Llywodraethwyr Ysgol - Gweithredu fel ffrindiau beirniadol ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr - Estyn

Llywodraethwyr Ysgol – Gweithredu fel ffrindiau beirniadol ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai cyrff llywodraethol ac ysgolion:

  • A1 Wella gallu llywodraethwyr i herio uwch arweinwyr am bob agwedd ar waith yr ysgol
  • A2 Sicrhau bod llywodraethwyr yn cael cyfleoedd rheolaidd a gwerthfawr i arsylwi’n uniongyrchol y cynnydd y mae eu hysgol yn ei wneud tuag at gyflawni ei blaenoriaethau
  • A3 Cynnal hunanwerthusiad rheolaidd o waith y corff llywodraethol i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella
  • A4 Gwerthuso effaith hyfforddiant i lywodraethwyr ar eu rôl fel arweinwyr strategol effeithiol a nodi gofynion hyfforddi yn y dyfodol

Dylai awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion:

  • A5 Werthuso ansawdd eu hyfforddiant i lywodraethwyr yn fwy trylwyr i wneud gwelliannau lle mae angen
  • A6 Cydweithio i sicrhau cydlyniant a chysondeb gwell mewn cyfleoedd hyfforddi o ansawdd uchel rhwng gwahanol rannau o’r wlad
  • A7 Darparu cymorth a chyngor mwy effeithiol i gyrff llywodraethol i’w helpu yn eu rôl fel arweinwyr strategol effeithiol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Ddiweddaru’r arweiniad i awdurdodau lleol ar beth i’w gynnwys mewn hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol ar ddeall rôl data mewn cefnogi hunanwerthuso a gwelliant mewn ysgolion, yn unol â newidiadau cenedlaethol i arferion asesu
  • A9 Cynhyrchu gwybodaeth am rôl bwysig rhiant-lywodraethwyr i helpu annog rhieni, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gwahanol, i wneud cais i fod yn rhiant-lywodraethwr
  • A10 Creu fframwaith cymwyseddau i gynorthwyo cyrff llywodraethol i wella’u heffeithiolrwydd

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn