Lleihau ymddygiad heriol trwy strategaeth rheoli cadarnhaol
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol.
Agorodd Tŷ Bronllys yn 2006 a dyma oedd yr ysgol a chartref plant cyntaf o dan sefydliad ymbarél Orbis Education and Care. Ei nod yw cynnig cymorth addysg a phreswyl i blant ag awtistiaeth ac ymddygiad heriol. Mae’r ysgol yn cefnogi hyd at 13 o ddisgyblion preswyl a dydd sydd ag anghenion cymhleth yn gysylltiedig ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig.
O ran sut roedd yn mynd ati i reoli ymddygiad, canolbwyntiodd yr ysgol i ddechrau ar reoli risg a diogelwch, a oedd yn briodol o ystyried natur yr ymddygiadau heriol a welwyd ymhlith y disgyblion. Cafodd staff hyfforddiant addas ar ymyriadau corfforol ac roeddent yn gallu rheoli sefyllfaoedd yn dda. Fodd bynnag, prin oedd y ffocws ar fonitro digwyddiadau neu roi addysg i staff ar sut i weithio mewn ffordd ataliol. Nid oedd fforwm ar gyfer trafodaethau tîm amlddisgyblaethol na chydweithredu. Yn ei hanfod, roedd y gwaith yn adweithiol ac nid oedd yn hyrwyddo arfer fyfyriol ar gyfer y disgyblion na’r staff. Roedd presenoldeb a sylw’n dda, ond roedd yr ysgol o’r farn y gallai wneud yn well.
Wrth i’r sefydliad dyfu ac i fwy o ysgolion agor, canolbwyntiodd y cyfarwyddwr addysg ar geisio deall pam roedd digwyddiadau’n codi a sut gallai staff archwilio dulliau mwy ataliol. Yn amlwg, yr ateb oedd datblygu ymagwedd fwy strategol tuag at reoli ymddygiad yn gadarnhaol ar draws yr ysgol a’r lleoliad preswyl.
Gweithiodd y bwrdd cyfarwyddwyr a’r pennaeth addysg yn agos i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd a llunio strategaeth i annog dulliau cyson o reoli ymddygiad. Recriwtiodd yr ysgol dîm clinigol yn cynnwys staff therapi galwedigaethol, iaith a lleferydd, a staff yn arbenigo ar ymddygiad i weithio ochr yn ochr â’r staff addysg a phreswyl.
I ategu’r strategaeth ymddygiad ysgol gyfan, fe wnaeth Orbis Education and Care integreiddio hyfforddiant ar reoli ymddygiad i’r holl staff adeg eu cyfnod sefydlu, yna roeddent yn gallu dilyn cymhwyster wedi’i achredu ar ôl cwblhau eu cyfnod prawf ac roedd cyfle iddynt gwblhau lefelau uwch os ystyriwyd bod hynny’n briodol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Derbynnir yn helaeth fod ymagweddau cadarnhaol at reoli ymddygiad yn arfer effeithiol wrth gefnogi disgyblion ag anabledd dysgu ac anghenion cysylltiedig. Maent yn gofyn am ymagwedd ysgol gyfan at feithrin diwylliant cadarnhaol a chymuned sy’n annog ac yn cefnogi cyflawniadau a llwyddiannau disgyblion. Mae hyn yn golygu bod gan yr ysgol bolisi o beidio â chosbi ac mae’n canolbwyntio ar y canlyniadau naturiol sy’n digwydd. Mae hyn yn wahanol iawn i ddull seiliedig ar gosbau, pan fydd y cyfle i wneud hoff weithgareddau neu gael hoff eitemau yn cael ei atal o ganlyniad.
Mae gan ddisgyblion gynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol, unigol, sydd wedi’i seilio ar ddadansoddiad gweithredol a wnaed gan dîm clinigol yr ysgol. Mae’r cynlluniau’n canolbwyntio ar strategaethau ataliol sylfaenol ac yn cynnwys arweiniad clir ar sut i fodloni anghenion synhwyraidd, cyfathrebu a chymorth y bobl ifanc. Mae’r holl staff yn cyfrannu at eu datblygiad ac yn eu hadolygu’n rheolaidd drwy gyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol sy’n cael eu cynnal ar y safle. Mae gwybodaeth staff yn cael ei harchwilio drwy asesiadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn deall ymyriadau ac yn eu cymhwyso’n gyson. Mae’r asesiadau hyn hefyd yn rhoi fforwm i staff gymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol â’r tîm clinigol a chyfle i gyflwyno’u barn a’u safbwyntiau. Mae staff clinigol a staff gofal preswyl yn gweithio yn yr ysgol ochr yn ochr â’r staff addysg, sy’n ymestyn cydweithredu ymhellach ac yn llywio’r gwaith o lunio cynlluniau.
Yna, caiff effaith y dulliau hyn ei mesur trwy olrhain a monitro enghreifftiau o ymddygiad heriol, defnyddio ymyriadau cyfyngol, ynghyd â chyflawniadau disgyblion a lefelau eu hymgysylltiad. Mae’r dull hwn, sy’n seiliedig ar ddata, yn llywio penderfyniadau. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei rhannu yng nghyfarfodydd misol y tîm amlddisgyblaethol, lle caiff cynlluniau eu trafod a gofynnir am farn disgyblion a gofalwyr, a’u cynnwys mewn arfarniadau ac adolygiadau. Mae cynnwys yr holl randdeiliaid wedi gwella deilliannau a pherthnasoedd cadarnhaol ymhellach. Er enghraifft, mae rhieni’n cyfrannu at strategaethau sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun cymorth ymddygiad ac mae hyn wedi galluogi cyfathrebu mwy agored rhwng rhieni ac aelodau staff, gyda’r nod gyffredin o wella deilliannau i’r plentyn.
Mae mabwysiadu’r dull hwn wedi meithrin perthnasoedd a phrofiadau cadarnhaol, wedi’u hategu gan ddisgwyliadau a ffiniau clir. Mae hyn wedi meithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng disgyblion ac aelodau staff, ac wedi annog ymgysylltiad a chyfranogiad gweithgar drwy gydol y diwrnod ysgol. Mae dadansoddiad cynhwysfawr o ddata sy’n dangos tueddiadau mewn ymddygiadau heriol, hanes blaenorol a ffactorau amgylcheddol, yn ategu hyn hefyd.
Mae ymagwedd yr ysgol at gymorth ymddygiad yn galluogi ymagwedd at ddysgu sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn, gydag amserlenni pwrpasol sy’n adlewyrchu anghenion disgyblion unigol, ac sy’n cynyddu profiadau ac ymgysylltiad cadarnhaol. Ethos yr ysgol yw cydnabod a dathlu pob cyflawniad, ni waeth pa mor fach ydyw. O ganlyniad, mae disgyblion yn dysgu cysylltu mynd i’r ysgol â bod yn hapus ac yn llwyddiannus.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Gall yr ysgol ddangos yn glir trwy ddadansoddiad o ddata fod nifer yr enghreifftiau o ymddygiad heriol wedi gostwng yn sylweddol, felly hefyd y defnydd ar arferion cyfyngol. Mae’r ymagwedd amlddisgyblaethol at gymorth ymddygiad wedi cynyddu dealltwriaeth staff o anghenion y disgyblion, sy’n aml yn gymhleth iawn, ac wedi galluogi’r holl staff i ddarparu addysg a chynnig cymorth cyson. Mae hyn wedi creu strwythur a threfn ddisgwyliadwy, sydd wedi lleihau pryder ac enghreifftiau o ymddygiad heriol. Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu presenoldeb, cyflawniad academaidd a lles i ddisgyblion. Mae wedi cryfhau perthnasoedd â rhieni, gan eu bod yn teimlo bellach fod ganddynt lais, a gall awdurdodau addysg lleol weld manteision aruthrol ddull yr ysgol yn glir. Yn olaf, mae wedi helpu i wella lefelau lles staff, wrth i ddiwylliant yr ymagwedd o beidio â chosbi ddatblygu.
Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae’r cyfarwyddwr addysg yn rhannu arfer dda trwy fentora cymheiriaid a gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau arbenigol eraill. Caiff data a deilliannau eu rhannu fel mater o drefn gyda theuluoedd, cydweithwyr o’r gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r awdurdod lleol mewn adolygiadau blynyddol ac yn ystod arolygiadau. Caiff hanesion o lwyddiant eu rhannu drwy’r sefydliad, drwy gylchlythyr misol ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle y rhoddwyd caniatâd. Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol.