Llythrennedd yng nghyfnod allweddol 3: Adroddiad interim – Ionawr 2015
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- roi dull trawsgwricwlaidd dilyniannol a chydlynus ar waith o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion, yn unol â disgwyliadau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd;
- olrhain a monitro’r dilyniant ym medrau llythrennedd disgyblion yn erbyn disgwyliadau diwedd blwyddyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd;
- annog arbenigwyr pwnc Cymraeg a Saesneg i arwain mewn gwella cysylltiadau rhwng pynciau i gefnogi dull cyson a dilyniannol o ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion;
- darparu cyfleoedd a chymorth da ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion wella eu hysgrifennu, gan gynnwys ei gywirdeb technegol; a
- monitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella medrau llythrennedd disgyblion.
Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:
- egluro rolau awdurdodau lleol, consortia a’r partneriaid cymorth cenedlaethol ar gyfer hyfforddi a chynorthwyo ysgolion i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar waith; a
- gwella’r defnydd o gyfarfodydd clwstwr pontio i sefydlu dull cyson o addysgu medrau llythrennedd.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- drefnu bod deunyddiau cymorth i ysgolion ar gael cyn datblygu’r fframwaith ymhellach;
- gwneud yn siŵr bod pob ysgol yn gallu manteisio ar ddeunyddiau cymorth yn hawdd; a
- rhoi arweiniad clir i ysgolion ar asesu a chynnig enghreifftiau o safonau llythrennedd disgwyliedig ar draws pob pwnc.
Astudiaethau achos o arfer orau
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili
- Elfed High School. Sir y Fflint
- Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Bro Morgannwg