Lleihau anghydraddoldebau sydd wedi’u hachosi gan dlodi, trwy bartneriaethau cymunedol cryf

Arfer effeithiol

Cwmaman Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwmaman yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli ym mhentref Cwmaman, ger Aberdâr, yn awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf. Mae gan yr ysgol 214 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed, wedi’u trefnu’n 8 dosbarth. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth feithrin ran-amser o’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 3 oed. Nodir bod gan oddeutu 22.6% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae’r holl ddisgyblion yn defnyddio Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Mae 35.2% y cant o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Cydnabyddir bod Ward Cwmaman yn ardal o ddifreintedd sylweddol ac mae wedi gosod yn 288fed o blith 1,909 ardal leol yng Nghymru. Mae yn yr 11%-20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019). Mae tai, diweithdra ac iechyd gwael yn cyfrannu’n sylweddol at ei ddifreintedd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Cwmaman yn ardal sydd â chyfran sylweddol o’i phoblogaeth yn byw mewn tlodi ac mae ganddi gyfraddau uchel o ddiweithdra. Mae arweinwyr yn Ysgol Gynradd Cwmaman yn cydnabod natur gymhleth tlodi a’i effaith bosibl ar ddisgyblion. Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos gyda’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG), gyda’r nod o ddileu unrhyw rwystrau ariannol rhag dysgu a lles i ddisgyblion o aelwydydd incwm isel. Mae’r ysgol yn meithrin a chynnal partneriaethau cymunedol cryf ac mae’n ennyn cydweithredu ymhlith asiantaethau llywodraeth leol, sefydliadau nid er elw, busnesau, lleoliadau addysgol ac aelodau’r gymuned. Mae’r partneriaethau hyn yn cryfhau nod yr ysgol, sef grymuso teuluoedd sy’n byw mewn tlodi, datblygu’u sgiliau, darparu mynediad at adnoddau ac amlygu cyfleoedd am symudedd economaidd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn meithrin cysylltiadau pwrpasol â rhieni a’r gymuned i sicrhau nad yw’r un plentyn yn yr ysgol eisiau bwyd a bod pob plentyn yn gallu gwneud dewisiadau bwyd sy’n eu galluogi i ffynnu. Mae’r fenter Big Box Bwyd ganlyniadol yn darparu bwyd i blant a theuluoedd am brisiau ‘talu fel y gallwch’. Mae’r fenter hefyd yn galluogi disgyblion i dyfu bwyd a choginio prydau bwyd. 

Mae uwch arweinydd yr ysgol ar gyfer ymglymiad cymunedol yn arwain y strategaeth, sy’n canolbwyntio ar: 

  • Big Box Bwyd – siop ‘talu fel y gallwch’ ar gyfer rhoddion bwyd a nwyddau’r cartref. 
  • Mynediad at nwyddau hylendid am ddim a chyfnewid gwisg ysgol. 
  • Creu elusen, ‘Cwm Unity’, sy’n cael ei redeg gan aelodau’r gymuned a’r ysgol. 
  • Mae uwch arweinwyr ac aelodau’r gymuned yn gweithio’n agos gyda darparwyr y Big Box Bwyd i reoli a gwella’r siop. 
  • Llwyddo i sicrhau grantiau i sicrhau bod cyflenwadau ar gael bob amser 
  • Partneru â sefydliadau sy’n cefnogi teuluoedd i gael gafael ar nwyddau gwyn, gwelyau, matresi a thalebau ynni (roedd dros gant o deuluoedd yn llwyddiannus). 
  • Mae grwpiau arweinyddiaeth disgyblion yr ysgol yn cydweithredu â Cwm Unity i drefnu cyfnewid gwisg ysgol, cyfnewid siwmperi Nadolig, bagiau nwyddau hylendid a phecynnau prydau bwyd cost isel. 
  • Ymwneud gan ddisgyblion trwy adeiladu gwelyau uwch i dyfu llysiau i’r siop. 
  • Darparu gwersi coginio wythnosol i deuluoedd gan ddefnyddio’r pecynnau prydau bwyd cost isel.
  • Cynnal boreau coffi rhwng y cenedlaethau, lle y gall aelodau’r gymuned gael gafael ar nwyddau am ddim fel blancedi, poteli dŵr poeth, menig, hetiau ac ati. 
  • Trefnu digwyddiadau cymunedol cost isel fel brecwast gyda Siôn Corn a swper pysgod a sglodion. 
  • Sefydlu ac ariannu grŵp Mums and Tots yn yr ardal. Dyma’r unig grŵp o’i fath yn y pentref.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae’r astudiaeth achos hon yn amlygu grym trawsnewidiol partneriaethau cymunedol cryf wrth leihau effaith tlodi. Trwy ddwyn rhanddeiliaid ynghyd o wahanol sectorau a grymuso trigolion i gymryd perchnogaeth ar eu dyfodol, mae’r fenter yn dangos sut gall gweithredu cyfunol greu newid cadarnhaol ac adeiladu cymunedau tecach a mwy gwydn. 
  • Mae cefnogi teuluoedd gyda’r argyfwng costau byw a bodloni eu hanghenion sylfaenol yn lliniaru’r pwysau ar deuluoedd ac mae’n galluogi disgyblion i gymryd rhan yn llawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, dim ots beth yw eu hamgylchiadau ariannol, cymdeithasol ac economaidd. 
  • Mae disgyblion yn ymwneud fwyfwy â’u dysgu ac mae pob un ohonynt yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu’u gwybodaeth a’u medrau ar draws y cwricwlwm. Maent yn ymddwyn yn barchus ac yn datblygu lles. 
  • Mae perthnasoedd â rhieni, y gymuned leol ac asiantaethau proffesiynol yn gryfder.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymagwedd yr ysgol at leihau anghydraddoldebau sydd wedi’u hachosi gan dlodi trwy bartneriaethau cymunedol cryf wedi cael ei rhannu gydag ysgolion lleol ac ysgolion yng nghymuned y Big Bocs Bwyd. Mae uwch arweinwyr wedi ymweld â’r ysgol i weld y dull ar waith. Mae’r strategaeth wedi cael ei rhannu â chymuned a llywodraethwyr yr ysgol trwy gyflwyniadau dan arweiniad grwpiau arweinyddiaeth disgyblion ac yn ehangach trwy’r cyfryngau cymdeithasol.


Lleihau anghydraddoldebau sydd wedi’u hachosi gan dlodi, trwy bartneriaethau cymunedol cryf - Estyn