Gwybodaeth reoli mewn gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol – Mehefin 2009

Adroddiad thematig


Nid yw gwasanaethau ieuenctid y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn defnyddio systemau gwybodaeth reoli trylwyr, sy’n rhwystro cynllunio ac arfarnu pa mor effeithiol yw’r gwasanaeth o ran bodloni anghenion pobl ifanc.


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod holl wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol yn defnyddio system gwybodaeth reoli gyson (SGR) neu un set o safonau cytûn y maent i gyd yn adrodd yn eu herbyn.

Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:

  • ddatblygu systemau gwybodaeth reoli effeithiol i gasglu data ar y nifer sy’n manteisio arnynt, cyrhaeddiad, cyfraddau tynnu’n ôl a chynnydd pobl ifanc mewn addysg ffurfiol ac addysg nad yw’n ffurfiol;
  • datblygu ymhellach systemau ar gyfer mesur datblygiad personol pobl ifanc; a
  • gwella’r arfer o gasglu a dadansoddi data a gwybodaeth berthnasol, yn cynnwys y data a’r wybodaeth sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol.

Dylai partneriaethau lleol:

  • ddadansoddi’r data sydd ar gael sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol er mwyn nodi heriau lleol ac atebion lleol; a
  • chefnogi cyflwyno defnydd effeithiol o SGR i asiantaethau partner sy’n cyfrannu at wasanaethau cymorth ieuenctid lleol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn