Llais y Dysgwr yng Ngholeg Sir Benfro
Quick links:
- Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth
- Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
- Disgrifio natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
- Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr
Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth
Mae Coleg Sir Benfro wedi cynnal y twf o ran ymrestriadau myfyrwyr ers 1993. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys AB ac AU amser llawn a rhan-amser, rhaglenni yn y gwaith a rhaglenni masnachol, allgymorth, cyrsiau cymunedol a dysgu ar-lein. Roedd mwy na 10,000 o fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser wedi ymrestru yn ystod 2009/10 ac mae’r Coleg yn disgwyl recriwtio nifer tebyg ar gyfer 2010/11.
Mae’r cyfanswm ymrestru myfyrwyr ar gyfer 2009/10 yn cael ei ffurfio o’r categorïau canlynol:
Addysg Bellach Amser Llawn: 1758 Addysg Uwch Amser Llawn: 133
Addysg Bellach Rhan-amser: 7448 Addysg Uwch Rhan-amser: 337
Dysgu yn y Gwaith: 665
Mae dros 120 o fyfyrwyr rhyngwladol yn ymrestru gyda’r Coleg bob blwyddyn hefyd.
Mae’r prif gampws yn nhref sirol Hwlffordd (poblogaeth 17,000). Cafodd adeilad Canolfan Arloesi £3.2 miliwn, sy’n arbenigo mewn uwch dechnoleg, ei agor yn swyddogol ar y safle ym mis Tachwedd 2003. Mae Canolfan Adeiladu newydd hefyd wedi’i chodi ac agorodd honno i’r myfyrwyr ym mis Medi 2008 gan alluogi’r Coleg i adael safleoedd llai addas a oedd yn cael eu prydlesu oddi ar y safle. Yn ystod 2009, gwariwyd £4miliwn i ailwampio ac estyn yr asgell beirianneg a chwblhawyd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2010. Mae’r cyfleusterau newydd hyn yn darparu’r adnoddau ynni adnewyddadwy, olew a nwy diweddaraf i gyflwyno cwricwlwm sy’n bodloni angen diwydiant lleol. Mae campws arall yn Aberdaugleddau ac yno cyflenwir cyrsiau cyfrifiadura, adeiladu cychod a pheirianneg a defnyddir canolfannau eraill yr AALl a mannau cymunedol i gyflenwi rhaglen STEP y Coleg. Yn y gorffennol, mae’r Coleg wedi etholfreinio ei holl ddarpariaeth AU o Brifysgol Morgannwg ond mae bellach yn datblygu ei berthynas â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant er mwyn darparu dilyniant i AU yn rhanbarthol ar amrywiaeth o raddau galwedigaethol.
Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector, a nodwyd yn ystod yr arolygiad, yn berthnasol i gwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd arbennig:
Mae gwaith Llais y Dysgwr yn berthnasol i ddangosyddion ansawdd allweddol 1.2.3 a 3.2.1. Yng Ngholeg Sir Benfro mae Llais y Dysgwr yn canolbwyntio ar sut gall myfyrwyr gyfrannu at fywyd yn y Coleg, drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau. Mae’r myfyrwyr yn ystyried datblygu strategaeth y Coleg ar gyfer Llais y Dysgwr, ei gweithredu a’r effaith a gaiff ar ddysgu, cymorth a chyflwyno gwasanaethau i holl fyfyrwyr y Coleg.
Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
Mae Coleg Sir Benfro wedi annog ei ddysgwyr erioed i gyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u dysgu. Yn sefydliad, mae’r Coleg yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgwyr yn cyfrannu at bob maes a dargedir i’w wella gan gynnwys addysgu, dysgu, darparu gwasanaeth a chymorth. Ers blynyddoedd lawer, bu’r Coleg yn cynnwys ei ddysgwyr yn y prosesau cynllunio strategol a gweithredol. Drwy Strategaeth Llais y Dysgwr, mae’r Coleg wedi arddangos ymrwymiad i feithrin arfer gyfredol ymhellach ac ymgynghori ac ymgysylltu ymhellach â’r dysgwyr mewn perthynas â phob agwedd ar fywyd y Coleg.
Bu’r Coleg yn cymryd rhan yng nghynllun peilot cenedlaethol Llais y Dysgwr ac, o ganlyniad, aeth ati i gwblhau ei Strategaeth flwyddyn yn gynnar. Cafodd y dysgwyr a’r staff eu cynnwys wrth ysgrifennu’r strategaeth, sy’n berthnasol i’r safonau cenedlaethol. Datblygwyd y strategaeth hefyd ynghylch arfer dda bresennol ac mae’n ymgorffori cynllun gweithredu sy’n cynnwys lledaenu Llais y Dysgwr yn y Coleg a rolau penodol yr holl staff dan sylw. Cymeradwywyd y Strategaeth gan y Bwrdd Llywodraethwyr ac fe’i gweithredwyd ym mis Medi 2010.
Disgrifio natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
Mae rhaglen Llais y Dysgwr gynhwysfawr yn y Coleg sy’n cynnwys: pwyllgorau rhagweithiol Llais y Dysgwr, diwrnodau siarad â myfyrwyr (sy’n arwain at fonitro adroddiadau a chynlluniau gweithredu drwy’r Uwch Dîm Rheoli), etholiadau democratig o 96 o gynrychiolwyr cwrs, hyfforddiant mentor atal bwlio i 70 o ddysgwyr, grwpiau ffocws, dau fyfyriwrlywodraethwr wedi’u hyfforddi gan UCM, cyfleoedd Cyfoethogi a Gwella a ddewisir gan y dysgwyr, clybiau a chymdeithasau a arweinir gan y dysgwyr, cenhadon myfyrwyr, cynrychiolaeth a Chadeiryddiaeth y Cynulliad Ieuenctid a chynnwys y Cynulliad Ieuenctid ym Mhwyllgor Llais y Dysgwr, blwch sylwadau dysgwyr ac ymatebion, cyfranogi mewn mentrau cenedlaethol a rhanbarthol, cysylltiad ac aelodaeth ag UCM Cymru a chysylltiadau â Phartneriaid Addysg Uwch. Caiff Llais y Dysgwr ei gyflenwi a’i gyfeirio drwy system Mewnrwyd y Coleg (Nexus) sy’n cynnwys gwybodaeth i fyfyrwyr gan gynnwys fforwm rhyngweithiol.
O’r amrywiaeth hon o weithgareddau Llais y Dysgwr, cafwyd llawer enghraifft o newidiadau a wnaethpwyd yn dilyn cyfraniadau adeiladol gan fyfyrwyr, er enghraifft:
- Newidiadau i raglen sefydlu a thiwtorial
- Dewisiadau iachus yn y ffreutur
- Gweithgareddau cyfoethogi a arweinir gan ddysgwyr
- Symud yr ardal ysmygu
- Amseroedd agor y ganolfan adnoddau dysgu
- Defnyddio negeseuon testun i roi gwybod i ddysgwyr am ddigwyddiadau allweddol neu eu hatgoffa amdanynt
- Diwygio’r polisi gliniaduron
- Gweithredu cyfleusterau arian yn ôl
- Ailwampio’r ffreutur
Mae’r Coleg yn datblygu adnoddau technegol ymhellach i Lais y Dysgwr ac mae’n gweithredu system gyfathrebu ar y we i gael barn dysgwyr drwy’r Coleg cyfan, sydd megis cynllun peilot i’r sector AB. Drwy Glwstwr Cwricwlwm a chyfarfodydd yr Uwch Dîm Rheoli, bydd y Coleg yn parhau i fonitro dulliau gweithredu a chyflenwi’r strategaeth. Bydd Cadeirydd Pwyllgor Llais y Dysgwr a’r Myfyriwr-Lywodraethwyr yn parhau i gael eu cefnogi i fynychu hyfforddiant allanol a hwylusir gan UCM Cymru a ColegauCymru. Cyflwynir hyfforddiant achrededig i gynrychiolwyr cwrs a bydd dysgwyr yn cael eu cynnwys yn helaethach yn holl brosesau allweddol y Coleg.
Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr
Cafwyd nifer o fuddion yn sgil gweithredu strategaeth Llais y Dysgwr. Yn y Coleg, gwelwyd cyfraddau uwch o gyfranogiad, cadw, dilyniant a chyflawniad myfyrwyr ochr yn ochr â gwell dealltwriaeth o safbwyntiau’r dysgwyr sy’n cael ei defnyddio i sbarduno datblygiad proffesiynol a sefydliadol ac i wella ansawdd. Mae’r dysgwyr wedi helpu i lywio penderfyniadau ar ddyrannu adnoddau a buddsoddi, sydd wedi sicrhau eu cynnwys ac sydd wedi arwain at fyfyrwyr uwch eu cymhelliant ac awydd i roi rhywbeth yn ôl i’r Coleg. Erbyn hyn, y dysgwyr sy’n ysgogi’r gweithgareddau Cyfoethogi a Gwella.
Wrth i’r myfyrwyr ymgymryd â strategaeth Llais y Dysgwr, maent wedi cael profiad dysgu mwy cyflawn, mae medrau trosglwyddadwy wedi’u datblygu ymhellach a gellir defnyddio’r rhain yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r dysgwyr wedi’u cynnwys mewn cynlluniau strategol a gweithredol ac maent hefyd wedi datblygu medrau cwnsela a mentora. Mae’r ffaith bod y myfyrwyr wedi cael eu cynnwys yn y prosesau penderfynu wedi arwain at well rhyngweithio a gwell perthynas waith â’r staff. Yn ddiweddarach, roedd cyfleoedd i gymryd rhan mewn arolygiad allanol ac roedd y dysgwyr yn falch o allu cyfrannu at y broses.