Helpu pobl ifanc i reoli emosiynau a pherthnasoedd - Estyn

Helpu pobl ifanc i reoli emosiynau a pherthnasoedd

Arfer effeithiol

Canolfan Addysg Nant-y-Bryniau Education Centre


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru (GGGC) yn uned addysgol fechan, bwrpasol ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Bob blwyddyn, mae tua 25 i 30 o bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth a difrifol yn mynychu’r uned i gael ymyriadau therapiwtig sy’n eu cynorthwyo i fanteisio ar eu hawl i addysg, ar lefel briodol ac effeithiol. Mae’r holl bobl ifanc yn gleifion preswyl yn y cyfleuster iechyd ac addysg ar y cyd.

Mae’r uned addysg wedi’i lleoli o fewn cyfleuster pwrpasol Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHs) a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB). Caiff yr uned addysg ei hariannu a’i rheoli gan awdurdod addysg lleol (AALl) Conwy.

Am nifer o flynyddoedd, mae ymyriad therapiwtig llwyddiannus iawn, Therapi Ymddygiad Dialectegol*, wedi bod yn elfen amlwg o’r driniaeth seicolegol a gynigir yn GGGC a darpariaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed arall ar draws Cymru. Caiff y dull therapiwtig hwn ei ymgorffori yn y rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yn yr uned. Fe’i cyflwynir gan dîm amlddisgyblaeth o seicolegwyr, athrawon a gweithiwr cymdeithasol trwy addysgu therapiwtig yn ymarferol. Ffocws y grŵp medrau Therapi Ymddygiad Dialectegol yw addysgu pobl ifanc sut i reoli eu hemosiynau a’u perthynas â phobl eraill yn effeithiol. Mae’n helpu pobl ifanc i ymdopi â sefyllfaoedd anodd heb droi at ymddygiad difudd neu ddinistriol. Mae’r gwaith hwn yn elfen annatod o gwricwlwm ABCh yr uned.

Mae cyflwyno’r rhaglen fedrau ar y cyd gan y tîm amlddisgyblaeth yn sicrhau parhad y therapi drwy gydol y flwyddyn, yn ystod y tymor a gwyliau ysgol.

Yr amcan yw i bobl ifanc weld gwerth y medrau sy’n cael eu haddysgu ac adnabod eu perthnasedd i’w lles personol eu hunain. Y nod yw i bobl ifanc ddod yn fwy cadarnhaol ynghylch dysgu ac ymgysylltu â’r agweddau eraill ar yr addysg a’r therapi a gynigir yn GGGC.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae elfen Therapi Ymddygiad Dialectegol y rhaglen ABCh yn cynnwys amserlen dreigl o addysgu a gyflwynir deirgwaith yr wythnos. Caiff tri maes pwnc eu harchwilio dros gyfnod o wyth wythnos, sef:

  • rheoli emosiynau;
  • rheoli perthnasoedd; ac
  • ymdopi ar y pryd.

Mae pwyslais cryf yn llawlyfr y rhaglen, a ysgrifennwyd gan y staff seicoleg, ar ymarfer y medrau a addysgir fel rhan o’r profiad o fyw yng nghymuned yr ysbyty. Caiff un o’r tri sesiwn grŵp wythnosol ei neilltuo i gynorthwyo’r bobl ifanc i fyfyrio ar y tasgau ymarfer a osodwyd ar gyfer yr wythnos, i sicrhau eu bod yn parhau i ymarfer eu medrau y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy ‘waith cartref’ gosod.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Caiff yr holl brofiadau dysgu eu teilwra i anghenion unigol disgyblion a’u nod yw sicrhau bod y disgyblion yn cymhwyso’u dysgu’n llwyddiannus yn eu bywyd bob dydd. Yn ystod trafodaethau sy’n cychwyn mewn grwpiau medrau, mae pobl ifanc yn magu hyder yn eu gallu i ddatrys problemau a mynegi eu hunain mewn ystod o themâu cymhleth. O ganlyniad, mae iechyd, lles, medrau bywyd a phresenoldeb dysgwyr wedi gwella’n sylweddol. Hefyd, gwnânt gynnydd da wrth ddatblygu hunanymwybyddiaeth, yn ogystal ag yn eu medrau meddwl a chyfathrebu.

Mae gwybodaeth o ansawdd da a gesglir o gysylltiad pobl ifanc â’r rhaglen yn cefnogi’r gwaith cynllunio ar gyfer ailintegreiddio i addysg brif ffrwd. Mae gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr seicoleg a gwaith cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth uniongyrchol i athrawon am effaith y grŵp medrau. Maent yn gwybod pa mor dda y mae pobl ifanc wedi datblygu’r medr i reoli eu hemosiynau eu hunain yn effeithiol. Trwy gydweithio â’u cydweithwyr prif ffrwd, mae’r athrawon hyn yn defnyddio’u dealltwriaeth i gynllunio’r trefniadau rheoli risg yn dda i alluogi dysgwyr i drosglwyddo’n ôl i ysgolion prif ffrwd.

*Mae Therapi Ymddygiad Dialectegol yn ddull o addysgu medrau ymdopi a chymdeithasol a fydd yn helpu pobl ifanc sy’n methu rheoli eu hemosiynau i ymdopi â thonnau sydyn a dwys o emosiwn