Llwybrau chwilfrydedd - Estyn

Llwybrau chwilfrydedd

Arfer effeithiol

Coleg Sir Gâr a / and Coleg Ceredigion


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan y coleg ymrwymiad cryf i ddysgu proffesiynol parhaus i alluogi staff i ddatblygu eu medrau, a chefnogi nod y coleg i gyflwyno profiad ysbrydoledig i ddysgwyr. Mae model dysgu proffesiynol Llwybr Rhagoriaeth y coleg yn annog staff i hunanfyfyrio a hunanasesu ac asesu cymheiriaid i nodi meysydd i’w datblygu er mwyn iddynt allu manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol ac unigoledig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Llwybrau Teilwredig ar gyfer Dysgu Proffesiynol – Diwylliant o Chwilfrydedd 
Mae’r coleg wedi ymrwymo i ysbrydoli chwilfrydedd ymhlith pawb sy’n gweithio ac yn dysgu yn y coleg. Mae’r coleg yn cynorthwyo staff i fod yn arloesol, yn greadigol a’u herio eu hunain i ddysgu er mwyn ysbrydoli dysgwyr i wneud yr un fath. Mae’r coleg yn cydnabod bod angen i staff arwain trwy esiampl er mwyn bod yn fodelau rôl i ddysgwyr o ran grym chwilfrydedd.

Mae llwybrau chwilfrydedd y coleg yn gyfres deilwredig o lwybrau dysgu proffesiynol y gall staff ddewis eu cymryd. Mae hyn yn galluogi staff i fanteisio ar gyfres bersonoledig a theilwredig o weithgareddau dysgu proffesiynol sy’n gweddu’n agos i’w hanghenion unigol. Yn dilyn proses fyfyriol hunanwerthuso a thrafodaethau proffesiynol, gall staff ddewis dilyn llwybr am flwyddyn academaidd wedi’i seilio ar feysydd i’w datblygu a nodwyd a’u synnwyr chwilfrydedd naturiol. Cefnogir pob llwybr gan y tîm addysgu a dysgu canolog yn cydweithio â thimau rheoli cyfadrannau a’r uwch dîm arweinyddiaeth. Mae llwybrau’n cynnwys: llwybr ymchwil weithredu, llwybr Technoleg Addysg, llwybr diwydiant, llwybr dechreuwyr newydd, llwybr cymhwyster proffesiynol, llwybr arweinyddiaeth, llwybr llywodraethwyr a llwybr dwyieithog.

Llwybr Ymchwil Weithredu 
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i bara am y flwyddyn academaidd lawn, gyda phob aelod o staff yn cael ei ryddhau o addysgu am 2 awr yr wythnos.Mae staff yn cyflwyno cynigion prosiect a darperir adborth adeiladol gan banel sy’n cynorthwyo datblygiad y prosiect o’r dechrau. Caiff dawn greadigol ei meithrin a gall staff fynd â’u prosiect yn y cyfeiriad sy’n berthnasol i’w harfer, yn eu barn nhw; gallant benderfynu ar ffocws, methodoleg a natur y deilliannau. Trwy gymorth un i un, mae gan staff berchnogaeth dros sut bydd y prosiect yn esblygu ac yn addasu wrth gaffael dysgu newydd. Mae nodweddion unigryw’r rhaglenni yn cynnwys:

  •    Rhaglen siaradwyr gwadd 
  •    Gweithdai techneg
  •    Cymorth un i un 
  •    Grwpiau adolygu cymheiriaid 
  •    Gŵyl Ymarfer a gwefan 
  •    Rhoddir cymorth i rannu a chyhoeddi gwaith.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr??

Yn 2021-2022, canolbwyntiodd thema Ymchwil Weithredu’r coleg ar Ymgysylltu a Chadw. Yn yr hinsawdd bresennol, ar ôl y pandemig, roedd targed y coleg, sef 90% ar gyfer presenoldeb i ddysgwyr yn drothwy anodd ei gyrraedd. Ym mis Mawrth 2022, y gyfradd presenoldeb ar draws y coleg oedd 86%, ac ers mis Mai, mae wedi gostwng i 84%. Isod, ceir cipolwg ar enghreifftiau o ddata sy’n cefnogi’r effaith gadarnhaol ar bresenoldeb ar gyfer y grwpiau hynny o ddysgwyr sy’n cael eu haddysgu gan staff yn ymgymryd ag ymchwil weithredu. Cymerwyd y data ym mis Mai 2022 wrth i staff gwblhau eu prosiectau. 

Y Prosiect Technoleg Cerddoriaeth sy’n defnyddio presenoldeb presennol yr Amgylchedd Meddwl (Thinking Environment) ar gyfer grwpiau sy’n cymryd rhan yn y prosiect: Lefel 3 Blwyddyn 1 = 92.9%, Lefel 3 Blwyddyn 2 = 92.8%. Presenoldeb presennol y grŵp nad yw’n cymryd rhan = 79.2%.

Darlithydd yn y Diwydiannau Creadigol:

Yn fy ngrŵp Blwyddyn 2 i, aeth y presenoldeb o 83% i 92.9% a effeithiodd ar ymgysylltu a chwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Wedyn, bu gwelliant yn y gyfradd cwblhau yn llwyddiannus o 88% i 100%, gyda 40% o fyfyrwyr yn cyflawni gradd Anrhydedd, o gymharu â 28% yn y flwyddyn flaenorol. Mae rhoi perchnogaeth i ddysgwyr ddewis eu hamserlen eu hunain nid yn unig wedi cynyddu presenoldeb, mae wedi gwella ymgysylltu a brwdfrydedd hefyd.

Mae caniatáu i ddysgwyr gael perchnogaeth o’u hamserlen eu hunain, gan ddewis o blith detholiad o weithdai, wedi galluogi prosiectau i fod yn fwy amlddisgyblaethol. Gallai dylunydd gwisgoedd ddewis dysgu weldio ynghyd â thorri patrymau. Deilliodd y prosiect hwn er mwyn alinio ymhellach â’r byd celf a dylunio, lle mae angen i ymarferwyr fod yn fwy amlddisgyblaethol, hyblyg ac addasadwy i’r economi.

Gŵyl Ymarfer 
Mae’r rhaglen yn gorffen â Gŵyl Ymarfer y coleg, ac fe gaiff gwefan ei chynhyrchu sy’n rhoi platfform i bob ymarferwr rannu eu meddwl a’u cynnydd. Caiff sesiynau’r ŵyl eu gyrru gan weithdai a gall staff ar draws y coleg ddewis sesiynau yr hoffent eu mynychu ar sail eu chwilfrydedd eu hunain. Mae’r sesiynau’n rhyngweithiol ac yn annog y rhai sy’n mynychu i ystyried sut gellir ymgorffori’r syniadau a archwilir yn eu meysydd ymarfer eu hunain. Mae’r wefan yn fforwm agored lle caiff staff eu hannog i fod yn greadigol wrth gyflwyno eu gwaith trwy flogiau, ffotograffau, cyflwyniadau, pecynnau cymorth, pytiau sain o gyfweliad llais y dysgwr a staff, ac ysgrifennu ffurfiol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Yn ystod 2021-2022, roedd y Rhaglen Ymchwil Weithredu yn un o ddwy fenter dysgu proffesiynol a archwiliwyd fel rhan o Brosiect Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru dan arweiniad yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. O ganlyniad i’r prosiect hwn, mae’r coleg wedi rhannu datblygu diwylliant ymchwil yn ffurfiol mewn pedwar coleg partner fel rhan o elfen gydweithredol y Gronfa Dysgu Proffesiynol ar gyfer 2022-2023. 
 

Gwybodaeth am y coleg

Daeth Coleg Sir Gâr a Coleg Ceredigion yn goleg integredig ym mis Awst 2017, ac mae bellach yn un coleg, gyda dau frand a saith campws ledled Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r ddau gampws sy’n ffurfio Coleg Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae gan Coleg Sir Gâr bum campws yn Rhydaman, Gelli Aur, Ffynnon Job, Pibwrlwyd a Llanelli. Mae’r coleg yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau galwedigaethol gyda chyfleoedd dilyniant ar gael ar y rhan fwyaf o gyrsiau i’r lefel nesaf, prentisiaethau ac addysg uwch.  

Ar hyn o bryd, mae gan y coleg 5,505 o ddysgwyr addysg bellach, y mae 2,795 ohonynt yn ddysgwyr amser llawn, a 2,710 yn ddysgwyr rhan-amser. O’r dysgwyr amser llawn, mae 80% yn ddysgwyr yn Sir Gâr, a 20% yng Ngheredigion.
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn