Gwerth Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid – Model cynaliadwy i Gymru
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A1 Barhau i weithio gyda phob partner yn y sector gwaith ieuenctid i gefnogi datblygiad gwaith ieuenctid a hyfforddiant gwaith ieuenctid, gan gynnwys gallu arweinyddiaeth
- A2 Parhau i weithio gyda CGA ac ETS i ddiweddaru a gwella’r trefniadau cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei drin yn yr un ffordd â phroffesiynau addysg eraill
- A3 Comisiynu’r archwiliad medrau llawn ar gyfer y sector, i gynnwys medrau sydd eu hangen ar gyflogwyr a medrau presennol gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid sydd wedi eu cofrestru gyda CGA a’r rhai sy’n ymgymryd â gwaith ieuenctid ac nid ydynt wedi eu cofrestru
- A4 Ymchwilio i ddarpariaeth llwybrau prentisiaethau ffurfiol ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
- A5 Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid a sefydliadau perthnasol eraill i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn hyfforddiant gwaith ieuenctid.
Dylai darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid:
- A6 Wneud yn siŵr fod gweithwyr ieuenctid a myfyrwyr o broffesiynau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn cael cyfleoedd i hyfforddi gyda’i gilydd
- A7 Gwella argaeledd, amrywiaeth ac ansawdd lleoliadau gwaith
Dylai awdurdodau lleol:
- A8 Annog ysgolion i gydnabod medrau arbenigol a gwybodaeth broffesiynol gweithwyr ieuenctid ar gyfer cefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd
- A9 Cefnogi a chyfrannu at ddatblygu cyrsiau ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid statudol a gwirfoddol, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai addysg
Dylai consortia rhanbarthol:
- A10 Archwilio ffyrdd o gynnwys gweithwyr ieuenctid ochr yn ochr ag athrawon mewn cyfleoedd hyfforddiant dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth addysgol