Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd - Estyn

Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn nodi pa mor effeithiol y mae lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn cefnogi ac yn addysgu iaith a llythrennedd Saesneg i ddysgwyr tair i un ar ddeg oed.


Argymhellion

Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd:

  • A1 sicrhau nad yw tlodi ac anfantais yn rhwystrau i ddysgwyr rhag datblygu medrau iaith a llythrennedd cadarn
  • A2 datblygu diwylliant o ddarllen sy’n annog ac yn ennyn brwdfrydedd yr holl ddysgwyr, gan gynnwys bechgyn a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddarllen er pleser, a darparu cyfleoedd i wrando ar oedolion yn darllen ar goedd
  • A3 datblygu gwybodaeth dysgwyr am eirfa yn benodol, fel bod hynny’n cynorthwyo i ddatblygu’u medrau siarad, darllen ac ysgrifennu

Dylai ysgolion cynradd:

  • A4 ddatblygu strategaeth glir i gefnogi addysgu darllen yn effeithiol, gan gynnwys mynd i’r afael â medrau datgodio, datblygu geirfa, a medrau darllen
  • A5 darparu cyfleoedd heriol priodol a pherthnasol i gefnogi datblygiad cynyddol medrau gwrando a siarad dysgwyr, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2
  • A6 cefnogi datblygu medrau ysgrifennu dysgwyr drwy addysgu cystrawennau, atalnodi a sillafu yn benodol, cyfleoedd perthnasol i ysgrifennu ac adborth manwl i arwain gwelliant pellach

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A7 ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion unigol lleoliadau ac ysgolion, i sicrhau bod yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn gwella eu medrau iaith a llythrennedd

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 werthuso defnydd lleoliadau ac ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar a’r grant datblygu disgyblion, er mwyn gwella medrau iaith a llythrennedd disgyblion cymwys 

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn