leihau effaith tlodi ac anfantais ar ddysgu disgyblion

Arfer effeithiol

Merthyr Tydfil County Borough Council


Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Ym Merthyr Tudful, fe wnaethom werthuso gwaith y gwasanaeth addysg ar leihau effaith tlodi ac anfantais ar ddysgu disgyblion. Canfuom fod swyddogion wedi meithrin partneriaethau gwerthfawr trwy rwydwaith o wasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol a sefydliadau’r trydydd sector. Sefydlodd yr awdurdod lleol Grŵp Strategol Corfforaethol Mynd i’r Afael â Thlodi i ddarparu arweinyddiaeth a llywodraethu ar gyfer y gwaith hwn. Mae’r grŵp yn cynnwys penaethiaid gwasanaeth ar draws yr awdurdod lleol, ac ystyriodd sut y gellid defnyddio adnoddau mewn ffordd bwrpasol i fynd i’r afael ag anfantais trwy weithio ar draws cyfarwyddiaethau a gweithio mewn partneriaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ar draws gwasanaethau, cafodd swyddogion yr awdurdod lleol drosolwg cynhwysfawr o anghenion dysgwyr bregus a’u teuluoedd. Ar lefel weithredol, gweithiodd arweinwyr gwasanaethau ar draws cyfarwyddiaethau gyda’i gilydd yn dda. Mae ganddynt ddealltwriaeth glir o sut mae eu darpariaeth yn rhan o ymateb aml-wasanaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar addysg. Mae’r Hyb Cymorth Cynnar yn bwynt cyswllt canolog defnyddiol i deuluoedd fanteisio ar gymorth, ac yn hwyluso gweithio amlasiantaethol effeithiol. Mae’r dull hwn yn osgoi dyblygu gwasanaethau yn ddiangen ac yn helpu plant a’u teuluoedd i gael y cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion mewn modd amserol. Yn ystod y flwyddyn olaf, dyblodd nifer yr atgyfeiriadau gan ysgolion i’r Hyb Cymorth Cynnar.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn