Gyrru gwelliant trwy ddatblygiad proffesiynol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Ysgol gyfun 11-16 oed yn Abertawe yw Ysgol Gyfun Pontarddulais. Mae 780 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae’r ysgol bron â bod yn llawn. Mae’r ysgol wedi ei lleoli ym mhentref Pontarddulais. Mae ganddi bum ysgol gynradd bartner yn y dalgylch. Mae tua 7% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 13% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gyfun Pontarddulais yn ysgol Arloesi’r Cwricwlwm ac yn ysgol Arloesi Creadigol. Mae hyn yn golygu bod yr ysgol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i ddatblygu ac arbrofi â chwricwlwm newydd i Gymru.
Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector
Mae’r ysgol yn cydnabod bod arweinyddiaeth ganol o ansawdd uchel yn ffactor pwysig mewn gwella’r ysgol a chodi safonau. Dros y tair blynedd diwethaf, bu’r ysgol yn llwyddiannus o ran meithrin diwylliant dysgu proffesiynol ymhlith cydweithwyr.
Sefydlodd y pennaeth raglen datblygu proffesiynol o’r enw’r Rhaglen Darpar Arweinwyr (‘Aspiring Leaders Programme’) i rymuso athrawon ac arweinwyr canol i roi newid ysgol gyfan ar waith, gan ddatblygu’n broffesiynol ar yr un pryd. Nod y rhaglen oedd datblygu medrau’r holl athrawon a staff yn yr ysgol, wrth adeiladu system gynaliadwy ar gyfer gwella’r ysgol.
Mae’r rhaglen datblygu proffesiynol wedi dod yn ddull hynod lwyddiannus o greu diwylliant dysgu ymhlith cydweithwyr, sy’n rhoi cyfle i staff allweddol arwain ar flaenoriaethau datblygu ysgol gyfan. O ganlyniad, mae llawer o staff ar bob lefel yn cyfrannu’n sylweddol tuag at arweinyddiaeth yr ysgol. Mae wedi arwain at deimlad o gydlyniad a chydweithio sydd wrth wraidd gwella deilliannau i ddisgyblion.
Mae cynllunio olyniaeth yn dra datblygedig ac yn rhan lwyddiannus o waith yr ysgol. Mae’r cymorth ymarferol a’r cyfleoedd sy’n cael eu darparu yn golygu bod gan gydweithwyr tra medrus yr hyder i ysgwyddo cyfrifoldebau mwy heriol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector
Mae’r Rhaglen Darpar Arweinwyr yn darparu strwythur i athrawon ganolbwyntio ar wella agweddau ar waith yr ysgol, gyda’r nod o wella perfformiad disgyblion yn y pen draw.
Mae tri phrif faes o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer staff:
Mae staff yn cael cyfle i ymgymryd â rôl arweiniol mewn datblygu’r ysgol gyfan.
Mae arweinwyr canol a darpar arweinwyr canol yn cael cyfle i arwain agwedd ar wella’r ysgol gyfan sydd wedi’i nodi’n glir. Caiff hyfforddiant ei ddarparu gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth ar sut i greu Cynllun Datblygu Ysgol ar gyfer yr ysgol gyfan. Maent yn llunio ac yn cytuno ar strategaethau penodol i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn. Mae’r dull cydlynol a cholegol hwn yn sicrhau y caiff y Cynllun Datblygu Ysgol ei groesawu’n llawn gan arweinwyr canol, sy’n sbarduno gwelliant ar bob lefel yn yr ysgol. O ganlyniad, mae athrawon yn ennill dealltwriaeth well o nodau strategol yr ysgol a sut mae eu hadran a’u rôl yn cyfrannu at ddeilliannau.
Mae staff yn cael y cyfrifoldeb am gynnal gweithgor ar gyfer eu cydweithwyr, sy’n cynorthwyo ac yn lansio datblygu’r ysgol gyfan.
Mae pob gweithgor yn cael ei arwain gan ddau arweinydd canol neu ddarpar arweinwyr, sy’n defnyddio’r profiad hwn fel rhan o’u Rhaglen Darpar Arweinwyr. Mae’r arweinwyr canol yn ymchwilio i’r wybodaeth gefndir ar gyfer eu gweithgor. Maent yn cydweithio â’r arweinydd canol sy’n bartner iddynt i benderfynu ar gyfeiriad eu gweithgor. Yna, maent yn arwain eu gweithgor drwy gyfres o bum sesiwn datblygiadol. Mae hyn yn arwain at lansiad gan y gweithgor i’r ysgol gyfan, yn ogystal â chyflwyniad i’r Corff Llywodraethol. Yna, disgwylir i’r ysgol fabwysiadu argymhellion y gweithgor yn eu harfer addysgu a dysgu. Mae enghreifftiau’n cynnwys datblygu’r broses arfarnu gwersi, sy’n gyson iawn erbyn hyn, gwella addysgu a dysgu drwy ddatblygu holi lefel uchel, ac arwain strategaethau i wella addysgu llythrennedd a rhifedd ar draws yr ysgol.
Caiff arweinwyr canol eu cynnwys mewn rhaglen hunanarfarnu strwythuredig rhwng ysgolion.
Trwy gymryd rhan mewn hunanarfarnu ar y cyd, mae cydweithwyr wedi rhannu gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol gydag arweinwyr canol o ddwy ysgol arall. Mae’r medrau a ddatblygwyd trwy’r adolygiadau adrannol hyn rhwng ysgolion wedi rhoi cymhelliad a hunanhyder i gydweithwyr fel arweinwyr dysgu yn Ysgol Gyfun Pontarddulais.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae diwylliant dysgu rhagorol yn yr ysgol. Mae arweinwyr canol yn arloesol iawn yn eu gwaith, ac yn cynorthwyo i ddatblygu prosesau ysgol gyfan a datblygiadau mewn addysgu a dysgu yn dda iawn. Mae hyn yn golygu bod addysgu a dysgu yn gryfder amlwg yn yr ysgol.
Oherwydd datblygiadau a ysgogwyd gan arweinwyr canol, mae gan bron bob aelod o staff ddealltwriaeth fanwl o’r prosesau hunanarfarnu sy’n ategu addysgu a dysgu rhagorol. Mae’r holl wersi a arsylwyd yn dda ac yn rhagorol. Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ddeilliannau rhagorol i ddisgyblion.
Bu perthynas waith ragorol, lefelau uchel o ymddiriedaeth, a chyfathrebu hynod effeithiol rhwng arweinwyr canol a’u haelod cyswllt o’r tîm penaethiaid yn ffactorau sylweddol mewn sicrhau cysondeb a chodi safonau.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae ysgolion ledled Cymru wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Pontarddulais i rannu gwaith yr ysgol. Yn ogystal, mae cydweithwyr wedi rhoi cyflwyniadau mewn digwyddiadau iNet, yn ogystal â digwyddiadau a drefnwyd gan ranbarth ERW. Cynorthwywyd cydweithwyr sy’n addysgu mewn ysgolion ‘Her Cymru’ yn agos gan staff o Ysgol Gyfun Pontarddulais mewn sawl agwedd ar eu gwaith.