Lleoliadau awdurdod lleol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion arbennig annibynol – Hydref 2008
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol:
- gynllunio gwasanaethau yn strategol mewn partneriaeth â phobl eraill i ddarparu cymorth effeithiol nad yw’n addysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig cymhleth a’u teuluoedd;
- gwneud yn siŵr bod ysgolion arbennig annibynnol sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig yn gallu bodloni ystod o anghenion cymhleth disgyblion unigol cyn eu lleoli; a
- sicrhau bod gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal yn cael ei rhoi i’r ysgol cyn lleoli’r disgyblion.
Dylai ysgolion arbennig preswyl sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig:
- sicrhau eu bod yn derbyn disgyblion y mae ganddynt arbenigedd i’w haddysgu yn unig; a
- pheidio â derbyn disgyblion nes eu bod wedi cael gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal gan yr awdurdod lleoli.