Hyrwyddo datblygiad aml ddiwylliannol a moesol disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol G. G. Llwyncelyn


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n darparu addysg i 335 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn y Porth yng Nghwm Rhondda. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 18% a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 2.1%. Mae 99.4% o’n disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. 

Penodwyd y pennaeth a’r dirprwy ym mis Medi, 2023. Caiff gweledigaeth yr ysgol ei chrynhoi yn yr arwyddair, ‘Acen. Atgofion. Cred’, ac mae hyn yn treiddio trwy bob agwedd ar waith yr ysgol ar bob lefel.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn trafodaethau gyda disgyblion Blwyddyn 6 ar y gwahanol ffiniau sy’n bodoli yn ein byd, codwyd cwestiynau ynghylch ffiniau sy’n gallu gwahanu grwpiau o bobl yn ein cymuned a thu hwnt. Daethpwyd i’r casgliad nad oedd ein disgyblion yn ddigon ymwybodol o fywyd mewn cymunedau y tu allan i’w milltir sgwâr. Roeddent yn frwd dros ddysgu am yr hyn oedd yn digwydd mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru a sut yr oedd bywyd yn gallu amrywio o gymuned i gymuned. Roeddent o’r farn mai’r man cychwyn fyddai ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hanes pobl a Chymunedau, o arferion a thraddodiadau, crefyddau a gwahanol ddiwylliannau. Ond yn bwysicaf oll, yr oeddent yn gryf o’r farn taw mynd allan i ymweld â chymunedau a chwrdd â phobl fyddai’r addysg orau. 

A dyna a wnaethom – treulio amser gyda thrigolion cymuned Trebiwt, Trelluest a Bae Caerdydd ymysg cymunedau eraill. Dyma gywaith a ehangodd orwelion, a heriodd ragfarnau a heb os, un a chwalodd ffiniau. 

Erbyn hyn, mae hanfod y cywaith hwn wedi treiddio drwy’r ysgol gyda phob dosbarth yn cynllunio’n fwriadus er mwyn hybu datblygiad aml ddiwylliannol a moesol ein disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dysgu am bobl, cymunedau, crefyddau a thraddodiadau amrywiol oedd y man cychwyn. Roedd hyn yn golygu gadael yr ystafell ddosbarth a theithio y tu hwnt i’n cymuned i gymunedau eraill i gwrdd â phobl a phlant a wahanol gefndiroedd. 

I gychwyn ar y gwaith o ehangu gorwelion ac addysgu ein disgyblion am fywydau eraill, trefnwyd arddangosfa aml-synhwyrol yn neuadd yr ysgol ble’r oedd cyfle i’r plant ddarllen, gwrando, gwylio a dysgu am hanes a phrofiadau Cymry o gefndiroedd amrywiol. Darparwyd cyfleoedd iddynt drafod cwestiynau mawr fel ‘I bwy mae Cymru’n perthyn?’ ac ‘A ydych chi’n fwy o Gymry os ydych chi’n siarad Cymraeg?’ ac anfonwyd holiaduron at rieni i’w cynnwys nhw yn y trafodaethau hyn. 

Roedd gwahodd ymwelwyr i’n hysgol i siarad am eu profiadau a’u hunaniaeth nhw yn y Gymru sydd ohoni yn hollbwysig er mwyn i’n plant gael clywed am brofiadau a heriau ganddyn nhw yn uniongyrchol. Roedd cael teithio i wahanol gymunedau megis Trebiwt a Bae Caerdydd yn hynod werthfawr. Yma, cawsant flas ar fywyd y tu hwnt i’w milltir sgwâr a gweld a chlywed yr amrywiaeth ieithoedd, gwisgoedd a bwydydd yn ogystal â gwerthfawrogi celfyddyd gwahanol oedd i’w weld ar furiau adeiladau Bae Caerdydd. 

Cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd a threulio sawl diwrnod yng nghwmni plant o ysgol gynradd ym Mae Caerdydd. Heb os, dyma oedd uchafbwynt y gwaith wrth i’n plant ni fwynhau a dod i ddeall a gwerthfawrogi’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn eu bywydau. Cawsant chwarae, canu a pherfformio dawns unigryw gyda choreograffydd proffesiynol oedd yn dathlu amrywiaeth, hunaniaeth a thraddodiadau pob un plentyn.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith hwn, ysbrydolwyd athrawon eraill yr ysgol i gynllunio cyfleoedd tebyg er mwyn addysgu plant eu dosbarthiadau nhw am fywydau cymunedau eraill. O oedran ifanc, mae ein disgyblion yn dysgu am hawliau, am bwysigrwydd cydraddoldeb a bod yn ddinasyddion moesol. Mae cynlluniau athrawon yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliannau, credoau a chrefyddau eraill ac rydym yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod lle blaenllaw yn ein cwricwlwm i ddysgu am gyfraniadau pobl nodedig o bob cymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae effaith y profiadau hyn ar ein disgyblion yn bellgyrhaeddol. Hyderwn bod ein disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion gwybodus a deallus sy’n dangos empathi a pharch at eraill. Credwn yn gryf taw’r profiadau y mae ein plant yn eu derbyn y tu hwnt i furiau’r ysgol yw’r allwedd i hyn. Mae arweinwyr yr ysgol yn llwyr ymrwymedig i sicrhau bod yr ysgol a’i holl gymuned yn un sydd yn parchu pobl o bob cefndir fel rhan o’i thaith i fod yn ysgol wrth-hiliol. 

Ceir cyfleoedd cyson i arweinwyr a holl staff yr ysgol fynychu cyrsiau a hyfforddiant er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth ymhellach o bwysigrwydd hybu datblygiad aml ddiwylliannol a moesol ein plant.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol bellach yn cael ei chydnabod fel un sydd yn arwain ar hybu datblygiad aml ddiwylliannol a moesol ein plant. Mae arweinwyr wedi cyfrannu at gynadleddau ar draws y consortiwm rhanbarthol ac wedi cynnal gweithdai ac ymweliadau gan ysgolion eraill. Mae’r ysgol hefyd wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn datblygu’r maes hwn ymhellach.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn