Llais y disgybl yn arwain y ffordd o ran arfarnu cwricwlwm llwyddiannus - Estyn

Llais y disgybl yn arwain y ffordd o ran arfarnu cwricwlwm llwyddiannus

Arfer effeithiol

Ysgol Cynwyd Sant


Cyd-destun

Mae Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg.  Mae 300 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 40 o ddisgyblion oedran meithrin.  Mae 11 o ddosbarthiadau, sy’n cynnwys pum dosbarth oedran cymysg.

Daw rhai disgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 23% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Mae rhai o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg. 

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Mae’r ysgol wedi datblygu gweithdrefnau hunanarfarnu trylwyr ac effeithiol sy’n ganolog i allu’r arweinwyr i gynllunio a sicrhau gwelliant.  Mae gan yr holl randdeiliaid rôl weithredol yn y broses i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu ymhellach.  Mae llais y disgybl yn nodwedd gref yn nhrefniadau hunanarfarnu’r ysgol.  Mae disgyblion yn cyfrannu’n ystyrlon at y broses trwy gynnal arsylwadau gwersi, cyfrannu at gynllunio’r cwricwlwm a helpu ffurfio polisïau.  Caiff eu llais ddylanwad cryf ar sicrhau cwricwlwm llwyddiannus a sicrhau trefniadau llwyddiannus ar gyfer y celfyddydau creadigol.  Mae’r system lle mae athrawon yn arsylwi gwersi mewn triadau yn nodwedd ragorol o’r broses hon hefyd.  Rhoddir arweiniad clir i staff ar sut i arfarnu effaith yr addysgu ar gynnydd disgyblion trwy arsylwadau cyfoedion mewn triadau sefydledig.

Mae’r trefniadau hyn wedi galluogi’r ysgol i newid yn gyflym.  Mae arweinwyr yr ysgol yn ymgysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid eraill i arfarnu darpariaeth bresennol er mwyn datblygu cwricwlwm eang a chyffrous ar gyfer pob un o’r disgyblion.  Nododd adroddiadau monitro cychwynnol nad oedd cynlluniau gwaith yn ddigon cynhwysfawr i fodloni anghenion pob agwedd ar y cwricwlwm.  Er enghraifft, nid oedd y cynllun gwaith ar gyfer gwyddoniaeth yn cynnig digon o her i ddisgyblion, ac roedd cyfleoedd iddynt ddefnyddio eu medrau ymchwiliol i weithio’n annibynnol yn gyfyngedig.  O ganlyniad, rhoddodd yr ysgol y gorau i ddefnyddio cynlluniau gwaith masnachol i gynllunio gwersi, a datblygwyd eu cynllunio eu hunain yn unol â gweledigaeth yr ysgol i ddarparu ystod eang o brofiadau a chyfleoedd ar gyfer disgyblion, fel eu bod yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar y profiadau hyn yn y dyfodol. 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Nodwedd gref o gynllunio ar gyfer gwella yn yr ysgol yw dealltwriaeth y staff o’u rôl a’u cyfrifoldeb eu hunain.  Mae blaenoriaethau gwella’r ysgol yn cynnwys amcanion a chamau gweithredu penodol i ddatblygu gweithlu gwybodus a fydd yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd.  Mae arweinwyr yn sicrhau amseroedd penodol i’r triadau athrawon gyfarfod er mwyn cynllunio ac arfarnu eu gwaith yn rheolaidd.  Maent yn ystyried ymchwil ac arferion o wledydd eraill yn rheolaidd, fel y ddarpariaeth ar gyfer y celfyddydau mynegiannol yn Quebec, Canada, i gael cymorth ac arweiniad ar ddiwygio’r cwricwlwm.

Mae’r ysgol yn cynnwys pob un o’r rhanddeiliaid yn llwyddiannus ym mhroses sefydlu’r cwricwlwm newydd.  Mae cyfathrebu effeithiol â staff, llywodraethwyr a rhieni yn sicrhau eu dealltwriaeth o unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau yn y ddarpariaeth, a’u hymrwymiad iddynt.  Mae agwedd gadarnhaol yr holl randdeiliaid tuag at gael eu cynnwys mewn gwelliant parhaus yn rhan allweddol o’r ysgol.  O ganlyniad, mae athrawon yn arbrofi ag unrhyw newidiadau ac yn eu rhoi ar waith, er enghraifft themâu ysgol gyfan sy’n hyrwyddo’r pedwar diben, a 12 egwyddor addysgeg arloesol.  Mae cydweithio mewn triadau ar draws sectorau yn atgyfnerthu’r gwaith hwn yn effeithiol ac yn galluogi staff i gydweithio ac arsylwi gwersi ei gilydd.

Mae gan y disgyblion hynaf ymwybyddiaeth dda iawn o’r cwricwlwm newydd ac o’r pedwar diben.  Wrth baratoi disgyblion ar gyfer newid, mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion drafod y pedwar diben a chyfrannu tuag at y paratoadau.  Mae’r matiau dysgu a grëwyd ganddynt yn enghraifft dda o hyn.  Mae disgyblion yn cyfrannu’n effeithiol at gynllunio prosiect ysgol gyfan hefyd.  Er enghraifft, mae disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn rhannu syniadau ar gyfer themâu fel “Pengwiniaid”, “Cwestiynau Mawr Gwyddoniaeth” ac “O, na, problemau!” trwy gynnig gweithgareddau aml-gyfrwng i ddatblygu elfennau o’r fframwaith cymhwysedd digidol. 

Mae arweinwyr yn cynllunio’n bwrpasol i ddatblygu addysgeg effeithiol sy’n adlewyrchu 12 egwyddor addysgeg Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Mae arsylwadau gwersi gan driadau yn arwain at adborth heriol a hyfforddiant penodol ar sut i ddatblygu agweddau ar addysgeg.  Mae’r ysgol yn ganolfan hyfforddi ar gyfer athrawon ar draws pob un o’r pedwar consortiwm, ac mae staff sy’n cyflwyno’r hyfforddiant yn elwa ar ddysgu a rhannu arfer dda gyda chynrychiolwyr.  Caiff hyn effaith gadarnhaol iawn ar eu medrau addysgu eu hunain gan eu bod yn cryfhau eu hymwybyddiaeth o amlinelliadau arddulliau addysgu yn y 12 egwyddor addysgeg.  Mae arweinwyr yn cynnig cymorth o ansawdd da ar gyfer staff ac yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynglŷn â beth, sut a phryd i gyflwyno arddulliau newydd trwy ystyried risgiau pwyllog, a gweithredu yn unol â nhw. 

Cam 3:  Cyflawni newid

Yn ogystal â rhoi strategaethau addysgu newydd ar waith ar draws yr ysgol, mae’r staff wedi ysgrifennu eu diffiniadau eu hunain o’r 12 egwyddor addysgegol a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Mae athrawon yn defnyddio ystod o arddulliau addysgu sy’n annog datblygu medrau meddwl disgyblion a’u gallu i ddefnyddio dulliau asesu ar gyfer dysgu i wella’u gwaith eu hunain.  Rhennir hyn yn llwyddiannus ag ysgolion eraill wrth eu cynorthwyo i nodi eu camau eu hunain ar gyfer datblygu’r cwricwlwm. 

Caiff staff eu hannog i arbrofi â gwahanol ffyrdd o ddarparu profiadau uchelgeisiol ar gyfer eu disgyblion sy’n hyrwyddo’r pedwar diben a’r fframwaith cymhwysedd digidol.  Mae aelodau o’r cyngor ysgol wedi creu a brandio sticeri a phosteri i gynrychioli’r pedwar diben.  Cyflwynir y rhain i ddisgyblion pan fydd eu cyfoedion neu aelodau o staff yn teimlo y buont yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus neu’u bod wedi ymddwyn fel dinasyddion moesegol.  Er enghraifft, dyfarnwyd sticer ‘dinesydd moesegol’ i ddisgyblion, ar ôl sefydlu banc bwyd yn y dref.  Yn ychwanegol, mae staff wedi cael rhyddid i gynllunio cyfres o wersi ar thema ysgol gyfan er mwyn ceisio cynnwys llais y disgybl, y pedwar diben a’r 12 egwyddor addysgeg mewn cynllunio.  Sicrhaodd prosiect ysgol gyfan byr ar ‘bengwiniaid’ gyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau rhifedd, llythrennedd a TGCh, ac ymgyfarwyddo â’r pedwar diben.  Creodd disgyblion ym Mlwyddyn 6 gynllun ar gyfer busnes ‘balm gwefus’, gan ymchwilio i’r farchnad, marchnata’r cynnyrch a chyfrifo elw a cholled.  Galluogodd y prosiect hwn i’r disgyblion ymarfer eu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh mewn cyd-destun bywyd go iawn, a’u hannog i ddefnyddio eu medrau creadigol a pherfformiadol at ddiben.

Mae’r ysgol yn gweithio’n agos â Chyngor y Celfyddydau i gynllunio gweithgareddau cyffrous i ddatblygu medrau llafaredd disgyblion, eu hunanhyder a’u dawn greadigol.  Mae disgyblion yn cydweithio ag ysgolion eraill yn ogystal ag asiant ac ymarferwyr creadigol.  Mae gan arweinwyr ffocws clir ar ddatblygu aelodau o staff fel ymarferwyr creadigol.  Er mwyn ysbrydoli natur greadigol staff a disgyblion, mae’r ysgol yn credu’n gryf bod angen dileu’r ofn o fod yn anghywir yn y lle cyntaf.  Mae hyn yn ganolog i addysgeg yr ysgol er mwyn datblygu i fod yn gymuned ddysgu greadigol ac arloesol. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn