Gwrando ar y gymuned: Pa mor dda y mae dayparwyr am ganfod anghenion dysgu oedolion yn eu cymunedau lleol? Gorffennaf 2009 - Estyn

Gwrando ar y gymuned: Pa mor dda y mae dayparwyr am ganfod anghenion dysgu oedolion yn eu cymunedau lleol? Gorffennaf 2009

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • weithio gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i egluro sut y gall darparwyr dysgu yn y gymuned ysgogi gwelliant i wasanaethau;
  • hyrwyddo astudiaethau hydredol o weithgarwch dysgu wedi’i greu gan y dysgwr i gofnodi deilliannau a hyrwyddo arfer dda; a
  • chreu panel cenedlaethol i ddysgwyr ar ddatblygu rhaglenni dysgu oedolion yn y gymuned

Dylai rhwydweithiau Dysgu Cymunedol:

  • ddefnyddio ymgynghori â dysgwyr yn fwy cyson i greu dinasyddion mwy ymgysylltiedig a gwybodus er mwyn hyrwyddo mwy o falchder, uchelgais ac atebolrwydd lleol yn eu cymunedau lleol.

Dylai darparwyr unigol:

  • wella cysondeb digwyddiadau ymgynghori ar gyfer dysgwyr; a
  • nodi cysylltiadau â’r rhwydwaith lleol er mwyn cydlynu gweithgareddau ymgynghori â dysgwyr gyda sefydliadau lleol eraill ac adrannau awdurdodau lleol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn