Gwyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 – Mehefin 2013
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd:
- ddarparu cyfleoedd gwyddoniaeth heriol i ymestyn pob disgybl, yn enwedig disgyblion mwy galluog, a chael gwared ar dasgau sy’n rhy hawdd;
- darparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion fynd ar drywydd eu diddordebau gwyddonol eu hunain;
- sicrhau bod arferion asesu a marcio yn rhoi cyngor ystyrlon i ddisgyblion ar sut i wella eu dealltwriaeth a’u medrau gwyddonol; a
- gweithio gydag ysgolion eraill i rannu dulliau effeithiol o addysgu ac asesu gwyddoniaeth.
Yn ogystal, dylai ysgolion cynradd:
- wneud yn siŵr y caiff gwyddoniaeth ei haddysgu i ddisgyblion am o leiaf ddwy awr yr wythnos; a
- darparu hyfforddiant i athrawon â gwybodaeth bynciol wan am wyddoniaeth.
Yn ogystal, dylai ysgolion uwchradd:
- gynllunio i ddefnyddio ystod ehangach o fedrau rhifedd mewn gwersi gwyddoniaeth.
Dylai awdurdodau lleol:
- ddarparu mwy o ddatblygiad proffesiynol, cymorth a chyngor i ysgolion ar addysgu a dysgu gwyddoniaeth; a
- chynorthwyo ysgolion i rannu arfer orau mewn addysg gwyddoniaeth.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- wella dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau athrawon drwy adolygu meini prawf asesu a chyflwyno elfen o safoni allanol; a
- adolygu gorchmynion pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth i gynnwys cynnwys hanfodol.