Gyrfaoedd – Gweithredu’r fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith mewn ysgolion uwchradd

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn archwilio graddau ac effeithiolrwydd y ffordd y mae ysgolion uwchradd yn cyflwyno’r fframwaith statudol Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (GBG). Mae’n ystyried y graddau y mae darpariaeth ac arweinyddiaeth ysgolion uwchradd yn y maes hwn wedi newid ers adroddiad blaenorol Estyn ar GBG, sef Penderfyniadau Gwybodus, ym mis Hydref 2012. Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o 156 o arolygiadau ysgolion uwchradd er Hydref 2012 ac o arolwg o 35 ysgol uwchradd (gweler yr Atodiad am fanylion).


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael trafodaethau rheolaidd am eu cynnydd, eu dyheadau a’u llwybrau dysgu posibl, yn enwedig ym Mlwyddyn 9 a Blwyddyn 11
  • A2 Rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddisgyblion am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
  • A3 Arfarnu eu darpariaeth GBG i sicrhau ei bod:
    • a. yn cael ei chyflwyno gan staff wedi’u hyfforddi’n dda, a bod y ddarpariaeth yn cynnwys adnoddau cyfoes
    • b. yn darparu profiadau perthnasol sy’n canolbwyntio ar waith ar gyfer disgyblion
    • c. yn defnyddio gwybodaeth yn well i fonitro ac olrhain tueddiadau yng nghyflawniad a dilyniant disgyblion er mwyn cynllunio gwelliannau yn y ddarpariaeth
    • ch. yn cael ei hintegreiddio mewn prosesau hunanarfarnu, cynllunio gwelliant ac atebolrwydd ysgol gyfan
  • A4 Cynnwys llywodraethwyr yn fwy mewn goruchwylio GBG yn strategol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A5 Helpu ysgolion i ddatblygu eu defnydd o wybodaeth i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth GBG

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Hyrwyddo partneriaethau cryfach rhwng ysgolion, darparwyr, cyflogwyr a phobl eraill i wella’r ffordd y caiff cyngor ac arweiniad diduedd eu cyflwyno
  • A7 Adolygu’r fframwaith GBG a diweddaru arweiniad yng ngoleuni egwyddorion diwygio’r cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn