Helpu dysgwyr â’u medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth gyda darpariaeth ychwanegol

Arfer effeithiol

Dysgu Cymraeg Morgannwg/Learn Welsh Glamorgan


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn adborth gan ddysgwyr ynglŷn â diffyg cyfleoedd dysgu anffurfiol ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen, penderfynwyd darparu cylch darllen / sgwrsio ym mhob ardal yn ystod misoedd haf 2016.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Profodd hyn i fod yn llwyddiannus ac mae’r ddarpariaeth hon wedi parhau i gael ei chynnig dros yr haf. Penderfynwyd cynnig y cylchoedd darllen / sgwrsio gan fod gweithgareddau sy’n cael eu canolbwyntio ar siarad yn unig yn anodd ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen oherwydd cyfyngder iaith.  Esblygodd yr elfen ddarllen i gael ei chynnwys mewn siop siarad mewn gwahanol ardaloedd er mwyn gallu cynnwys lefelau Mynediad a Sylfaen mewn gweithgareddau sy’n draddodiadol wedi cael eu targedu tuag at lefelau Canolradd ac Uwch.

Erbyn hyn, mae cyfres ddarllen o’r enw ‘ Amdani’ wedi cael ei chyhoeddi ar wahanol lefelau. Bydd hyn yn gyfle i annog dysgwyr i brynu’r llyfrau ar gyfer darllen yn gyffredinol ac i ategu at eu dysgu. Bydd modd eu defnyddio yn y cylchoedd darllen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r dysgwyr yn mwynhau’r sesiynau ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol o ran parhau i ddefnyddio a dysgu’r iaith yn ystod y gwyliau, yn enwedig y gwyliau haf gan fod cymaint o wagle dros y cyfnod hwn. Mae’r cylchoedd yn gyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg ar bob lefel yn ystod y gwyliau gyda thiwtoriaid profiadol yn eu harwain.

Enghraifft dda iawn o’r effaith mae gweithgareddau dysgu anffurfiol yn gallu cael yw sefydlu Cymdeithas Hanes Pen-y-bont.  Sefydlwyd y gymdeithas gan aelodau lefel Uwch Siop Siarad Pen-y-bont.  Roedd yr aelodau wedi bod yn ei mynychu ers blynyddoedd ac yn teimlo y byddent yn hoffi sefydlu rhywbeth eu hunain yn yr iaith Gymraeg ac aethant ati i’w wneud hynny gyda chefnogaeth gan Dysgu Cymraeg Morgannwg a Menter Iaith Bro Ogwr.  Ers ei sefydlu, mae’r gymdeithas yn denu pobl sydd wedi dysgu Cymraeg a siaradwyr iaith gyntaf.  Maent yn cwrdd yn fisol ers rhai blynyddoedd ac mae niferoedd uchel yn ei mynychu.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r dysgwyr a’r tiwtoriaid yn derbyn e-byst rheolaidd am yr hyn sydd ar gael iddynt. Defnyddir rhwydweithiau cymdeithasol y darparwr i gyhoeddi newyddion a hyrwyddo llwyddiant ymgyrchoedd newydd. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn cydweithio’n agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n monitro ei dargedau yn dymhorol ac yn derbyn adroddiadau manwl gan y darparwr. Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau fel Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant a Mentrau Iaith ar brosiectau newydd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg, er enghraifft dosbarthiadau drwy gyfrwng y Gymraeg fel Myfyrdod, Tai Chi, Clocsio, Golwg ar Gymru a Gwerthfawrogi llenyddiaeth.