Helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol i gyrraedd eu potensial - Estyn

Helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol i gyrraedd eu potensial

Arfer effeithiol

St Helen’s Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd San Helen yng nghanol dinas Abertawe.  Mae 228 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn yr ysgol.  Mae wyth dosbarth prif ffrwd, gan gynnwys darpariaeth feithrin ran-amser.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned ethnig amrywiol, ac mae 22 o ieithoedd gwahanol sy’n cael eu siarad gan ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i wyth deg wyth y cant o ddisgyblion.  Mae un deg tri y cant o ddisgyblion yn wyn – ethnigrwydd Prydeinig.  Mae tuag 16% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn cael gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 32% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (25%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Dechreuodd yr arfer er mwyn ymateb i gyflwyno’r lleoliad Dechrau’n Deg yn Ebrill 2013.  Arweiniodd y lleoliad at gynnydd yn nifer y plant a oedd yn dechrau yn yr ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol.  Roedd pontio rhwydd o’r lleoliad Dechrau’n Deg i’r dosbarth meithrin yn bwysig er mwyn sicrhau parhad i ddisgyblion a rhieni.  Bu gostyngiad yn nifer y cyrsiau hyfforddiant ac amser asiantaethau allanol yn yr ysgol hefyd.  Ymatebodd yr ysgol trwy ddarparu hyfforddiant mewnol a chreu ystod o ddarpariaeth i ddisgyblion, gan gynnwys datblygu ei grwpiau medrau echddygol manwl, dyslecsia, anogaeth a chyfathrebu cymdeithasol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Nodi yn y lleoliad Dechrau’n Deg – Wedi i’r tîm Dechrau’n Deg nodi angen (gall hyn ddigwydd cyn gynhared â’r ymweliad cartref, ychydig cyn pen-blwydd y plentyn yn ddwyflwydd oed), maent yn manteisio ar strategaethau ymyrryd priodol (grwpiau iaith a gweithgareddau chwarae) i’r plant.  Gallant fanteisio ar eu seicolegydd addysg a’u therapydd iaith a lleferydd eu hunain.  Mae’r ymyrraeth yn amrywio o ddarparu cymorth yn y lleoliad i gymorth allanol a chymorth i rieni (dosbarthiadau magu plant).  Wrth i’r plentyn hwnnw drosglwyddo i’r dosbarth meithrin, bydd y staff yn cynnal cyfarfod derbyn, y byddant yn gwahodd yr holl randdeiliaid iddo i roi eu safbwyntiau ynghylch y cymorth sydd ei angen ar bob plentyn.  Wedi i’r arweinwyr benderfynu y gall yr ysgol fodloni’r anghenion, caiff cynllun addysg unigol (CAU) ei roi ar waith, ar sail cynllun rhaglen unigol (CRhU) Dechrau’n Deg.  Yna, bydd staff yn monitro’r plentyn am dri mis.

Nodi yn yr ysgol brif ffrwd – Os bydd staff yn amau angen newydd neu gychwynnol, bydd yn cyflwyno Cofnod o Bryder (CoB) i’w cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY).  Mae’r CoB yn nodi meysydd sy’n peri pryder ac yn nodi’r strategaethau sydd eisoes ar waith.

Mae’r CydADY yn adolygu’r CoBau yn fisol, ac yn penderfynu monitro neu roi cymorth ar waith (CAU yn y lle cyntaf, fel arfer).  Gall y cymorth fod ar sawl ffurf:

  • Cymorth anogaeth gan y Tîm Ymgysylltu â Theuluoedd.  Maent yn trafod plant a’u teuluoedd yn rheolaidd, yn edrych ar dargedau ac yn rhoi cymorth ar waith.  Mae aelodau’r Tîm Ymgysylltu â Theuluoedd yn cyfarfod â rhieni ac yn cynnig arweiniad iddynt i gynorthwyo eu plant. 
  • Cymorth yn y dosbarth, lle mae athrawon yn defnyddio strategaethau penodol i gynorthwyo’r disgyblion.  Mae athrawon wedi eu hyfforddi mewn strategaethau anghenion addysgol arbennig (AAA) cyffredinol ond, lle mae angen yn fwy penodol, bydd arbenigwyr yn rhoi strategaethau penodol iddynt eu defnyddio.
  • Cymorth ADY – grwpiau Medrau Echddygol Manwl, grwpiau Dyslecsia, grwpiau Iaith a Lleferydd neu grwpiau cyfathrebu Cymdeithasol.

Bydd staff yn parhau i fonitro’r disgyblion.  Os na fyddant yn gwneud cynnydd, yna bydd yr ysgol yn rhoi cam arall yn y broses ymateb graddedig ar waith, sef atgyfeiriad i asiantaeth allanol, yn aml.

Gall monitro disgyblion fod ar sawl ffurf.

  • Adolygu CoBau
  • Deialog broffesiynol
  • Adolygu CAUau
  • Olrhain data arolygon AAA
  • Trafodaethau monitro disgyblion penodol
  • Data llythrennedd diwedd blwyddyn
  • Asesiadau mewn cynlluniau iaith cyhoeddedig
  • Gridiau monitro ystafell yr enfys
  • Adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

  • Mae’r pontio rhwng y lleoliad Dechrau’n Deg a’r brif ysgol yn rhwydd ac mae’r plant yn ymgartrefu’n gyflym
  • Mae rhieni’n hyderus ac yn gyfforddus â darpariaeth yr ysgol ar gyfer eu plant
  • Ym mhob achos, mae’r ysgol yn darparu lefelau amrywiol o gymorth i bob plentyn
  • Mae monitro CAUau yn dangos bod disgyblion yn cyflawni eu targedau
  • Mae adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dangos bod disgyblion a rhieni yn hyderus ac yn fodlon â’r cymorth y maent yn ei gael yn yr ysgol

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon yn anffurfiol ar lefel y clwstwr ac wedi croesawu ymweliadau gan staff o ysgolion eraill. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn