Lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol - Estyn

Lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol

Arfer effeithiol

Mary Immaculate R.C. High School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog yn ysgol gyfun Gatholig cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11-16 oed yng ngorllewin Caerdydd. Mae tua 786 o ddisgyblion ar y gofrestr ac mae’r ysgol yn derbyn disgyblion o ardal ddaearyddol eang. Mae tua 40% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan oddeutu 11% o ddisgyblion angen dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig bach ohonynt ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Daw mwyafrif o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig ac mae llawer ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Nid oes unrhyw ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg. Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Medi 2014.

Diwylliant o ddisgwyliadau uchel

Mae arweinwyr yn defnyddio’u cenhadaeth Gatholig i fabwysiadu ymagwedd strategol a chynhwysfawr at leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion, gan ddileu rhwystrau rhag dysgu a datblygu gwydnwch ac uchelgais yn eu dysgwyr. Nod yr ysgol yw datblygu diwylliant nad yw fyth yn gostwng ei safonau ond sy’n sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd y safonau hynny gyda chymorth. Mae arweinwyr yn ymdrechu i sicrhau bod yr ethos hwn yn rhan o bopeth maen nhw’n ei wneud.

Mae dros 70% o ddisgyblion wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg. O ystyried hynny, mae’r hyn mae’r ysgol yn ei gynnig ac yn ei wneud ar gael i bawb. Maent yn olrhain disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond yn deall bod difreintedd yn effeithio ar lawer o ddisgyblion eraill a theuluoedd, felly mae’r cymorth a’r her i bawb, ac nid yw’n canolbwyntio ar un grŵp penodol. Mae arweinwyr yn defnyddio data profion i osod targedau academaidd uchelgeisiol iawn i bawb, ond mae disgwyliadau uchel yn llinyn drwy bopeth – gan gynnwys ymddygiad, perthnasoedd a gwisg (y mae’r ysgol yn ei darparu i ddisgyblion os bydd angen).

Y Cwricwlwm a Dysgu

Mae’r ysgol yn gosod pwyslais cryf ar ddarparu cwricwlwm eang iawn a chyfoeth o brofiadau cyfoethogi sy’n ehangu gorwelion disgyblion ac sy’n rhoi mynediad iddynt i gyfleoedd na fyddant efallai ar gael iddynt, fel arall. Mae’r ysgol yn cynnal cwricwlwm cyfoethogi wedi’i amserlennu i Flynyddoedd 9-11 i gefnogi datblygiad medrau estynedig. Mae hyn bob amser yn cynnwys cyrsiau heb arholiadau sy’n gwella lles disgyblion ac sy’n cynnwys gweithgareddau fel iaith arwyddion, garddio, cymorth cyntaf, tecstilau neu addurno cacennau. Yn ogystal, mae sesiynau ‘Adolygiad Academaidd’ yn digwydd yn ystod amser tiwtor. Mae’r rhain yn cynnwys cwrs ar adeiladu ‘cyfalaf diwylliannol’ trwy roi gwybodaeth hanesyddol a moesegol eang i ddisgyblion sy’n ymestyn eu cymeriad ac ehangder eu dealltwriaeth o’r byd. Mae disgyblion hefyd yn elwa o amrywiaeth eang o deithiau a gweithgareddau allgyrsiol sy’n cefnogi dysgu ac yn rhoi cyfleoedd i ehangu eu profiadau a datblygu medrau pellach. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys clybiau chwaraeon, celf a chrefft, teithiau i fusnesau neu encilio i ardaloedd lleol am weithgareddau awyr agored. Gall disgyblion ddefnyddio gwasanaeth bws ar ôl ysgol sy’n eu cynorthwyo i fynd i weithgareddau allgyrsiol.

Mae’r ysgol yn dal yr holl brofiadau y mae disgyblion wedi manteisio arnynt trwy ei ‘Rhaglen Gorwelion’. Mae hyn yn olrhain y digwyddiadau diwylliannol, uchelgeisiol, pontio a gyrfaoedd i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu manteisio’n gynhwysfawr ar brofiadau sy’n gwella’u huchelgais. Mae’r wythnos diwylliant blynyddol yn adeiladu ar hyn, gyda dathliad o natur amrywiol cymuned yr ysgol.

Dileu’r rhwystrau rhag dysgu

Mae pwyslais yr ysgol ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u teuluoedd a’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi lles disgyblion yn ganolog i’w hymagwedd ar gyfer lliniaru effaith tlodi. Mae cyfleuster ‘Pont’ yr ysgol i ddisgyblion agored i niwed yn cynnig cymorth pwrpasol i ddisgyblion oresgyn unrhyw rwystrau rhag dysgu, gan eu meithrin yn barod ar gyfer y byd go iawn, gyda’r nod o wella’u lles emosiynol a meddyliol. Mae’r ‘Bont’ yn cynnig lloches, ynghyd ag ymyriadau pwrpasol sy’n cynnwys ymyriadau profedigaeth a rheoleiddio emosiynol. Mae’r tîm yn y cyfleuster yn cynnwys nifer o Gynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl sy’n cefnogi unigolion mewn rôl fentora. Mae staff lles yn gweithio’n agos ac yn llwyddiannus gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol, fel Timau Arbenigol Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cynradd, Nyrs yr Ysgol, Cynghorydd allanol yr Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Therapydd Cerdd. Gyda nifer fawr yn aml o ddisgyblion yng ngofal yr awdurdod lleol, mae’r ysgol wedi penodi hyrwyddwr disgyblion yng ngofal yr awdurdod lleol i gefnogi eu hanghenion yn benodol, ynghyd â chymorth penodol i’r gofalwyr ifanc niferus yng nghymuned yr ysgol.

Mae ymagwedd tîm yr ysgol at ddiogelu yn golygu bod amrywiaeth o staff wedi cael hyfforddiant i lefel uchel mewn prosesau diogelu. Mae hyn yn golygu bod dealltwriaeth gyffredin gadarn o bwysigrwydd canolog diogelu.

Mae’r ysgol yn rhedeg ei ffreutur ei hun. Mae staff yn y ffreutur yn adnabod y disgyblion yn dda. Maent yn sicrhau eu bod yn cael diet da yn yr ysgol a chaiff cymorth ei dargedu at ddisgyblion a all wynebu difreintedd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn