Hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio ar amgylchedd adeiledig - Hydref 2013 - Estyn

Hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio ar amgylchedd adeiledig – Hydref 2013

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • drafod gyda darparwyr i ariannu rhaglenni sy’n gweddu i anghenion y farchnad lafur; a
  • gwneud y fframwaith cymwysterau ar gyfer y sector adeiladu yng Nghymru yn fwy perthnasol i anghenion diwydiant trwy ddarparu dewis gwell o unedau dewisol yn ogystal ag elfennau craidd y rhaglen, a sicrhau bod y fframwaith yn cynnwys ffocws ar lythrennedd a rhifedd.

Dylai darparwyr addysg a hyfforddiant:

  • wella ansawdd eu rhwydweithiau a’u perthnasoedd gyda chyflogwyr lleol;
  • gwella’r gyfradd y mae dysgwyr yn cwblhau ac yn ennill eu cymwysterau a’u fframweithiau arni;
  • integreiddio llythrennedd a rhifedd yn llawn yn yr holl raglenni a gwneud yn siŵr bod athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr wedi’u paratoi i gefnogi anghenion llythrennedd a rhifedd dysgwyr;
  • herio dysgwyr i ddatblygu ac ennill medrau ymarferol a gwybodaeth am theori ar lefel uwch;
  • rhaglennu a threfnu lleoliadau profiad gwaith diwydiannol ar gyfer yr holl ddysgwyr amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach;
  • defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur yn fwy effeithiol i baru’r ddarpariaeth â chyfleoedd cyflogaeth leol, gan reoli’r galw gan ddysgwyr trwy ddefnyddio cyngor ac arweiniad effeithiol; a
  • diweddaru profiad a gwybodaeth ddiwydiannol athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn rheolaidd.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn