Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 – Mehefin 2012

Adroddiad thematig


Mae’n edrych ar safonau mewn llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3 a’r modd y mae sampl o ysgolion uwchradd wrthi’n datblygu medrau llythrennedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ar hyn o bryd. Bydd adroddiadau diweddarach yn canolbwyntio ar roi’r Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol ar waith a’i heffaith ar safonau a darpariaeth yn yr ysgolion hyn. Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar gael ar gyfer ymgynghori o Fehefin 2012. Bydd y fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yn Ionawr 2013. Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn dod yn ofyniad statudol ym mhob ysgol o Fedi 2013.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • roi blaenoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd mewn cynlluniau gwella a chynlluniau gwaith;
  • olrhain a monitro cynnydd pob disgybl, yn enwedig y rhai ar raglenni ymyrraeth a dysgwyr mwy abl, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cynnydd da ar draws pob cyfnod allweddol;
  • amlinellu cyfleoedd ar gyfer llafaredd, darllen ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig o ran gwella ysgrifennu estynedig disgyblion a chywirdeb eu gwaith ysgrifenedig;
  • monitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella llythrennedd; a
  • hyfforddi athrawon i gynllunio mwy o gyfleoedd heriol ym mhob pwnc i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu lefel uwch disgyblion.

Dylai awdurdodau lleol:

  • lunio strategaeth llythrennedd ddatblygedig a mecanweithiau i wella safonau ar draws y cwricwlwm; a
  • chefnogi ysgolion wrth hyfforddi pob aelod o staff i ddefnyddio strategaethau llythrennedd effeithiol, yn cynnwys rhannu arfer orau rhwng ysgolion.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi arweiniad a chymorth i athrawon i’w helpu i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith a datblygu medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn