Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned

Arfer effeithiol

Hafod Primary School


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd yr Hafod ar gyrion Abertawe mewn ardal sydd ymhlith y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r Hafod yn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae 242 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng tair ac un ar ddeg oed. Mae’r ysgol yn rheoli darpariaeth Dechrau’n Deg ar y safle. Mae gan ryw 38% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae 50% o ddisgyblion yn Wyn Prydeinig, a 45% o dreftadaeth Asiaidd, Bangladeshaidd yn bennaf. Mae tua hanner y disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Siaredir pymtheg o ieithoedd. Mae gan 30% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Dull amlasiantaethol o nodi, atal ac ymyrraeth gynnar yw “Plant yn y Gymdogaeth” (KIN). Dechreuodd yn 2011 pan aeth Prif Uwch-arolygydd yr heddlu at yr ysgol gyda phryderon am lefelau cynyddol o ymddygiad/troseddolrwydd yn y gymuned.

Roedd yr ysgol hefyd wedi nodi disgyblion a oedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn a’u holrhain trwy’r sector uwchradd. Nid oedd llawer o’r disgyblion hyn mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NACH).

Mae’r gymuned wedi cael gwybod bod yr ysgol, yr heddlu ac asiantaethau eraill yn cydweithio i ddileu ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd. Mae aelodau o’r gymuned wedi derbyn y prosiect a’i groesawu ac maent yn defnyddio’r ysgol a’i gysylltiadau yn effeithiol erbyn hyn i rannu gwybodaeth a rhoi gwybod am ddigwyddiadau.

Mae’r prosiect wedi datblygu dros dair blynedd, ac mae bellach yn ceisio asesu unrhyw rwystrau posibl rhag dysgu. Mae’r ysgol neu ei hasiantaethau partner yn nodi ac yn asesu’r disgyblion a’u teuluoedd ac yn rhannu gwybodaeth yn briodol, yn effeithiol ac yn hyderus, gyda chaniatâd pob un o’r rhieni/gofalwyr. Mae staff yn dadansoddi data o ffynonellau amrywiol, fel: y ‘proffil dadansoddi disgyblion sy’n agored i niwed’, asesiadau athrawon, presenoldeb, a phrofion cenedlaethol. Mae’n ystyried unrhyw wybodaeth arall o ffynonellau priodol hefyd, fel: yr heddlu, yr uned ymddygiad gwrthgymdeithasol, yr adran iechyd leol, y swyddog lles addysg, y gwasanaeth tân, gwasanaethau cymdeithasol, a’r ysgol gyfun leol.

Mae asiantaethau yn cyfarfod bob mis yn yr ysgol ac yn cyfrannu at systemau monitro/olrhain yr ysgol, gan gynnig gwybodaeth ychwanegol, rhoi cymorth neu ymyriadau atal.

Yn ystod y dasg sgrinio a nodi gyntaf, canfu’r ysgol:

  • bod 100% o’r disgyblion a nodwyd o gefndiroedd teuluol difreintiedig;
  • bod presenoldeb 60% o ddisgyblion islaw 89%;
  • nad oedd 100% ohonynt yn hyderus mewn pynciau craidd;
  • nad oedd 100% ohonynt yn cyflawni eu lefel ddisgwyliedig;
  • nad oedd 60% o gyfweliadau â disgyblion yn cyd-fynd â chyfweliadau â rhieni;
  • bod 100% ohonynt yn teimlo nad oedd ganddynt unrhyw un i siarad ag ef/â hi na modelau rôl cadarnhaol;
  • bod 100% ohonynt wedi bod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned neu ar y cae chwarae; a
  • bod yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am 100% ohonynt.

Rhannodd yr ysgol y wybodaeth gyda’i hasiantaethau partner ynghyd â’i gwaith ymchwil ar amddifadedd oedd yn dangos cysylltiad cryf â pherfformiad gwaelach mewn addysg.

Mae gwaith yr ysgol wedi canfod:
bod lefelau isel o gyflawniad addysgol yn cael effaith negyddol ar ymgysylltiad unigolyn â chymdeithas ac mae’n debygol iawn y bydd yr unigolion hyn yn ymgymryd â gweithgarwch troseddol;

  • bod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim deirgwaith yn fwy tebygol o fod ag anghenion addysgol arbennig. Mae cymhwyster i gael prydau ysgol am ddim yn uchel iawn ar gyfer tri math o anghenion addysgol arbennig – ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol;
  • bod amddifadedd incwm a materol yn dylanwadu ar ddeilliannau addysgol gan leihau nifer yr adnoddau addysgol, ac amgylchedd y cartref;
  • bod amddifadedd yn gysylltiedig â salwch, straen teuluol, lefelau isel o addysg rhieni a’u hymglymiad yn addysg eu plant, lefelau isel o gyfalaf diwylliannol a chymdeithasol a dyheadau isel;
  • bod gan ddisgyblion fwy o risg o gyfradd geni is, sy’n gallu dylanwadu ar ddatblygiad gwybyddol/corfforol;
  • bod incwm isel yn cael effeithiau niweidiol ar les rhieni sy’n effeithio ar ansawdd eu rhianta. Gall straen teuluol arwain at broblemau gyda datblygiad addysg/emosiynol plant. Mae posibilrwydd uwch o amlygu disgyblion i ffactorau risg lluosog, e.e. iselder, trais domestig, diweithdra, gorlenwi, camddefnyddio sylweddau;
  • y gallai gwybodaeth/medrau/diddordebau disgyblion o gefndiroedd gwahanol (cymdeithasol/diwylliannol) fod yn gyfyngedig, gan o bosibl arwain at gysylltiadau/cyfleoedd cymdeithasol gwaelach; a
  • bod lefelau llythrennedd isel pan fydd disgyblion yn dechrau yn yr ysgol yn golygu eu bod yn fwy tebygol o fod ar ei hôl hi ac y byddant yn ei chael yn anodd dal i fyny. Mae hyn yn effeithio ar eu lefelau cyrhaeddiad, a’u hymgysylltiad a’u gallu i fanteisio ar y cwricwlwm.

Wedi iddynt gwblhau’r asesiadau a rhannu’r wybodaeth a chanfyddiadau’r gwaith ymchwil, defnyddiodd staff broffiliau Boxall, data presenoldeb, data Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol (PASS), asesiadau athrawon, ymgysylltu a dadansoddi teuluol a dadansoddiad o’r profion darllen i fesur cynnydd a llwyddiant y prosiect yn gyffredinol. Dyfeisiodd staff fatrics effeithiol i rannu gwybodaeth gan/gydag asiantaethau partner mewn cyfarfodydd misol.

Mae staff yn nodi anghenion pob unigolyn ac yn gweithredu a monitro rhaglenni ymyrraeth priodol i wella canlyniadau ar gyfer yr unigolion hynny.

Mae ymyriadau yn cynnwys:-

Cymorth i deuluoedd

Nodau:

  • Cyflogi swyddog cymorth teuluol a datblygu tîm dysgu teuluol i;
  • Ddatblygu amgylchedd teuluol mwy sefydlog a mynd i’r afael ag achos gwreiddiol ac effaith negyddol tlodi teuluol. Darparu cwnsela ar gyfer rhieni a theuluoedd.
  • Galluogi dechrau teg mewn bywyd gan ddarparu cymorth iechyd a rhianta
  • Darparu dosbarthiadau Saesneg a rhifedd ar gyfer rhieni i ganolbwyntio ar wella eu medrau llythrennedd a rhifedd eu hunain gan felly effeithio ar gynorthwyo â dysgu eu plant gartref.

Mae asiantaethau partner yn cynnwys; Swyddog cymorth teuluol, Tîm Cymunedau yn Gyntaf, Nyrs Ysgol, Tîm TAF, tîm Dechrau’n Deg, Eyst.

Gwella Llythrennedd a Rhifedd

Nodau:

  • Darparu sesiynau Dal i Fyny ar gyfer disgyblion sydd ar ei hôl hi
  • Cyflwyno dull ffonig strwythuredig
  • Cyflwyno adnoddau cadarn i wella rhifedd/rhesymu
  • Canolbwyntio adnoddau – cefnogi disgyblion mewn grwpiau bach
  • Cymorth targedig i ddisgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a disgyblion mwy abl a dawnus

Mae asiantaethau partneriaeth yn cynnwys; EMLAS, EYST, y cydlynydd ADY
Gwella Presenoldeb

  • Penodi swyddog presenoldeb/lles i weithio gyda’r swyddog lles addysg, disgyblion a theuluoedd.

Roedd asiantaethau partner yn cynnwys: swyddog presenoldeb ysgolion, gweithiwr cymorth teuluol, y swyddog lles addysg, clerc yr ysgol

Gwella lles emosiynol

  • Penodi cwnselwr ysgol
  • Staff cymorth wedi eu hyfforddi yn Play Derbyshire
  • Cyflwyno rhaglen PATHs

Asiantaethau partner: cwnselwr ysgol, staff cymorth, The Exchange, Barnardo’s
Ymgorffori prosiect ‘SO TO DO’

Nod:

  • Lleihau nifer y disgyblion sy’n cael eu cofnodi yn y system cyfiawnder ieuenctid
  • Lleihau nifer y disgyblion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NACH)
  • Lleihau anafiadau sy’n cael eu hachosi gan ddamweiniau

Asiantaethau partner: Yr heddlu, swyddog ymddygiad gwrthgymdeithasol, tân, sgwad cyffuriau/diogelwch.

Y nod yw darparu modelau rôl o’r asiantaethau. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau i’w haddysgu am ganlyniadau eu gweithredoedd. Mae’r rhaglen hon wedi cael dylanwad pwerus ar ein disgyblion ac mae nifer y digwyddiadau gwrthgymdeithasol yr adroddir amdanynt yn y gymuned wedi gostwng yn sylweddol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Ers cyflwyno’r prosiect:

  • mae presenoldeb wedi gwella o 87% i 94.7%;
  • mae pob disgybl yn gwneud cynnydd sylweddol o’u gwaelodlin ac mae bron pob un ohonynt yn cyflawni lefelau disgwyliedig ar gyfer eu hoedran. Mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn perfformio cystal â’u cyfoedion neu’n well;
  • nid yw’r ysgol wedi gwahardd unrhyw ddisgybl;
  • ceir perthynas ragorol rhwng y rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect, ac mae disgyblion yn trosglwyddo’n ddi-dor o leoliadau cyn-ysgol i’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.

Mae presenoldeb yn parhau i fod yn uchel – uwchlaw 94% – ac mae gweithdrefnau monitro


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn