Gwella’r cwricwlwm ‘iLearn’ trwy gynllunio a gwerthuso - Estyn

Gwella’r cwricwlwm ‘iLearn’ trwy gynllunio a gwerthuso

Arfer effeithiol

Olchfa School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer arloesol

Mae Ysgol Olchfa wedi bod yn Ysgol Arloesi’r Cwricwlwm er Tachwedd 2015 ac fe lansiodd ei chwricwlwm arloesol, ‘iLearn’, ym Medi 2016.

Roedd yr ysgol wedi bod yn adolygu’i darpariaeth yng nghyfnod allweddol 3 am nifer o flynyddoedd cyn hyn a defnyddiodd ei statws arloesi i archwilio posibiliadau newydd, yn enwedig yn gysylltiedig â grwpio pynciau ‘traddodiadol’.

Disgrifiad o’r arfer arloesol

Cwricwlwm iLearn yw ymateb yr ysgol i adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yr Athro Donaldson.  Mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad canlynol wedi’u mabwysiadu:

  • iCommunicate (Iaith a Chyfathrebu)
  • iCalculate (Mathemateg, Rhifedd, Cyfrifiadura a TG)
  • iDiscover (Gwyddoniaeth a Thechnoleg)
  • iThink (Y Dyniaethau)
  • iCreate (Y Celfyddydau Mynegiannol)
  • iThrive (Iechyd, Llesiant a Chyfoethogi)

Caiff rheolwyr dysgu gyfrifoldeb am lunio cynlluniau gwaith sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r pedwar diben yn ôl ‘Dyfodol Llwyddiannus’.  Mae athrawon yn cymryd rhan mewn cynllunio ac arfarnu cydweithredol.  O ganlyniad, mae’r cwricwlwm newydd yn ceisio gwneud y mwyaf o’r hyn y mae’r Athro Donaldson yn ei alw’n ‘ddilysrwydd cyffredin’ rhwng ac ar draws Meysydd Dysgu.  Heb eu cyfyngu gan yr angen i dalu sylw i’r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae gan wersi gyd-destunau bywyd go iawn ac maent yn caniatáu i athrawon herio a datblygu dealltwriaeth ddyfnach disgyblion.

Neilltuwyd amser cynllunio a pharatoi sylweddol yn ystod tymor yr haf 2016, i ganiatáu am lansio iLearn i ddisgyblion Blwyddyn 7 ym Medi 2016.  Yn sgil cyflwyniadau dilynol, ym Medi 2018, bydd pob disgybl yng nghyfnod allweddol 3 yn dilyn cwricwlwm iLearn.

O Fedi 2017 ymlaen, mae’r ysgol wedi sefydlu tîm ymchwil, yn cynnwys 5 athro-ymchwilydd.  Mae’r ymchwilwyr hyn yn addysgu am hanner yr amserlen ac yn defnyddio gweddill eu hamser i wneud ymchwil manwl a pherthnasol er mwyn llywio arferion addysgu a dysgu’r ysgol.  Un o brif swyddogaethau’r tîm yw ei fod yn parhau i gynnal arfarniad parhaus o’r cwricwlwm newydd ac addysgeg gysylltiedig.

Yr effaith ar y ddarpariaeth a safonau disgyblion

Megis dechrau datblygu mae’r cwricwlwm newydd o hyd.  Fodd bynnag, yn ôl canfyddiadau cynnar y tîm ymchwil, mae’r disgyblion yn cyflawni safonau uchel yn eu llefaredd, eu galluoedd datrys problemau a’u meddwl beirniadol.  Mae disgyblion yn ddysgwyr uchelgeisiol a hyderus, yn gyflym i ofyn cwestiynau perthnasol ac ymhél â’r pwnc.  At hynny, mae creadigrwydd a gwreiddioldeb disgyblion wedi cynyddu, maent yn gweithio’n llwyddiannus ar y cyd ag eraill ac yn cymryd risgiau pwyllog.  Fwyfwy, mae disgyblion yn cymhwyso’u medrau llythrennedd a rhifedd mewn cyd-destunau anghyfarwydd ac yn adnabod y cysylltiadau rhwng eu profiadau dysgu.

Mae’r tîm ymchwil wedi canfod bod y cwricwlwm yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn heriol.  Mae wedi cyfoethogi profiad y disgyblion ac wedi ymestyn perchenogaeth ar ddysgu.  Hefyd, mae wedi ysgogi ymagwedd addysgol sy’n cwmpasu ‘deuddeg egwyddor’ yr Athro Donaldson.  Oherwydd bod y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd a dewis, mae hyn wedi ymrymuso athrawon a disgyblion.  Mae’r defnydd ar lais y disgybl yn y broses adolygu yn sicrhau bod y cwricwlwm yn parhau’n ddynamig ac yn egnïol.

At hynny, mae’r tîm ymchwil wedi amlygu meysydd y mae angen eu datblygu.  Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i addysgu medrau gwaith grŵp yn benodol a sut i asesu cynnydd yn erbyn y pedwar diben.  Yn hynny o beth, mae’r tîm yn chwarae rhan hanfodol yn ymdrechion yr ysgol i barhau i wella’i darpariaeth yng nghyfnod allweddol 3.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Fel Ysgol Arloesi, mae Olchfa wedi derbyn bron 20 o ymweliadau gan ysgolion a phartïon eraill â diddordeb.  Hefyd, mae’r ysgol wedi cymryd rhan mewn nifer o gynadleddau cenedlaethol a lleol, ac wedi rhoi cyflwyniadau i Lywodraeth Cymru, consortia lleol, yr awdurdod lleol a darparwyr addysg uwch.