Gwneud pob un o’r staff yn atebol am ansawdd yr addysgu
Quick links:
Cyd-destun
Ysgol ddwyieithog 11-19 yng Nghaernarfon yng Ngwynedd yw Ysgol Syr Hugh Owen. Mae 853 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 171 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. At ei gilydd, mae bron i 100 o ddisgyblion yn fwy nag adeg yr arolygiad craidd ym mis Mawrth 2016.
Mae tua 16% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae bron i 90% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gyda’u teuluoedd ac mae 92% yn rhugl yn yr iaith. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 13% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.
Ers yr arolygiad craidd, mae’r pennaeth parhaol wedi cael ei secondio i weithio mewn consortiwm rhanbarthol ac mae’r dirprwy bennaeth wedi ymgymryd â swydd pennaeth dros dro. Mae un o’r pedwar pennaeth cynorthwyol wedi ymgymryd â swydd dirprwy bennaeth dros dro. Er mwyn cefnogi’r tîm arweinyddiaeth, mae pedwar arweinydd canol wedi ymgymryd â chyfrifoldebau arwain dros dro.
Strategaeth a chamau gweithredu
Mae gwella addysgu yn brif flaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol gyfan, ac mae’r ysgol yn datgan ei bod yn ceisio ‘creu awyrgylch sy’n galluogi’r ysgol i wthio ffiniau addysgu a dysgu’. Gweledigaeth y pennaeth dros dro yw y dylai’r ysgol fod mor gynhwysol ag y bo modd. Mae’n credu’n gryf fod pob disgybl yn haeddu addysgu o ansawdd uchel a lefelau uchel o gymorth ac arweiniad. Er mwyn adlewyrchu’r lefel uwch hon o ddisgwyliad ac atebolrwydd cynyddol staff, fe wnaeth uwch arweinwyr ddiwygio neu ailysgrifennu polisïau a gweithdrefnau’r ysgol.
Un o gyfrifoldebau craidd pob uwch arweinydd yw gwella addysgu a dysgu. Mae hyfforddiant pwrpasol wedi digwydd i sicrhau bod uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn deall rhinweddau gwersi llwyddiannus. Mae gan bob un o’r athrawon darged rheoli perfformiad sy’n gysylltiedig ag addysgu. Mae athrawon yn deall bod ganddynt gyfrifoldeb proffesiynol i wella agweddau ar eu haddysgu er mwyn cyfrannu at weledigaeth yr ysgol gyfan. Mae llywodraethwyr yn cefnogi’r flaenoriaeth hon yn dda. Maent wedi blaenoriaethu gwariant i alluogi athrawon i fynychu digwyddiadau dysgu proffesiynol buddiol. Yn gyfnewid am hyn, mae arweinwyr yn disgwyl i staff rannu eu methodolegau dysgu am addysgu a materion addysgegol gyda’u cydweithwyr, naill ai mewn cyfarfodydd adrannol neu mewn digwyddiadau ysgol gyfan.
Nododd y pennaeth parhaol a’r dirprwy bennaeth (y pennaeth dros dro erbyn hyn) fod disgwyliadau isel a diffyg uchelgais llawer o ddisgyblion yn gallu rhwystro’r ysgol rhag cyflawni ei nod o wella addysgu a dysgu. I’r perwyl hwn, maent yn rhannu pob grŵp blwyddyn yn ddau fand cyfochrog. Galluogodd hyn yr ysgol i neilltuo dau ddosbarth ar gyfer athrawon pynciau craidd ym mhob grŵp blwyddyn, pe bai angen. O ganlyniad i rannu carfanau blwyddyn yn ddwy set o 1, 2 a 3 yn hytrach na chael setiau 1-6, codwyd dyheadau disgyblion a hyrwyddwyd eu cred mewn gallu cyrraedd eu potensial.
Nododd uwch arweinwyr fod angen gwneud arweinyddiaeth yn fwy dosbarthedig ar draws yr ysgol. Fe wnaethant gynyddu atebolrwydd arweinwyr canol pynciau, gan roi cyfeiriad clir iddynt o ran eu cyfrifoldeb am addysgu a dysgu yn eu hadrannau. Daeth pob arweinydd canol pwnc yn atebol am ansawdd yr addysgu a chysondeb marcio ac asesu o fewn eu pwnc. O ganlyniad i’r arweinyddiaeth ddosbarthedig gynyddol, roedd cyfradd y gwelliant a’r newid yn gyflym.
Roedd y rhan fwyaf o staff yn deall bod angen gwella addysgu ac yn rhannu gweledigaeth ac uchelgais yr ysgol am gysondeb gwell yn ansawdd yr addysgu. Gwirfoddolodd rhai athrawon i arwain rhaglenni addysgegol i ymestyn eu dysgu eu hunain a chael profiad arwain. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o athrawon yn gwrthwynebu newidiadau radical i drefniadaeth dosbarthiadau ac i’r diwylliant hunanfyfyrio a hunanwella oedd yn tyfu’n gyflym. Roedd cryn dipyn yn llai ohonynt yn bryderus am gyflymdra’r newid. Er mwyn lleihau pryder, rhoddodd y pennaeth arferion ar waith i hyrwyddo diwylliant o ddidwylledd a rhannu ymhlith staff.
Cyflwynodd yr ysgol arfer o weithio mewn triawdau a roddodd gyfle i athrawon gydweithio â chydweithwyr. Sicrhaodd arweinwyr eu bod nhw a staff allweddol eraill ar gael i gynorthwyo’r triawdau â chynllunio a chyflwyno gwersi pe bai angen. Trefnodd arweinwyr gyfleoedd gwerth chweil hefyd i athrawon ymweld ag ysgolion eraill i arsylwi ymarferwyr cryf. Cyn i uwch arweinwyr arsylwi gwersi, cafodd pob un o’r athrawon gyfle i gydgynllunio’r wers gyda chymheiriad o’u dewis.
Dangosodd deilliannau o weithgareddau monitro fod angen gwella cyflymdra dysgu disgyblion. Treuliodd arweinwyr amser yn ymchwilio i ffyrdd llwyddiannus o ennyn diddordeb disgyblion yn eu dysgu. Fe wnaethant rannu eu canfyddiadau â staff, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau mai disgyblion yw canolbwynt y wers a lleihau faint mae’r athro’n siarad.
Trefnodd yr ysgol ddiwrnodau a digwyddiadau dysgu proffesiynol ysgol gyfan pwrpasol, wedi’u harwain gan ymarferwyr adnabyddus sydd â chefndir llwyddiannus mewn rheoli newid. Llwyddodd y strategaethau hyn i helpu lleihau pryder ymhlith athrawon, gan gyfrannu at ddiwylliant mwy agored yn yr ysgol.
O ganlyniad i’r angen i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (Llywodraeth Cymru, 2016), buddsoddodd yr ysgol yn sylweddol mewn gwella’i chaledwedd TGCh. Prynodd arweinwyr gyfrifiaduron llechen, byrddau gwyn, adnoddau digidol a chaledwedd arbenigol ar gyfer athrawon. Fe wnaethant ddarparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer staff ar sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn. Sicrhawyd bod disgwyliadau sut y dylai staff ddefnyddio’r adnoddau newydd mewn gwersi yn eglur. Mewn cyfnod cymharol fyr, mae bron pob un o’r athrawon wedi datblygu arferion da mewn defnyddio technoleg ddigidol yn eu gwersi.
Mae arweinwyr yn rhoi pwyslais cryf ar ddathlu arfer dda mewn addysgu ac asesu ar draws yr ysgol. Er enghraifft, ar ôl pob cyfnod o graffu ar waith, maent yn creu compendiwm sy’n cynnwys enghreifftiau o adborth ac asesu effeithiol.
Deilliannau
Ymatebodd disgyblion yn dda i’r newid sylweddol yn arferion athrawon, ac yn gyffredinol, bu gwelliant sylweddol mewn cyfnod byr yn agweddau disgyblion. Roedd disgyblion a gyfwelwyd fel rhan o’r adolygiad thematig hwn yn rhoi canmoliaeth fawr i’r newidiadau yn ansawdd yr addysgu. Fe wnaethant gyfeirio’n benodol at athrawon yn dod â’r dysgu’n fyw trwy dasgau diddorol a difyr a oedd yn eu galluogi i feddwl am bethau drostynt eu hunain.
Mewn cyfnod cymharol fyr, mae’r ysgol wedi llwyddo i wella ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol. Mae bron pob un o’r athrawon wedi ymdrin yn frwdfrydig â blaenoriaeth yr ysgol i ‘wthio’r ffiniau addysgu a dysgu’. O ganlyniad i’r ymdrech newydd ac uchelgeisiol hon i wella, mae perfformiad yng nghyfnod allweddol 4 wedi parhau i fod yn dda o leiaf am y drydedd flwyddyn yn olynol ac mae safonau lles wedi gwella’n sylweddol dros yr un cyfnod.
Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol
Bydd yr ysgol yn parhau i ymgorffori’r arferion a gyflwynwyd i sicrhau’r cydweithio a’r cydweithrediad gorau rhwng staff.