Gwybodaeth a chyfleoedd dysgu disgyblion yn gwella trwy brosiectau ymchwil

Arfer effeithiol

Nant Y Parc Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Nant-y-Parc yn Senghenydd yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 225 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 28 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae chwech o ddosbarthiadau un oedran, a dau ddosbarth oedran cymysg, gan gynnwys y dosbarth meithrin.

Cyfartaledd treigl tair blynedd y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw tua 33%.  Mae hyn gryn dipyn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 19% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn ychydig islaw cyfartaledd Cymru, sef 21%.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Penodwyd y pennaeth ym mis Medi 2014. 

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ranbarthol ar gyfer dysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Yn dilyn gwerthusiad trylwyr o’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ac arweinwyr, nododd yr ysgol fod angen ymgorffori diwylliant o ymholi ac archwilio ymhellach ymhlith staff, gan greu cyfleoedd ar gyfer arloesedd mewn ymagweddau addysgol yn seiliedig ar gydweithio effeithiol.

Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi datblygu cymuned ddysgu sy’n ymgysylltu ag ymchwil, sy’n meddu ar ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd strategol datblygiad proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff, ac yn benodol, effaith ymchwil weithredu ar wella arfer.  Caiff staff eu hannog i ymchwilio a chyfrannu at ddatblygu gweledigaeth ar y cyd i ymestyn profiadau addysgol disgyblion a gwella deilliannau.

Yr hyn sy’n sylfaenol i strategaeth ymchwil yr ysgol yw proses fyfyrio lle mae staff yn datblygu ac yn mireinio eu harfer yn sgil syniadau newydd, adborth neu ddealltwriaeth o wahanol safbwyntiau.  Mae’r ysgol yn mynegi bod yr ymagwedd wedi cael ei threfnu er mwyn datblygu gwybodaeth athrawon, archwilio materion, ffurfio polisi a gwella arfer.  Wrth ymchwilio, mae gan staff ymagwedd gyfannol, trwy sicrhau bod eu gwaith yn cysylltu â blaenoriaethau lleol neu genedlaethol, ac mae pedwar diben craidd y cwricwlwm newydd i Gymru yn sail i hyn.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘dim cyfyngiadau i ddysgu’ ac mae’r pennaeth yn credu na ddylai fod yna ‘unrhyw derfynau i ddysgu’ er mwyn i staff wella eu harfer tra’n cael ei llywio gan theori ar yr un pryd.  Neilltuir Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd i bob un o’r staff, a rhan o’r disgwyliad yw symud tuag at fod yn ymarferwyr sy’n hunanwella.  Byddai hyn yn cynnwys bod yn wybodus am ddatblygiadau yn eu maes, ymgysylltu ag ymchwil, a’u bod wedi’u harfogi i wneud eu hymchwil eu hunain.

I ddechrau, neilltuwyd ‘amser ymchwilio ac arloesi’ ar gyfer staff i gaffael gwybodaeth newydd a darllen dogfennau allweddol yn seiliedig ar eu maes ymchwil.  Ar ôl ei chwblhau, mae staff yn gwerthuso effaith eu hymchwil ar arfer trwy lenwi ffurflenni ymholi.  Maent yn rhannu eu canfyddiadau yn ystod cyfarfodydd staff, amser cyfeiriedig a gydag ysgolion ar draws y consortia mewn amrywiaeth o weithdai.  Mae ffurflenni ymholi yn cynnwys rhesymeg ar gyfer yr ymchwil, canfyddiadau allweddol a chamau gweithredu yn y dyfodol.  Caiff athrawon gyfleoedd amrywiol y maent yn eu defnyddio i rannu effaith eu treialon ymchwil yn yr ysgol, er enghraifft defnyddio ‘triawdau’ addysgu (gweithio mewn grwpiau o dri athro) i ddangos sut yr ymgorfforwyd ymchwil trwy arsylwi arfer.

Nododd pob un o’r staff, er mwyn cyflawni disgwyliadau, fod angen iddynt gael cyfle i ymweld ag amrywiaeth o leoliadau addysgol, a dysgu o drafodaethau â chydweithwyr  a disgyblion yn y lleoliadau hyn.  Roedd hyn yn cynnwys gweithio gydag asiantaethau allanol i dderbyn ymweliadau rhyngwladol a chynnal ymchwil ehangach.  Bu staff yn cydweithio ar draws ysgolion, prifysgolion a sefydliadau eraill, yn cynnal ymchwil, yn ymgysylltu â chanfyddiadau ac yn agor y ddeialog ymhlith pobl broffesiynol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol wedi sefydlu diwylliant sy’n meithrin mentrau ymchwil sy’n galluogi staff i gael eu harfogi â’r gallu, yr hyder, y cyfle a’r cymhelliant i ymgysylltu â’u hymchwil eu hunain, a’i chynnal.  Mae’r ysgol yn credu bod sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau cynhyrchu ei data ymchwil ei hun a defnyddio canfyddiadau ymchwil yn yr ystafell ddosbarth i ymestyn ymagweddau addysgegol wedi arwain at arfer fwy effeithlon.  Er enghraifft, mae datblygu dysgu’n annibynnol a llais y disgybl ar draws yr ysgol wedi dyfnhau gwybodaeth staff am addysgeg ac wedi cynyddu eu dealltwriaeth o’r cymhlethdodau sy’n sail i’r gwaith a wnânt.

Mae ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol yn gyson uchel, ac mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn o ran eu mannau cychwyn.  Mae athrawon yn dangos ymroddiad i wella’r ysgol ac yn perchnogi eu datblygiad proffesiynol, gan ymrwymo i newid addysgegol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Fel ysgol dysgu proffesiynol ranbarthol, mae’r ysgol wedi datblygu rhwydweithiau cryf ar draws y consortiwm, a dyma fu’r man rhannu cyntaf ar gyfer arfer wedi’i llywio gan ymchwil.  Rhannwyd ymchwil hefyd o fewn y clwstwr ysgolion lleol, yr awdurdod lleol a thrwy gymorth Ysgolion Rhwydwaith Arweiniol.