Lleisiau disgyblion yn llywio’r cwricwlwm - Estyn

Lleisiau disgyblion yn llywio’r cwricwlwm

Arfer effeithiol

Glan Usk Primary School


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi cynnal diwylliant ac ethos sy’n rhoi llais y disgybl wrth wraidd gwella’r ysgol.  Mae hyn wedi’i ymgorffori’n gadarn ac mae’n cael effaith sylweddol ar les disgyblion a safonau addysgu a dysgu.

Yn unol â chenhadaeth yr ysgol i ‘Gyffroi, Herio a Grymuso’ (Excite, Challenge and Empower), mae disgyblion ac athrawon yn cydweithio â’i gilydd yn effeithiol iawn i sbarduno prosesau gwella ysgol ar bob lefel.  Mae diwylliant yr ysgol wedi’i adeiladu ar rymuso disgyblion i fod yn arweinwyr eu dysgu eu hunain.  Yr amcan sylfaenol yw ennyn a thanio ymgysylltiad disgyblion trwy arloesi’r cwricwlwm.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cynllun ‘Skills learnt Holistically to Inspire, Nurture and Empower’ (SHINE), a lansiwyd ym Medi 2015, yn gwricwlwm cynhwysol wedi’i arwain gan ddysgwyr sy’n cyffroi, herio a grymuso pob dysgwr.  Mae hyn wedi esblygu trwy ddysgu proffesiynol wedi’i arwain gan ymchwil, ac ymgysylltiad â chwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus, i adlewyrchu rôl Ysgol Glan Usk fel ysgol arloesi i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm.

I lansio thema newydd dan arweiniad disgyblion, mae athrawon yn hwyluso diwrnod trochi i ddisgyblion sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu cyfoethog.  Wrth gael eu trochi mewn gweithgareddau hynod greadigol, caiff disgyblion amser i fyfyrio a chynllunio cyfeiriad dysgu yn y dyfodol.  Mae athrawon yn sicrhau bod y cwricwlwm yn adeiladu’n systematig ar wybodaeth a dealltwriaeth flaenorol disgyblion trwy fframwaith blaengar a chynhwysfawr o fedrau.  Mae disgyblion yn penderfynu ar y thema a, chan ddefnyddio medrau, yn adeiladu’r cyd-destun ar gyfer dysgu.  Caiff disgyblion eu grymuso’n ddyddiol trwy fewnbwn uniongyrchol ac ystyrlon i’w profiadau dysgu.  Mae pedwar diben y cwricwlwm newydd i Gymru yn rhan annatod o’r broses gynllunio a dysgu disgyblion.  Mae pob ystafell ddosbarth yn cynnwys Wal Ddysgu i ddisgyblion, sy’n cynnwys cynlluniau a medrau disgyblion a’u syniadau ar gyfer gwersi.  Caiff gwersi cynlluniedig disgyblion eu hamlygu’n ddyddiol a’u harddangos yn glir i bawb eu gweld.

Mae gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o gwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus (y cwricwlwm newydd i Gymru) yn rhagorol.  Mae ‘cynulliadau cwricwlwm’ rheolaidd a dyddiau llais y disgybl yn galluogi pob dysgwr i gynllunio a myfyrio ar syniadau arloesol.  Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion yn rhoi adborth o’r digwyddiadau hyn i dîm arweinyddiaeth yr ysgol, a chaiff syniadau eu hintegreiddio ymhellach i’r cwricwlwm.

Caiff pob profiad dysgu ei wella trwy strategaethau metawybyddol a dulliau dysgu personol wedi’u teilwra.  Caiff disgyblion eu cynnwys mewn creu adnoddau a chyflwyno gwersi ar draws yr ysgol er mwyn ymgorffori strategaethau. 

Wrth arwain arloesi’r cwricwlwm,  mae diwylliant yr ysgol yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol parhaus, deialog broffesiynol ac arfer fyfyriol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae cwricwlwm SHINE yn grymuso dysgwyr i arwain eu dysgu eu hunain.  Mae dealltwriaeth a chynllunio i ddatblygu medrau yn rhagorol.  Mae gan ddysgwyr ddealltwriaeth ragorol o gwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus a’r pedwar diben sydd ynddo.  Mae gan bob plentyn lais sylweddol o ran ffurfio’r cwricwlwm, ac maent yn ddinasyddion gweithredol sy’n gwybod bod eu cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi.  Mae arolwg lles yn rhoi tystiolaeth ddefnyddiol o effaith gadarnhaol llais y dysgwr, strategaethau metawybyddol a dulliau dysgu wedi’u personoli ar agweddau dysgwyr tuag at yr ysgol a’u hymgysylltiad â’u dysgu eu hunain.  Mae cwricwlwm SHINE yn dathlu cyflawniad disgyblion a chynnydd o bob man cychwyn, yn ogystal â’u cyrhaeddiad.  Mae dadansoddiad yr ysgol o arsylwadau gwersi yn dangos tuedd o welliant o un flwyddyn i’r llall o ran ansawdd yr addysgu a dysgu er 2016.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Glan Usk yn ddarparwr hyfforddiant ar gyfer consortiwm rhanbarthol GCA a, thros y blynyddoedd, mae wedi darparu nifer o weithdai â ffocws ar y cwricwlwm a metawybyddiaeth.  Mae’r ysgol wedi cynnal digwyddiadau i rannu’r cwricwlwm â nifer sylweddol o weithwyr proffesiynol ledled y consortiwm a Chymru.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn