I Fyny Fo’r Nod!

Arfer effeithiol

The Cathedral School


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol ddydd annibynnol gydaddysgol yw Ysgol y Gadeirlan yng Nghaerdydd ar gyfer disgyblion 3-16 oed.

Yn y sector uwchradd, mae dau o bob tri o’r disgyblion wedi bod trwy’r ysgol gynradd ac mae traean o ddisgyblion wedi ymuno yn 11+ o ysgolion lleol eraill. Yng ngoleuni’r duedd genedlaethol i gyfnod allweddol 3 fod yn gyfnod ‘gostwng’ pan all disgyblion golli ffocws a pherfformio’n gymedrol, mae’r ysgol wedi darparu rhaglen gymell ar gyfer ffocws a chyflawniad yng nghyfnod allweddol 3, sy’n cael ei reoli gan ddisgyblion yn bennaf.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Mae rhaglen ‘Gwobr y Pennaeth’ yn dechrau ym Mlwyddyn 7 gyda safon ‘Efydd’. Mae’n parhau ym Mlwyddyn 8 gydag ‘Arian’ ac fe gaiff ei chwblhau ym Mlwyddyn 9 gyda safon ‘Aur’. Rhaid cwblhau pum adran ar gyfer efydd, arian ac aur, ond ar lefelau gwahaniaethol sy’n briodol i strwythur a threfniadaeth yr ysgol.

Dyma’r adrannau:

  • Academaidd;
  • Arweinyddiaeth;
  • Corfforol;
  • Datblygu medrau; a
  • Gweithgareddau ymestyn.

Rhaid cwblhau pob adran i safon addas trwy gael oedolyn cyfrifol i ddilysu’r hyn y mae’r disgybl wedi’i gwblhau mewn llyfr cofnodi.

Mae enghreifftiau o weithgareddau y gellir eu gwneud i gwblhau pob adran yn cynnwys:

Academaidd:

  • Ysgrifennu adolygiad gwreiddiol a chraff o lyfr, ffilm neu ddrama
  • Llunio arddangosiad wal ar faes astudio perthnasol mewn unrhyw bwnc
  • Rhoi cyflwyniad sy’n dangos syniadau ac ymchwil gwreiddiol
  • Mynychu rhaglen darlithoedd allgyrsiol yr ysgol yn rheolaidd, a llunio adroddiad byr

Arweinyddiaeth:

  • Cynnal teithiau ar gyfer ymwelwyr o gwmpas yr ysgol, gan esbonio’i hethos a’i nodau
  • Helpu mewn grŵp/gweithgaredd yn yr ysgol neu weithredu fel mentor i ddisgyblion iau
  • Cyfrannu at y gymuned trwy glwb, cymdeithas, eglwys neu sefydliad
  • Cymryd rhan weithredol mewn ymwybyddiaeth o elusennau a chodi arian iddynt

Corfforol:

  • Cynrychioli tŷ neu’r ysgol mewn cystadleuaeth chwaraeon
  • Ymgymryd â gweithgareddau Allanol amrywiol wedi’u trefnu gan yr ysgol, y teulu neu’r sgowtiaid
  • Mynychu sesiynau chwaraeon neu ffitrwydd yr ysgol yn rheolaidd i wella iechyd a ffitrwydd personol

Datblygu Medrau:

  • Neilltuo amser yn rheolaidd ar gyfer gweithgarwch wedi’i seilio ar fedrau trwy ymgymryd â gweithgaredd newydd sydd wedi’i seilio ar fedrau, neu ddatblygu diddordeb presennol mewn ffordd newydd neu i safon uwch
  • Perfformio’n gyhoeddus mewn un ffurf neu fwy o gelfyddydau mynegiannol mewn gweithgareddau mewnol yn yr ysgol

Gellir ymgymryd â Gweithgareddau Ymestyn mewn unrhyw faes. Yn y maes academaidd er enghraifft, gallai disgyblion wneud prosiect ymchwil a llunio adroddiad. Fel rhan o ddatblygiad corfforol neu fedr, gallai disgyblion gyfrannu’n rheolaidd ar lefel uchel at sefydliad y tu allan i’r ysgol.

Gellir cael canmoliaeth ym mhob adran, naill ai yn ôl y safon eithriadol y caiff y gweithgaredd ei gwblhau neu yn ôl yr amrywiaeth o weithgareddau a wneir. O gael canmoliaeth, gall y disgybl gael Teilyngdod neu Anrhydedd, yn dibynnu ar nifer y canmoliaethau a sicrhawyd.

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, gwahoddir rhieni i noson gyflwyno pan gyflwynir y gwobrau i’r rhai sydd wedi’u hennill, ac amlygir agweddau ar y gwaith a wnaed i ennill y wobr. Caiff y wobr ei hunanreoli gan ddisgyblion sy’n defnyddio llyfr cofnodi sy’n cael ei greu gan yr ysgol i olrhain eu cynnydd eu hunain. Er bod yr athro sydd â gofal am y wobr yn goruchwylio cynnydd disgyblion trwy’r adrannau, mae’r cyfrifoldeb ar ddisgyblion i benderfynu sut a ble i gwblhau’r wobr. Fel hyn, mae’r wobr yn hyrwyddo annibyniaeth a hunangymhelliant.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r wobr wedi datblygu rhinweddau arwain disgyblion a’u medrau rhyngbersonol yn arbennig

Mae’r ysgol wedi cynnal arolygon o ddisgyblion a rhieni, sydd wedi dangos bod cymryd rhan yn y wobr wedi:

  • helpu disgyblion â’u medrau trefnu a chyfathrebu, yn enwedig trwy’r adran academaidd;
  • gwella hyder disgyblion a’u helpu i ymgynefino’n haws yn yr ysgol, yn enwedig yr adran gorfforol ym Mlwyddyn 7;
  • datblygu rhinweddau arwain disgyblion a’u medrau rhyngbersonol yn arbennig;
  • gwella agweddau disgyblion tuag at feysydd o fywyd yr ysgol na fyddent efallai’n ymwneud â nhw fel arall;
  • annog disgyblion i roi cynnig ar bethau newydd a mentro, yn enwedig mewn gweithgareddau awyr agored ar gyfer gweithgareddau ymestyn;
  • cynyddu cyfranogiad disgyblion mewn digwyddiadau a chystadlaethau mewnol, yn enwedig mewn meysydd fel cerddoriaeth, drama a’r celfyddydau creadigol (yn cynnwys barddoniaeth, ffotograffiaeth a darluniau); a
  • gwella ymwybyddiaeth disgyblion o’r gymuned leol, yn enwedig trwy eu cynnwys mewn digwyddiadau elusennol.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn