon yn dysgu o’u harfer ei gilydd, wedi sicrhau bod strategaethau addysgu buddiol yn cael eu lledaenu.  Mae hyn yn ysgogi trafodaeth onest ymhlith athrawon ynghylch y strategaethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar wella dysgu disgyblion.  Caiff athrawon eu hannog i gymryd risgiau a chynlluniant weithgareddau diddorol, ffocysedig ar gydweithio ymhlith disgyblion a bod yn ddysgwyr gweithgar.  Yn Stanwell, mae disgyblion bob amser yn ddysgwyr prysur; mae hyn yn holl bwysig.

Mae cyhoeddi Cylchlythyr Dysgu ac Addysgu, o’r enw 2XL, bob tymor, yn gyfrwng i athrawon a staff cymorth ddysgu, rhannu a datblygu arfer addysgol ar draws yr ysgol.  Mae hyn wedi sicrhau bod athrawon a staff cymorth yn trafod ac yn canolbwyntio ar arfer yr ystafell ddosbarth yn rheolaidd. Mae sefydlu ‘Grwpiau Trawsgwricwlaidd’ fel Grŵp Dysgu ac Addysgu, wedi ysgogi strategaethau i hybu medrau meddwl ar draws y cwricwlwm.  Mae athrawon yn defnyddio’r strategaethau hyn yn gyson yng nghyfnod allweddol 3 ac, o ganlyniad, mae disgyblion wedi datblygu’n ddysgwyr mwy annibynnol, hunangynhaliol a gwydn.

Mae cyflwyno gweithgareddau dysgu ychwanegol drwy gydol y flwyddyn i ddisgyblion mwy abl a thalentog, ynghyd â diwylliant o ‘addysgu i’r brig’, yn sicrhau lefelau uchel o her a chynnydd cyflym yng ngwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion.  Yn ogystal, mae ymrwymiad cryf iawn i sicrhau bod disgyblion yn profi amrywiaeth eang o weithgareddau cyfoethogi a chyfleoedd dysgu allgyrsiol.  Mae pwyslais yr ysgol ar ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, a thu allan iddi, yn sicrhau bod disgyblion yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi ym mhob agwedd ar eu datblygiad.  O ganlyniad, mae disgyblion yn arddangos lefelau uchel o ymrwymiad ac yn gweithio’n galed i’w hathrawon.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae deilliannau yng Nghyfnod Allweddol 4 ac yn y chweched dosbarth yn uwch nag mewn ysgolion tebyg ac wedi rhagori ar ddisgwyliadau ers sawl blwyddyn.  Mae pob grŵp o ddisgyblion, yn enwedig y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai mwy abl a thalentog, yn cyflawni’n arbennig o dda ac mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd cyflym wrth ddatblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth.  Mae ymddygiad disgyblion a’u hymgysylltiad â dysgu yn rhagorol ac maent wedi’u paratoi’n dda i gyfrannu at y gymuned ehangach. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Ysgol Stanwell yn ysgol sy’n ymarferwr arweiniol ac wedi cael ei hachredu’n ysgol sy’n ganolfan wella.  Hefyd, mae’r ysgol yn aelod o rwydwaith ysgolion uchel eu perfformiad CSC ar gyfer gweithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac mae’n Ganolfan Arbenigol ddynodedig ar gyfer Rhifedd Uwchradd.  Mae’r cysylltiadau ar gyfer ADCDF yn gryf iawn hefyd, gan fod yr ysgol yn Ymarferwr Arweiniol ar gyfer Dysgu Byd-eang.  Hefyd, mae’r ysgol yn aelod o iNet ac wedi cynnal cynadleddau dysgu ac addysgu.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn