Mabwysiadu dulliau amryfal o wella llythrennedd a rhifedd mewn ysgol uwchradd

Arfer effeithiol

Ysgol Bryn Elian


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg 11-16 oed cyfrwng Saesneg ar arfordir Gogledd Cymru yn Hen Golwyn yw Ysgol Bryn Elian.  Mae 962 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 154 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.  Mae 20% o’r disgyblion yn byw yn y 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac mae gan 21% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion ar draws yr ystod gallu, ac mae gan ryw 27% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae arwyddair yr ysgol, sef Llwyddiant i Bawb, (‘Achievement for All’), yn amlwg ar draws ein gwaith, o’r rhyngweithio dyddiol rhwng staff, disgyblion a rhieni i ethos yr ysgol, fel y gwelir yn ein cynllunio, ein blaenoriaethau a’n canlyniadau.

Cyd-destun ac arfer i’r arfer sy’n arwain y sector

Dechreuodd y tîm arweinyddiaeth presennol ar ei waith yn 2008 a chyflwynodd ymrwymiad i ddatblygu medrau llythrennedd o’r enw all@ybe.  Caiff y rhaglen hon ei chryfhau bob blwyddyn, ac ehangwyd y rhaglen i gynnwys datblygu rhifedd a medrau meddwl ar draws y cwricwlwm.

Caiff pob un o’r athrawon eu hannog i fod yn fodelau rôl da ar gyfer datblygiadau llythrennedd a chynllunio ar gyfer llythrennedd fel profiad dysgu sylfaenol ym mhob gwers. 

Mae polisïau ac arferion yn cyd-fynd â’r Safonau Addysgu Proffesiynol sy’n datgan bod yn rhaid i athrawon: “Gael disgwyliadau uchel o blant a phobl ifanc er mwyn gwella deilliannau a lles ar gyfer pob dysgwr…..Deall y cyd-destun polisi addysg cenedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg…….Deall eu rôl mewn gwella medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.”

Caiff cwricwlwm yr ysgol ei adolygu a’i arfarnu’n gyson i fodloni anghenion ein plant.  Mae’n fodel amrywiol a phwrpasol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb, ymgysylltiad a chyrhaeddiad disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae mentrau o fewn y rhaglen yn cynnwys:

  • Rhaglen BEES (Bryn Elian Enrichment Skills) Blwyddyn 7 sy’n addysgu ystod o fedrau llythrennedd, meddwl a rhifedd am 100 munud yr wythnos, yn seiliedig ar destunau a themâu
  • Arbrofi â phrosiect ymyrraeth llythrennedd Headsprouts o fewn prosiect rheoledig yn seiliedig ar ymchwil gyda myfyrwyr o Brifysgol Bangor
  • Cyfarfodydd Blaenoriaeth Ysgol Gyfan sy’n canolbwyntio ar lythrennedd neu rifedd a cheisio datblygu a rhannu arfer dda bresennol ar draws meysydd pwnc
  • HMS ysgol gyfan ar addysgeg, sy’n cael ei gynnal gan arbenigwyr addysgol a gymeradwywyd yn rhyngwladol, i gadw’r ffocws ar gelfyddyd addysgu a hyrwyddo diwylliant o arfer arloesol ymhlith ein staff
  • Digwyddiadau ‘marchnad’ fel HMS ar gyfer pob un o’r staff sy’n cynnwys sesiynau cyfnos i arddangos eu harfer orau mewn meddwl, llythrennedd a rhifedd
  • Datblygu un ar ddeg Targed Llythrennedd sy’n rhan annatod o’n dull o farcio a rhoi adborth, gan ganolbwyntio ar un ar ddeg maes dysgu cyffredin ar draws pob maes pwnc.  Gellir gweld y rhain ym mhob llyfr a chynlluniwr ac arwain at nodi camgymeriadau i ddisgyblion ganolbwyntio arnynt trwy dasgau penodol
  • Prosiect gwerthfawr gyda chydweithwyr cynradd sy’n dangos elfen o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd o’r Cyfnod Sylfaen i Flwyddyn 9, gan ganolbwyntio ar gynllunio ar gyfer datblygu llythrennedd, celfyddyd addysgu medrau llythrennedd, asesu ac arfarnu deilliannau
  • Calendr o themâu llythrennedd misol, i’w ddefnyddio ym mhob ystafell ddosbarth, i annog dull ffocysedig ar draws meysydd pwnc ar ddysgu ar y cyd
  • Trefnu Blwyddyn 7 yn setiau bedair wythnos ar ôl iddynt ddechrau ar sail gallu mewn rhifedd neu lythrennedd, mewn clystyrau pwnc wedi’u bandio’n briodol.

Yn ogystal â hyn, caiff cwricwlwm yr ysgol ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer anghenion dysgwyr ac yn cynyddu eu cyfleoedd i’r eithaf.

Yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 fel ei gilydd, cynyddwyd amser ar gyfer Saesneg a Mathemateg, i ymgorffori gwersi rhifedd a llythrennedd ar draws Cyfnod Allweddol 3, gyda gwersi neilltuedig ar gyfer datblygu medrau ym Mlwyddyn 7 hefyd.

Yng Nghyfnod Allweddol 4, cefnogir system dewisiadau agored gan wasanaethau ar gyfer disgyblion i esbonio’r gofynion a’r cyfleoedd o fewn meysydd pwnc newydd, cyfweliadau unigol ag uwch staff er mwyn trafod dyheadau, cryfderau a sut i wneud penderfyniadau, yn ogystal â chyflwyniadau i rieni.  Creffir ar ddewis cwricwlwm pob disgybl o ran addasrwydd, gydag asiantaethau allanol yn cefnogi’r cynnig – rydym yn gweithio gydag ysgolion lleol eraill, y Rhwydwaith 14-19, y coleg lleol a darparwyr yn y gwaith er mwyn sicrhau bod dewisiadau opsiwn yn ychwanegu’n briodol at gwricwlwm craidd disgybl.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith a wnawn i wella medrau llythrennedd a rhifedd ein disgyblion, a datblygu cwricwlwm ymatebol, yn cael effaith uniongyrchol ar nifer o feysydd allweddol, sef:

  • Mwynhad disgyblion o ddysgu, sy’n fwy oherwydd hyder gwell bod ganddynt yr offer i gymryd rhan mewn dysgu
  • Gallu disgyblion i ddatblygu mwy o annibyniaeth fel dysgwyr, fel y gellir gweld trwy eu defnydd o fapiau meddwl fel offer dysgu i ddadansoddi ac arfarnu
  • Cynlluniau gwaith ar draws pob adran sy’n cynllunio’n effeithiol ar gyfer addysgu, asesu ac arfarnu medrau llythrennedd a rhifedd mewn deilliannau
  • Darpariaeth well ar gyfer y FfLlRh, y mae elfennau bellach yn rhan o gynlluniau gwaith adrannol mewn ffordd sy’n briodol, yn berthnasol a defnyddiol i ddilyniant disgybl
  • Mae adborth i ddisgyblion yn cyd-fynd yn fwy â datblygiad eu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws pob pwnc, ac wedi’i integreiddio’n llawn â marcio cynnwys pynciau
  • Craffu ar lyfrau’n rheolaidd, sy’n arwain at adborth manwl i staff a chasglu enghreifftiau o arfer dda, sydd wedi cael eu rhannu’n eang, e.e. trwy weithgareddau cymorth GWE, gydag ysgolion eraill
  • Deilliannau gwell mewn profion cenedlaethol, deilliannau Lefel 1 a Lefel 2, yn ogystal â chanlyniadau rhagorol mewn Medrau Allweddol a Medrau Hanfodol a Bagloriaeth Cymru ar bob lefel.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rydym wedi gweithio’n agos ag ysgolion eraill trwy Her Ysgolion Cymru a’r Rhaglen Ymarferwyr Arweiniol a Datblygol, i rannu ein polisïau a’n harferion.

Mae ein gwaith ar Fapiau Meddwl, a arweiniodd at gael ein hachredu yn Ysgol sy’n Meddwl yn 2013, sy’n cael ei ymgorffori’n llawn i gefnogi datblygu llythrennedd a rhifedd, wedi cael ei rannu â’n cydweithwyr cynradd lleol trwy HMS, yn yr un modd â’n dull cynllunio ar gyfer y FfLlRh.  Rydym yn gwneud cyflwyniadau mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol yn rheolaidd i rannu ein harfer ac mae ysgolion yn ymweld â ni’n rheolaidd i edrych ar ein modelau cyflwyno.  Rydym wedi gweithio’n agos ag ysgolion cynradd bwydo hefyd i ddatblygu a rhannu dulliau o ymdrin â llythrennedd a rhifedd o fewn y cwricwlwm.  Defnyddiodd y rhanbarth lyfryn o ddeunydd enghreifftiol ar gyfer arfer orau mewn asesu gydag ysgolion eraill yn ddiweddar.  Hefyd, fe wahoddom yr Athro David Hyrle i fod yn brif siaradwr mewn digwyddiad a drefnwyd gennym ni gyda GWE i rannu arfer dda, yn enwedig o ran Medrau Meddwl.  Yn olaf, fe wnaethom drefnu ac arwain cynhadledd Arddangos Arfer Dda gyda’n teulu o ysgolion, a’i strwythuro o amgylch ein gwaith ar wella ysgol yn gysylltiedig â modelau cwricwlwm a medrau.