Gwella’r marcio a’r asesu trwy gyfranogiad disgyblion - Estyn

Gwella’r marcio a’r asesu trwy gyfranogiad disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Uwchradd Aberteifi


 

Cyd-destun

Ysgol ddwyieithog naturiol ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 18 oed yw Ysgol Uwchradd Aberteifi, a gynhelir gan awdurdod lleol Ceredigion.  Mae’r ysgol yn nhref arfordirol Aberteifi ac mae’n derbyn disgyblion o ddalgylchoedd gwledig eang.  Mae 586 o ddisgyblion ar y gofrestr, a 97 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. 

Mae bron 20% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ychydig yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.1%.  Mae tua 13% o ddisgyblion yr ysgol yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae gan yr ysgol uned addysg arbennig o’r enw Canolfan Seren Teifi.
 
Mae pedwar deg y cant o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig, ac mae gan 1.6% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r ffigurau hyn gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol.  Daw tri deg y cant o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg fel y brif iaith.  Fodd bynnag, mae 51% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith neu i safon gyfatebol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Diwylliant ac ethos

Mae’r pennaeth yn cyfleu gweledigaeth glir, a ddeellir yn dda am wella’r ysgol wrth staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni.  Mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol, ac mae ganddi ethos cefnogol a gofalgar iawn.  Mae ganddi ddiwylliant cryf o ddathlu amrywiaeth.  Caiff pob un o’r disgyblion, beth bynnag fo’u hanghenion a’u cefndiroedd, eu hannog i lwyddo yn unol â datganiad cenhadaeth yr ysgol, sef ‘Bydd pob disgybl yn llwyddo’.

Gweithredu

Mae’r cyngor ysgol yn cyfrannu’n sylweddol at wella’r ysgol yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.  Mae’r pennaeth a’r uwch arweinwyr yn gweithio gyda grwpiau ffocws ar faterion penodol sy’n codi hefyd, fel ansawdd amgylchedd yr ysgol, safonau lles, cysondeb marcio ac asesu a gosod targedau. 

Mae aelodau o’r cyngor ysgol yn gwneud gwaith i godi ymwybyddiaeth am bob math o fwlio a hyrwyddo polisi “dim goddefgarwch”.  Mae disgyblion yn arwain gwasanaethau ysgol gyfan, yn gweithio gydag uwch staff i ddatblygu’r polisi a phrotocolau gwrthfwlio, ac yn datblygu taflenni gwybodaeth gwrthfwlio ar gyfer disgyblion a rhieni.  Caiff hyn effaith sylweddol ar wella dealltwriaeth y disgyblion o wahanol fathau o fwlio a’r gweithdrefnau a ddefnyddir ar gyfer delio ag ef. 

Yn ddiweddar, cynhaliodd cyngor yr ysgol adolygiad addysgu a dysgu o farcio ac asesu.  Fe wnaethant gasglu safbwyntiau disgyblion ar effeithiolrwydd y polisi marcio ac asesu, ac wedyn cyflwyno eu casgliadau a’u hargymhellion ar gyfer gwelliannau i’r uwch dîm arweinyddiaeth ar ddiwedd yr adolygiad.  Derbyniodd yr uwch dîm arweinyddiaeth yr argymhellion, gan adrodd yn ôl amdanynt wrth arweinwyr cyfadrannau a chynnwys disgyblion wrth adolygu’r cylch monitro a chynllun datblygu’r ysgol.  O ganlyniad, mae marcio ac asesu’n fwy cyson ar draws yr ysgol ac mae disgyblion yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr iawn o’r polisi asesu. 

Yn ogystal â’r adolygiad manwl, mae disgyblion yn cwblhau arolwg ysgol gyfan ar addysgu a dysgu ddwywaith y flwyddyn.  Caiff deilliannau’r arolwg eu dadansoddi gan uwch arweinwyr ac arweinwyr cyfadrannau ac fe’u defnyddir i lywio’r adolygiadau cyfadrannau a chynlluniau hunanarfarnu a gwella cyfadrannau.  Mae uwch arweinwyr yn defnyddio deilliannau’r arolygon i nodi cryfderau o fewn cyfadrannau, ac ar eu traws.  Maent yn rhannu enghreifftiau o arfer dda a amlygwyd gan ddisgyblion ar draws cyfadrannau. 

Mae’r cyngor ysgol yn cynnal arolygon ar-lein i gasglu barn, sylwadau ac adborth disgyblion.  Er enghraifft, datblygodd y ‘cod ansawdd athrawon’ trwy gasglu safbwyntiau disgyblion ar strategaethau a dulliau addysgu.  O ganlyniad, mireiniodd yr ysgol ei model addysgu a dysgu, gan wneud yn siŵr bod gwersi’n cael eu cynllunio i gynnwys gweithgareddau cychwynnol ysgogol, rhediad bywiog ac ystod eang o dasgau ystyrlon.  Mae disgyblion a staff wedi datblygu’r gwaith hwn yn ddiweddar i gynnwys ‘cod ansawdd disgyblion’.

Mae’r cyngor ysgol yn gweithio’n effeithiol gyda’r corff llywodraethol.  Mae’r llywodraethwyr cysylltiol sy’n ddisgyblion yn mynychu cyfarfod tymhorol y corff llywodraethol ac mae pob agenda yn cynnwys eitem sydd wedi ei neilltuo i’r cyngor ysgol.  Maent yn cymryd rhan weithredol mewn recriwtio staff newydd.  Cânt eu cynnwys mewn arsylwadau gwersi wrth benodi staff newydd, maent yn cynnal eu panel cyfweld eu hunain ac yn adrodd yn ôl wrth y panel o lywodraethwyr ac uwch arweinwyr. 

Deilliannau

Mae ffocws yr ysgol ar wella lles disgyblion wedi cael effaith sylweddol ar wella presenoldeb, ymddygiad a deilliannau ar draws yr ysgol.

Trwy’r cyngor ysgol, mae disgyblion wedi cael dylanwad sylweddol ar faterion fel gwella ansawdd marcio ac adborth, mireinio polisïau gwrthfwlio, lleihau achosion o fwlio a gwella ansawdd y wisg ysgol.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn cyfrannu at benderfyniadau am amgylchedd a chyfleusterau’r ysgol, er enghraifft datblygu’r gampfa newydd a’r rhaglen helaeth o glybiau a gweithgareddau.  Mae cyfranogiad disgyblion mewn gwneud penderfyniadau yn nodwedd gref yn yr ysgol.

Mae ymddygiad disgyblion yn eithriadol o dda ac mae gan bron bob un o’r disgyblion agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu.  Ni fu unrhyw waharddiadau cyfnod penodol yn ystod y 18 mis diwethaf ac ni fu gwaharddiad parhaol am dair blynedd.  Mae’r ffigurau hyn yn cymharu’n dda â chyfartaleddau lleol a chenedlaethol ac yn dangos gwelliant sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae presenoldeb disgyblion yn rhagorol.  Mae cyfraddau presenoldeb dros y pedair blynedd ddiwethaf wedi gosod yr ysgol yn y 25% o ysgolion tebyg ar sail cymhwyster i gael prydau ysgol am ddim uwchlaw deilliannau wedi’u modelu.  Mae presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n gyson uwchlaw presenoldeb yr un grŵp o ddisgyblion mewn ysgolion tebyg ac yn genedlaethol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn