Argymhellion
Dylai ysgolion:
- ddefnyddio’r awgrymiadau yn Atodiad 2 yr adroddiad i helpu arfarnu eu harfer a hyrwyddo gwelliant;
- sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd, wedi’u cynllunio’n dda i blant wella eu medrau darllen ac ysgrifennu;
- datblygu cydbwysedd gwell rhwng dysgu wedi’i ysgogi an blant a dysgu wedi’i arwain gan ymarferwyr; a
- cynllunio gweithgareddau mwy heriol i ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, rhifedd a TGCh ar draws y meysydd dysgu.
Dylai awdurdodau lleol:
- gefnogi pob ysgol i ddatblygu gwybodaeth gadarn am egwyddorion ac arfer y Cyfnod Sylfaen.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- gyhoeddi arweiniad ar arfer dda i gefnogi ysgolion yn y meysydd a amlinellir uchod.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.