Gwersi lles corfforol, lles maeth a lles cyfannol​

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Gwyr


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol uwchradd ddwyieithog wedi’i lleoli yn Nhre-Gwyr ac yn gwasanaethu dalgylch eang Sir Abertawe. Mae 1163 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 168 yn y chweched dosbarth. Daw 72.5% o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg ac mae 7.8% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn gwaith ymholi a chynllunio, mae aelodau’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles wedi cydweithio i sicrhau darpariaeth arbenigol i ddisgyblion sy’n canolbwyntio ar ddatblygu empathi, ymroddiad a phositifrwydd. Maent yn anelu at gefnogi pob disgybl ar eu taith bersonol i gyflawni lefelau uchel o iechyd a lles corfforol, emosiynol, deallusol a chymdeithasol. Trwy brofiadau cyfoethog a chynhwysol law yn llaw gyda’r wybodaeth a’r medrau angenrheidiol, anogir pob disgybl i fyw yn llesol ac actif er mwyn gallu byw bywydau hapus a hir ac i ddatblygu perthnasau cadarnhaol ac ymdopi gyda heriau bywyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Nod y gwersi Iechyd a Lles Corfforol yw rhoi ffocws ar ddatblygu a chaffael medrau sy’n datblygu ymdeimlad o falchder wrth wella iechyd y corff, cynyddu lefelau ffitrwydd ac ennyn ymdeimlad o les. O fewn y gwersi, ceir cyfleoedd i fesur a phrofi ffitrwydd, dysgu am yr elfennau gwahanol sydd i ffitrwydd, datblygu’r ddealltwriaeth am y pwysigrwydd o osod targedau personol i wella ffitrwydd a rhoir cyfleoedd i ddatblygu medrau ar draws amrediad eang o weithgareddau tîm fel gymnasteg, athletau a champau eraill. Datblygir hefyd y gallu i werthuso perfformiadau personol a pherfformiadau eraill. Yn ystod y gwersi, datblygir cyfranwyr mentrus a chreadigol a defnyddir y Model Addysgu Chwaraeon er mwyn rhoi profiadau o chwarae rôl mewn gweithgareddau amrywiol. Rhoddir sylw i’r pwysigrwydd o ddatblygu empathi wrth gydweithio gydag eraill; rheoli emosiynau wrth ystyried anghenion gwahanol aelodau o’r dosbarth a deall y risgiau i fywydau dysgwyr eu hunain ac eraill. Mae’r cyfle i greu cysylltiadau â champau amrywiol a throsglwyddo medrau o’r naill weithgaredd i’r llall yn rhan naturiol o’r gwersi. Yn ogystal, addysgir am ddisgyblaeth a delio â llwyddiant a methiant er mwyn rhoi cyfle i ddatblygu hunanymwybyddiaeth ac ymdeimlad o gyflawniad. Datblygir medrau megis gwaith tîm, goddefgarwch a hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth a chyfeillgarwch.

Yn y gwersi Iechyd a Lles Cyfannol, y nod yw codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles emosiynol, deallusol a chymdeithasol, gan ymgorffori yn y disgyblion ymwybyddiaeth o wydnwch, cyfrifoldeb a dealltwriaeth er mwyn cyfoethogi eu bywydau yn eu cynefin. Yn y gwersi, mae cydweithio drwy gyflawni heriau, cefnogi eraill a dangos empathi, a bod yn barod i ddysgu yn hollbwysig. Mae’r gwersi Iechyd a Lles Cyfannol yn dilyn taith bywyd sydd yn cwmpasu cysyniadau fel ‘Gwe Bywyd’ A ‘Thaith Bywyd’. Mae ffocws ar bwysigrwydd ‘Cynefin’ a dysgu am barch, empathi a charedigrwydd. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i greu bocs cymorth cyntaf i gefnogi iechyd emosiynol/meddyliol, yn dysgu am e-ddiogelwch ac effaith hir dymor cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Yn y gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywiolldeb mae disgyblion yn trafod newidiadau’r corff yn ystod glasoed ac addysg rhyw. Ceir cyfres o wersi ar ddelwedd corff, dysgu am ‘Fi fy hunan’. Defnyddir y wybodaeth hon wrth ymdrin ag astudiaethau achos real yn ogystal ag ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o niwed cudd, problemau defnyddio cyffuriau, ac anhwylderau bwyta.

Mae’r gwersi Iechyd a Lles Maeth yn ffordd o sicrhau bod y disgyblion yn deall pwysigrwydd bwyd a maeth er mwyn hyrwyddo bwyta’n iach gydol oes. Mae’r gwersi yn rhoi arweiniad ar hylendid bwyd, creu bwydydd iach, datblygu medrau ymarferol paratoi bwyd yn ddiogel ynghyd â phwysigrwydd dysgu am ‘Filltiroedd bwyd’. Mae cyfle i ddysgu am ddietau arbennig, ac ar gyfnodau arbennig o’r flwyddyn rhoddir ffocws ar flasu bwydydd tymhorol. Fel yn y gwersi Iechyd a Lles corfforol, gosodir gwaith ymarferol yng nghanol y dysgu.

Trwy gynllunio gofalus, mae’r gwersi yn rhoi gwybodaeth a medrau da i ddisgyblion fesur effaith ar eu hiechyd personol. Er enghraifft, yn y gwersi Iechyd a Lles Maeth ym Mlwyddyn 8, datblygir dealltwriaeth o’r mathau gwahanol o fwydydd, gan gynnwys y macro-faetholion a micro-faetholion a’r egni a geir ynddynt. Ar yr un pryd, yn y gwersi Iechyd a Lles Cyfannol cyflwynir y theori gymhwysol o fesuriadau indecs mas y corff, y problemau o ordewdra ac afiechydon cysylltiedig, ac yna yn y gwersi Iechyd a Lles corfforol ceir arweiniad ar sut i gadw’r corff yn iach er mwyn cynnal pwysau iach, a datblygir y medrau corfforol angenrheidiol i wneud hyn a thrafodir gosod targedau ffitrwydd personol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi ei gael ar y ddarpariaeth ac ar safonau a lles disgyblion?

Trwy wrando ar lais y disgyblion a dadansoddi holiaduron mae’r athrawon yn gyson addasu unedau gwaith a theilwra’r ddarpariaeth a thrwy hynny yn cadw bys ar bỳls dyheadau’r disgyblion. Effaith amlwg hyn yw bod gan y rhan fwyaf o’r disgyblion agweddau mwy iach at ddysgu wrth iddynt ddatblygu mewn hunanhyder a hunanwerth. Mae Gwefan Iechyd a Lles Disgyblion Gŵyr yn cynnwys llawer o wybodaeth bellach i gyfoethogi eu dysgu tu hwnt i’r gwersi ffurfiol. Mae’r gwersi wedi cyfrannu at welliant yn lefelau gwydnwch, hunan reolaeth, a pherfformiad academaidd disgyblion er mwyn delio gyda heriau’r byd, boed ar lefel unigol neu fel aelodau cyfrifol o gymdeithas.

Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cydweithio cadarn ymhlith aelodau Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Ysgol Gyfun Gŵyr ac aelodau’r Maes Dysgu a Phrofiad hwn ar lefel ‘Cymuned Gŵyr’, sef y gweithgor Cynradd / Uwchradd, wrth iddynt gyd-gynllunio, adnabod y dysgu a hyrwyddo cynnydd.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Gwersi lles corfforol, lles maeth a lles cyfannol​ - Estyn