Gyrru datblygu perfformiad effeithiol trwy ymchwil weithredu, cydweithio a dysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff.

Arfer effeithiol

Llanhari Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llanhari yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli ym mhentref Llanhari, yn Rhondda Cynon Taf. O dan Fynegai Amddifadedd Lluosog diweddaraf Cymru, mae Llanhari yn safle 257 o 1909, sy’n ei gosod ymhlith y 10-20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 

Mae 178 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, sy’n cael eu haddysgu mewn 7 dosbarth gyda darpariaeth feithrin amser llawn. Mae tua 34% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan ryw 15% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae 6% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Caiff pob un o’r disgyblion eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg, ac addysgir y Gymraeg fel ail iaith.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl ymglymiad yr ysgol mewn prosiect ymchwil weithredu’r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg (EDT) yn 2017, mabwysiadodd yr ysgol ymagwedd wedi’i llywio gan ymchwil ar gyfer staff fel rhan o reoli perfformiad. Cymerodd staff berchnogaeth o’r gweithgareddau hyn a dod â syniadau ar gyfer eu hymchwil weithredu i’r cyfarfodydd rheoli perfformiad cychwynnol, gan roi perchnogaeth ac ymreolaeth iddynt dros eu targedau. Ar ddiwedd y cylch rheoli perfformiad, ysgrifennon nhw werthusiadau manwl a oedd yn dilyn y fformat a ddarparwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). 

Ym mis Medi 2022, dangosodd yr arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu fod angen i’r ysgol ddatblygu ei chydweithio o fewn yr ysgol a gyda’r amgylchedd allanol ar ôl y pandemig. Roedd y pennaeth hefyd wedi ymchwilio i waith Chris Moyes yn edrych ar dwf proffesiynol effeithiol a pharhaus. Gwnaed nifer o ddiwygiadau syml.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae pob un o’r staff, gan gynnwys staff cymorth, yn dilyn Cynllun Twf Proffesiynol cyn cyfarfodydd Datblygiad Proffesiynol cychwynnol. Mae hyn yn amlygu anghenion y disgyblion yn eu dosbarth, anghenion datblygu’r staff a’r syniadau cychwynnol ar gyfer ymchwil weithredu. Roedd hyn yn fanylach, ac yn canolbwyntio’n fwy ar y disgybl na’n cynlluniau gwreiddiol. Roedd staff yn cael eu hannog i gydweithio mewn grwpiau i ymgymryd â’u prosiectau ymchwil. Er enghraifft, roedd yr athro ymyrraeth ac athro Blwyddyn 6 yn edrych ar strategaethau ar gyfer dyslecsia, cael grwpiau rheoli, grwpiau targed, rhannu cyfleoedd hyfforddi ac ymchwil. Roedd staff cymorth yn cael eu cynnwys yn y broses hon ac yn ymuno ag athrawon dosbarth neu â’i gilydd i wneud eu hymchwil eu hunain. 

Un o’r dysgeidiaethau allweddol o’r ymchwil oedd amseriad ac amlder y cylch datblygu perfformiad. Yn hytrach na’i gynnal dros 2 flwyddyn academaidd (mis Hydref – mis Hydref, yn draddodiadol), caiff ei gynnal rhwng mis Medi a mis Gorffennaf erbyn hyn, gan alluogi staff i gwblhau’r cylch datblygu perfformiad yn yr un flwyddyn academaidd. Daeth ymchwil weithredu staff yn ffocws rheolaidd i gyfarfodydd staff, hefyd. Caiff staff eu hannog i siarad am ble maen nhw arni â’u hymchwil a rhannu canfyddiadau hyd yma. Mae hyn yn cynnwys trafod gwaelodlinau, cyfleoedd hyfforddi, ymweliadau ag ysgolion eraill, ac ati. Mae hyn yn ei gadw’n berthnasol ac ar flaen y gad mewn datblygiad proffesiynol. 

Newid allweddol arall i’r broses datblygu perfformiad oedd cyflwyno ‘diben a chynulleidfa’. Mae staff yn cwblhau’r un gwerthusiad ymchwil weithredu yn seiliedig ar fformat CGA, ond maent yn cyflwyno’u canfyddiadau yn ein diwrnod hunanwerthuso rhanddeiliaid erbyn hyn, hefyd. Mae hyn yn gyfle i rannu arfer â chydweithwyr a llywodraethwyr, gan ddathlu’r gwaith y maent wedi’i wneud, a’r gwahaniaeth a wneir i’n dysgwyr. 

Dangosodd dysgu allweddol o’r ymchwil fod staff yn cael targedau cyflawnadwy mewn camau bach yn arwain at welliant cyflymach. Mae staff yn cymryd perchnogaeth o’u datblygiad proffesiynol ac yn chwilio am lu o gyfleoedd. Mae’r rhain wedi cynnwys ymweliadau rhyngwladol, er enghraifft ymwelodd ein harweinydd Cyfnod Sylfaen â Reggio yn Yr Eidal i edrych ar arfer yn y blynyddoedd cynnar.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith hwn wedi datblygu diwylliant cydweithredol yn yr ysgol. Mae staff yn cydweithio’n rheolaidd ar ddysgu proffesiynol, datblygu’r cwricwlwm a rhannu arfer ystafell ddosbarth trwy hyfforddi. 

Mae wedi cael effaith ar agwedd pob un o’r staff at ddysgu proffesiynol a datblygiad proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys dysgu o’r amgylchedd allanol, bod yn agored i ymweliadau rhyngwladol, ceisiadau am gymorth hyfforddi neu gyfleoedd addysgu timau. 

Mae’r cynlluniau twf proffesiynol yn sicrhau bod datblygiad proffesiynol yn cyd-fynd â blaenoriaethau gwella’r ysgol, gan arwain at welliannau mesuradwy yn neilliannau disgyblion. Mae amseriadau’r cylch rheoli perfformiad yn sicrhau bod anghenion y disgyblion presennol ar flaen y gad mewn datblygiad proffesiynol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Trwy arwain gweithgorau bach gyda phenaethiaid eraill yn y rhanbarth. 

Trwy gyflwyniadau i’r consortiwm rhanbarthol.