Gwneud defnydd gwell o arsylwadau i gynorthwyo athrawon - Estyn

Gwneud defnydd gwell o arsylwadau i gynorthwyo athrawon

Arfer effeithiol

Tonypandy Community College


Cyd-destun

Ysgol gymunedol gymysg 11 i 19 yw Coleg Cymunedol Tonypandy, sy’n gwasanaethu tref Tonypandy a’r ardal gyfagos yn Rhondda Cynon Taf.  Mae 619 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae tua 90 ohonynt yn y chweched dosbarth.  Ers yr arolygiad diwethaf, mae nifer gyffredinol y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng o ryw 200 o ddisgyblion.  Mae hyn yn bennaf am fod y chweched dosbarth yn cael ei ddiddymu’n raddol fel rhan o ad-drefnu’r awdurdod lleol.  Bydd Coleg Cymunedol  Tonypandy yn cau a bydd ysgol 3-16 newydd yn cael ei sefydlu yn ei le ar y safle presennol ym mis Medi 2018.

Daw llawer o ddisgyblion yr ysgol o bentrefi cyfagos Cwmclydach, Llwynypïa a Phen-y-graig.  Mae tua 28% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig, ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 21% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Adeg yr ymweliad thematig hwn, mae pennaeth dros dro a dirprwy bennaeth dros dro, yr oedd y naill a’r llall ohonynt yn aelodau o uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol yn ystod yr arolygiad craidd, yn arwain yr ysgol. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae uwch arweinwyr yng Ngholeg Cymunedol Tonypandy yn ystyried bod eu taith i wella wedi dechrau yn fuan ar ôl i Estyn osod y coleg yn y categori mesurau arbennig.  Ar ôl yr arolygiad, adolygodd arweinwyr yr ysgol eu gweithgareddau a’u barnau hunanarfarnu.  Cawsant ddealltwriaeth gliriach o gryfderau a meysydd i’w datblygu ar draws y coleg, a oedd yn eu galluogi i osod blaenoriaethau â ffocws craffach ar gyfer gweithredu.  Un o’r blaenoriaethau mwyaf brys oedd gwella addysgu ar draws y coleg, ac yn benodol, gwneud y cyswllt rhwng ansawdd yr addysgu a deilliannau disgyblion yn fwy eglur.

Rhoddwyd blaenoriaeth i addysgu a dysgu yn y cynllun gweithredu ôl-arolygiad, gyda ffocws penodol ar rai agweddau allweddol fel holi, gosod amcanion a meini prawf llwyddiant.

Yn ychwanegol, cydnabu arweinwyr fod lles staff yn allweddol i greu diwylliant i wella ynddo.  Fe wnaethant sicrhau bod pob un o’r staff yn cael yr hyfforddiant i ategu’r gwelliannau a ddisgwylir, a’u bod yn gwybod sut i fanteisio ar gymorth ac arweiniad ychwanegol.  Er enghraifft, cymerodd llawer o staff ran mewn gweithgareddau datblygiad personol, fel mynychu cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar.

I wella cyfathrebu a dosbarthu arweinyddiaeth yn fwy effeithiol, fe wnaeth uwch arweinwyr egluro a mireinio eu rolau a’u cyfrifoldebau eu hunain a rhai arweinwyr canol.  Dros gyfnod, cymerodd arweinwyr cyfadrannau fwy o rôl mewn monitro ac arfarnu effaith y gwaith, yn ogystal â chynorthwyo eu cydweithwyr.

Adolygodd arweinwyr y polisi addysgu a dysgu a’r llawlyfr staff i sicrhau bod eu disgwyliadau ynghylch arfer ystafell ddosbarth yn glir.  Fe wnaethant hefyd greu pecyn canllawiau a oedd yn amlinellu’r disgwyliadau hyn yn fanwl, a rhoesant ganllawiau ar sut i gymhwyso ystod o strategaethau addysgu ac asesu.  Bu rhai o’r staff yn cymryd rhan mewn rhaglen addysgu wedi’i harwain gan y consortiwm.  Fodd bynnag, buan y penderfynodd y coleg ei fod yn elwa mwy o ganolbwyntio ar ychydig o ddisgwyliadau wedi’u mynegi’n glir ar gyfer yr holl athrawon yn hytrach na bod  staff yn mynychu digwyddiadau allanol.

Llwyddodd arweinwyr i greu darlun cliriach o gryfderau a meysydd i’w datblygu ar draws y coleg trwy arsylwadau mwy trylwyr a chywir.  Fe wnaeth hyn eu galluogi i drefnu gweithgareddau dysgu proffesiynol mwy perthnasol, ac wedi eu teilwra, mewn rhai achosion.

Un o’r gweithgareddau sydd, ym marn y coleg, wedi cael yr effaith fwyaf yw’r defnydd o dechnoleg fideo.  Fe wnaeth hyn alluogi athrawon unigol i ystyried a myfyrio ar eu harfer eu hunain, a chael cyfle i rannu a thrafod eu haddysgu gyda chydweithwyr eraill.  Roedd gan bob cyfadran ‘hyrwyddwr’ hyfforddedig i gefnogi’r gweithgarwch hwn, a hyd yma, mae’r rhan fwyaf o athrawon wedi defnyddio’r dechnoleg i fyfyrio ar eu harfer eu hunain.  Mewn rhai achosion, defnyddiodd yr uwch arweinydd sydd â chyfrifoldeb am addysgu a dysgu y cyfleuster hwn yn fuddiol iawn i ddarparu hyfforddi uniongyrchol trwy glustffon.  Llwyddodd pob un o’r athrawon a gymerodd ran yn y gweithgareddau hyfforddi uniongyrchol i wella agweddau ar eu harfer yn gyflym ac maent wedi cynnal y gwelliannau hyn.

Ynghyd ag ymweliadau ag ysgolion eraill, a chyfleoedd i arsylwi ei gilydd, mae’r diwylliant yn y coleg wedi dod yn fwy cydweithredol.  Mae athrawon yn siarad am bolisi drws agored ac yn gwerthfawrogi’r diwylliant dysgu sydd bellach yn fwy amlwg.

I baratoi ar gyfer symud i ysgol 3-16, mae’r clwstwr wedi gweithio gyda’i gilydd yn agosach.  Mae cynllunio’r cwricwlwm ar y cyd wedi bod yn gyfle cyfoethog i athrawon rannu arfer o ran sut gall athrawon gefnogi cynnydd disgyblion yn y ffordd orau a chytuno beth yw’r ffordd orau o ddatblygu gwybodaeth a medrau disgyblion.  Mae athrawon yn frwdfrydig am y profiadau dysgu proffesiynol hyn gan eu bod wedi annog a chefnogi gwaith ar draws y sector.

Deilliannau

Mae bron pob un o’r staff yn cymryd rhan yn y cyfleoedd dysgu proffesiynol a gynigir, ac yn ymgysylltu’n dda â nhw.  Mae athrawon yn frwdfrydig am y cyfleoedd a gânt i arloesi a datblygu eu medrau.  Erbyn hyn, mae llawer ohonynt yn teimlo’n fwy abl a hyderus i fentro a rhoi cynnig ar dechnegau newydd.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo bod yr addysgu wedi gwella.  Maent yn gwybod beth i’w ddisgwyl mewn gwersi ac yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn fwy yn eu dysgu.  Maent yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt drwy fforymau disgyblion, ac yn meddwl bod y coleg yn ymateb i’w hadborth.

Mae’r ffaith fod y coleg yn rhoi mwy o bwyslais ar arfer dda yn yr ystafell ddosbarth wedi arwain at welliannau mewn addysgu a deilliannau disgyblion.  Er enghraifft, yn 2017, llwyddodd tua 45% o ddisgyblion Blwyddyn 11 i gyflawni trothwy lefel 2 gan gynnwys Saesneg a mathemateg.  Mae hyn yn gynnydd o ryw 15 pwynt canran o gymharu â’r canlyniadau adeg yr arolygiad craidd (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Wrth i’r coleg baratoi ar gyfer cau, bydd yn parhau i weithio ar ei flaenoriaethau presennol cyn dod yn rhan o’r ysgol 3-16 newydd.