Llwyddiant gyda chynlluniau dysgu unigol ar-lein
Quick links:
- Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth (seiliwch y wybodaeth hon ar adran cyd-destun yr adroddiad gan gynnwys nodweddion sy’n berthnasol i’r astudiaeth achos)
- Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain sector, a nodwyd yn ystod yr arolygiad, yn berthnasol i gwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd arbennig
- Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain sector
- Disgrifio natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
- Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr
Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth (seiliwch y wybodaeth hon ar adran cyd-destun yr adroddiad gan gynnwys nodweddion sy’n berthnasol i’r astudiaeth achos)
Sefydlwyd Coleg Catholig Dewi Sant gan Archesgobaeth Caerdydd yn goleg chweched dosbarth Catholig ym 1987. Mae’r coleg ar un campws yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd. Mae Coleg Dewi Sant yn rhoi cyfleoedd dysgu i ryw 1,550 o ddysgwyr amser llawn. Mae bron yr holl ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed. Nid oes dysgwyr rhan-amser. Mae ychydig o dan 80% wedi ymrestru ar lefel 3, gyda 60% o’r rhain ar gyrsiau Safon Uwch/UG a 27% o’r rhain yn cymysgu cyrsiau Safon Uwch/UG â chyrsiau galwedigaethol Lefel 3. Mae tua 18% wedi ymrestru ar lefel 2 a rhyw 3% ar lefel 1. Daw rhan fwyaf y dysgwyr yn y coleg o Gaerdydd, ond daw tua 13% o fannau pellach i ffwrdd, gan gynnwys Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae tua 54% o’r dysgwyr yn ferched a 46% yn fechgyn. Daw tua 22% o’r dysgwyr o grwpiau lleiafrif ethnig. Daw tua 45% o’r dysgwyr o ardaloedd o amddifadedd addysgol.
Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain sector, a nodwyd yn ystod yr arolygiad, yn berthnasol i gwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd arbennig
Cwestiwn allweddol: 1, 2 a 3
Dangosydd ansawdd: 1.1-Safonau; 2.2-Addysgu; 3.2- Gwella ansawdd.
Agwedd: 1.1.4 – medrau; 2.2.2 – asesu dysgu ac asesu ar gyfer dysgu; 3.2.1 – hunanasesu
Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain sector
Tan 2010, bu’r coleg yn gweithredu system dracio ar bapur yn seiliedig ar adegau adrodd sefydlog drwy gydol y flwyddyn academaidd. Dim ond ciplun o gynnydd y myfyrwyr yr oedd y drefn hon yn ei roi, yn seiliedig ar ddata asesu, targed a phresenoldeb. Y gwendid amlwg oedd bod data’n dyddio’n gyflym a bod y dysgwyr yn ymddieithrio yn sgil y data darfodedig yr oedd yn ei ddarparu. Bu’r coleg hefyd yn casglu llawer iawn o wybodaeth am y dysgwr ar adegau amrywiol a theimlwyd y dylai fod ar gael yn haws i’r dysgwyr ac i randdeiliaid eraill. Aeth uwch dîm rheoli’r coleg ati felly i ddyfeisio meini prawf perfformiad allweddol a geisiwyd o eGDU pwrpasol.
Byddai angen i eGDU Dewi Sant;
- ddarparu data dibynadwy a chadarn i ddysgwyr, tiwtoriaid personol a thiwtoriaid pwnc ar ffurf sy’n hwyluso datblygu targedau heriol i ddysgwyr ac i’r timau cwrs;
- bodloni anghenion dysgwyr unigol drwy nodi cyswllt cryf rhwng nodau gyrfa, hyfforddiant ac addysg;
- sicrhau bod cymorth dysgu’n effeithio mor gadarnhaol â phosibl ar ddysgwyr drwy gael at ddata byw;
- manteisio ar y cyswllt cryf rhwng cyflwyno’r cwricwlwm a chymorth bugeiliol;
- sicrhau bod dysgwyr yn cael eu trin yn gyflawn o ran y cymorth a’r datblygiad a gânt;
- nodi’r dysgwyr sy’n fwyaf tebygol o adael drwy greu ‘pwyntiau sbardun’ i ddata presenoldeb a chyrhaeddiad; a
- darparu arf rheoli i fonitro ac asesu perfformiad y coleg o ran effaith ar ddysgwyr, perfformiad a lles.
Ar y dechrau, ceisiwyd gofynion yr holl randdeiliaid allweddol gan gynnwys dysgwyr, staff cwricwlwm, staff bugeiliol a rheolwyr. Drwy ddarparwr system gwybodaeth reoli’r coleg, trefnwyd ymweliadau â cholegau disglair yn Lloegr i weld eu e-GDUau.
Datblygwyd e-gynllun dysgu unigol (e-GDU) Dewi Sant yn system ar-lein a gynlluniwyd i helpu dysgwyr i ymgymryd yn barhaus ag asesu a chynllunio eu cynnydd. Erbyn hyn, mae’n helpu dysgwyr i ddeall yn gadarn eu perfformiad cyfredol, yr hyn y maent am ei gyflawni a sut gallent gyrraedd y nod. Wrth wraidd hyn y mae darparu data asesu, graddau targed a data presenoldeb byw. Drwy nodi nodau dysgu clir, mae’r e-GDU yn annog dysgwyr i gael mwy o berchenogaeth a chyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain. Mae‟n fecanwaith hanfodol i’r swyddogaeth fugeiliol yn y coleg gan ei fod yn galluogi tiwtoriaid bugeiliol i wneud eu gwaith yn hyfforddwyr dysgu, gan alluogi trafodaethau manwl am berfformiad a chynnydd y dysgwyr ar draws eu rhaglen astudio.
Mae’r e-GDU yn galluogi’r holl randdeiliaid i fonitro cynnydd dysgwyr drwy fewnrwyd y coleg. Gall myfyrwyr gael at helaethrwydd o ddata y mae’r coleg yn ei gasglu, gan ddarparu mwy o ddealltwriaeth a pherchenogaeth o’u hunain yn ddysgwyr. Er enghraifft, mae’r e-GDU yn rhoi gwybodaeth am ddulliau dysgu a ffefrir gan y dysgwyr a’u lefelau medrau sylfaenol; gan ychwanegu at y rhaglen fugeiliol a’r cymorth medrau. Gall y dysgwyr weld y wybodaeth sydd gan y coleg am eu hanghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau bod y trefniadau arholi ac asesu yn berthnasol. Un datblygiad arwyddocaol yw defnyddio’r e-GDU i ysgrifennu tystlythyrau a datganiadau UCAS. Mae’r myfyrwyr yn gallu gweld eu tystlythyrau UCAS pwnc a’r graddau a ragwelir iddynt, sy’n hwyluso ysgrifennu eu datganiadau personol. Caiff datganiadau UCAS eu cyfathreb’n electronig drwy’r e-GDU gan reoli a monitro proses UCAS yn well felly.
Disgrifio natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
Mae’r fenter hon yn cysylltu â llawer o agweddau ar y fframwaith ansawdd a hefyd ar draws mwy nag un cwestiwn allweddol. Mae’r e-GDU yn dadansoddi proffil dysgu dysgwr yn llawn dros amser. Mae hyn yn cynnwys data personol ar gyrhaeddiad a chyflawniad blaenorol, anghenion dysgu ychwanegol, ffactorau risg sefydlog a dynamig, presenoldeb, contractau a chytundebau dysgwyr, cynllunio addysg uwch, yn ogystal â chyflawniad, asesu, adborth ansoddol a chynnydd cyfredol.
Mae blaenoriaethau ar gyfer datblygu yn y dyfodol yn cael eu gosod gan yr Uwch Dîm Arwain, ar y cyd â’r grwpiau perthnasol. Mae datblygiad pellach ar y gweill ar gyfraniad dysgwyr at brosesau hunanarfarnu a chynllunio cyn gweithredu. Mae mynediad i ddysgwyr, drwy i-Phones a dyfeisiau tebyg, wedi’i alluogi a bydd yn cael ei hyrwyddo. Nodwyd y blaenoriaethau hyn drwy adborth gan ddysgwyr. Mae’r rhieni wedi gofyn am fynediad drwy borth ar wahân sydd bellach yn cael ei datblygu. Bydd hwn yn galluogi’r cylch adrodd i fod yn broses barhaus yn hytrach na ‘chiplun’ ar bapur. Bydd y rhieni’n gallu cael trafodaethau ar-lein â staff yn seiliedig ar ddata’r e-GDU. Y bwriad yw y gall y staff fynd i mewn i’r system drwy ddyfeisiau cludadwy safonol a fydd yn cael eu prynu gan y coleg. Bwriedir y bydd y rhain yn cwtogi ar ddefnyddio adnoddau traul ac yn lleihau prosesau biwrocrataidd yn unol â pholisi’r coleg ar gynaliadwyedd amgylcheddol a rheoli llwyth gwaith.
Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr
Mae’r e-GDU wedi effeithio’n amlwg ar gyflwyno’r cwricwlwm wrth ddarparu data dysgwyr a goladwyd. Mae data medrau sylfaenol, dulliau dysgu a chymwysterau wrth gyrraedd yn cael ei gasglu fesul dosbarth, gan wella cynlluniau gwers a sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu bodloni. Mae polisi myfyrwyr a phresenoldeb y coleg hefyd yn cael ei gyflenwi drw’r e-GDU gyda’r gallu i gofnodi rhybuddion a rhoi contractau am fyfyrwyr da ar-lein. Mae’r tryloywder a geir drwy hyn yn hysbysu‟r holl randdeiliaid ac yn canolbwyntio ar ymddygiad cywirol. Mae’r presenoldeb ar draws y coleg wedi codi o 90% i 92% yn yr amser hwn. Mae’r staff cwricwlwm hefyd yn rhoi gwybod am newidiadau amlwg yn agwedd y myfyrwyr at eu hasesiad a gofnodir ar yr e-GDU. Mae’r ffaith bod yr asesu’n cael ei gofnodi’n fwy tryloyw yn cynyddu cymhelliant y myfyrwyr. Cryfheir y cyswllt rhwng ymdrech, perfformiad a chydnabyddiaeth wrth i’r myfyrwyr ymateb i’r adborth a gânt. Roedd adborth gan grŵp ffocws yn nodi bod y dysgwyr wedi derbyn yr e-GDU yn frwdfrydig yn y modd y mae’n cefnogi eu cynnydd ac yn rhoi adborth amdano.