Hyrwyddo diwylliant Cymreig cryf
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg, gymysg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin. Mae ynddi 912 o ddisgyblion gyda 190 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Mae gan 4.2% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim. Daw llawer (tua 70%) o ddisgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ond mae pawb yn medru’r Gymraeg.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Yn dilyn y cyfnod clo cydnabu yr ysgol bod cynnal a sicrhau ethos Gymreig yr ysgol yn her gynyddol. Er bod yr holl bynciau bellach yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd angen sicrhau bod y disgyblion yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn enwedig gan bod 30% o ddisgyblion yn dod o deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad. Yn dilyn y cyfnod clo roedd adborth gan staff a disgyblion yn awgrymu’n glir bod dirywiad wedi bod yn y defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol a bod angen ymateb i’r her honno yn syth. Roedd angen ail adeiladu hyder y disgyblion yn eu defnydd ohoni. Penderfynwyd mynd ati yn syth, yn dilyn y cyfnod clo, i ail-afael yn eu cynlluniau blaenorol ac i symud ymlaen.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Gosodwyd ‘datblygu Cymreictod yn dilyn y cyfnod clo’ yn un o flaenoriaethau cynllun datblygu’r ysgol. Crëwyd gweledigaeth newydd i’r ysgol ar y cyd rhwng y disgyblion, y llywodraethwyr a’r staff a oedd yn rhoi pwyslais gynyddol ar bwysigrwydd Cymreictod a phwysigrwydd ‘perthyn’ i deulu a chymuned yr ysgol. Rhoddwyd pwyslais cryf ar arddel a dathlu Cymreictod a threftadaeth Gymreig yr ysgol gan bob un aelod o staff a nodir y cyfrifoldeb hwnnw yn nisgrifiad swydd pob un ohonynt.
Aethpwyd ati i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith yn y dosbarth ac yn allgyrsiol trwy nifer o gynlluniau. Sicrhawyd bod pob adran yn yr ysgol yn dathlu diwylliant a Chymreictod yn eu cynlluniau gwaith adrannol er mwyn sicrhau dealltwriaeth y disgyblion o bwysigrwydd eu hiaith a’u traddodiadau. Bu hyn yn rhan allweddol o gynllunio hefyd ar gyfer Cwricwlwm i Gymru fydd ar waith yn yr ysgol o Fedi 2022. Aethpwyd ati i frandio Cwricwlwm i Gymru gyda chymeriadau Cymreig lleol i ddathlu eu cynefin a’n treftadaeth sirol. Crëwyd murlun i ddathlu diwylliant lleol ar y cyd gyda’r arlunydd Rhys Padarn a defnyddiwyd y murlun fel addurn parhaol ar un o waliau’r ysgol ac fel cefndir ar gyfer platfform digidol yr ysgol i’r cwricwlwm newydd. Ail frandiwyd pwyllgor Cymreictod yr ysgol gan hepgor un pwyllgor a chreu’r pwyllgor Torri Arfer. Cynlluniwyd gweithgareddau gan gynnwys Eisteddfod rithiol, gwasanaethau niferus, cyngherddau, Maes B Bach, cystadlaethau arbennig a chyflwyniadau allanol ar fanteision y Gymraeg. Codwyd ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol lleol hefyd megis Gorymdaith Gŵyl Ddewi y dref, cyngerdd enillwyr yr Urdd, trefniadau Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr a Gŵyl Canol Dref.
Rhoddir pwyslais mawr ar gynorthwyo’r disgyblion i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru, gan roi cyfleoedd parhaol iddynt roi eu hiaith ar waith a’i ddathlu gyda balchder. Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu fforwm disgyblion i drafod y ffordd o symud ymlaen, gweithgaredd theatr mewn addysg gan y chweched dosbarth a digwyddiadau allgyrsiol niferus.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??
Ymfalchïa’r ysgol yn y ffaith bod eu harolwg diweddar wedi nodi – ‘mae bron pob un o’r disgyblion yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn manteisio ar y cyfleoedd eang sydd ar gael i ddysgu ac i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.’ Mae hynny, yn ei hun, yn dangos bod eu cynlluniau wedi dwyn ffrwyth a’u bod yn dechrau ad-ennill y tir a gollwyd yn sgîl y niwed a achoswyd yn ystod y cyfnod clo. Mae’r ysgol yn cydnabod bod y frwydr ymhell o gael ei hennill ond mae’r cynlluniau niferus yn sicr wedi adfer y sefyllfa. Mae datblygu a hyrwyddo Cymreictod yn frwydr barhaol hyd yn oed mewn ysgol sydd yn adnabyddus am ei hethos ‘Gymreig’.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddathlu llwyddiannau’r ysgol ar ei gwefannau cymdeithasol niferus ac yn y wasg leol. Mae’r arfer dda, felly, yn cael ei ledaenu’n eang. Maent hefyd yn cynllunio eu cwricwlwm newydd i ganolbwyntio ar gymeriadau lleol adnabyddus a fydd eto yn pwysleisio pwysigrwydd eu diwylliant, eu treftadaeth a’u Cymreictod. Crëwyd cyfres o bodlediadau lles Cymraeg gan ddysgwyr yn trafod materion cyfoes a bydd y gyfres yn cael ei rhannu yn gyhoeddus yn y dyfodol agos.