Gwella ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol - Mehefin 2015 - Estyn

Gwella ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol – Mehefin 2015

Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai consortia rhanbarthol:

Wella trefniadau rheoli perfformiad trwy:

  • gynllunio ar gyfer y tymor canolig i sicrhau dull strategol o wella ysgolion
  • sicrhau bod cynlluniau’n cynnwys camau gweithredu sy’n benodol a mesuradwy, gyda thargedau, costau a cherrig milltir priodol ar gyfer cyflawni
  • cofnodi, rhannu a defnyddio data (o lefel disgybl i fyny) yn effeithlon ac yn effeithiol
  • monitro cynnydd disgyblion ac ysgolion yn rheolaidd
  • defnyddio dull mwy trylwyr o nodi risgiau a’u rheoli
  • hunanarfarnu eu cryfderau a’u diffygion yn realistig
  • rheoli perfformiad unigol eu staff yn dynn

Sicrhau cysondeb gwell yn ansawdd arfarniadau ymgynghorwyr her o ysgolion, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu ac arweinyddiaeth

Datblygu strategaethau cliriach i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysg a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu yn gydlynus i’r perwyl hwn

Gwella ansawdd ac ystod y cymorth ar gyfer ysgolion, ac yn benodol:

  • datblygu strategaethau cliriach ar gyfer gwneud y mwyaf o botensial cymorth o un ysgol i’r llall
  • darparu neu frocera cymorth gwell ar gyfer addysgu a dysgu mewn meysydd pwnc nad ydynt yn rhai craidd

Cynnwys awdurdodau esgobaethol yn effeithiol wrth gynllunio ac arfarnu gwasanaethau rhanbarthol yn strategol

Dylai awdurdodau lleol:

  • Gefnogi eu consortiwm rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau busnes tymor canolig a sicrhau bod yr holl gynlluniau’n ystyried anghenion eu hysgolion lleol
  • Datblygu perthnasoedd gweithio ffurfiol rhwng pwyllgorau craffu yn eu consortiwm er mwyn craffu ar waith ac effaith eu consortiwm rhanbarthol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Wella’i strategaeth i ddatblygu uwch arweinwyr a rheolwyr ar gyfer addysg ar lefel awdurdod lleol a chonsortia rhanbarthol
  • Cydweithio’n fwy â chonsortia ac awdurdodau lleol i gytuno ar gynlluniau busnes tymor byr a thymor canolig a lleihau ceisiadau i newid ac ychwanegu at gynlluniau yng nghanol blwyddyn
  • Sicrhau bod categoreiddio ysgolion yn cael ei safoni’n drylwyr ar draws y consortia
  • Datblygu dealltwriaeth ar y cyd rhwng athrawon, ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru am ddiben targedau cyrhaeddiad a’r defnydd a wneir ohonynt
  • Ymgysylltu’n fwy effeithiol ag awdurdodau esgobaethol i ddatblygu eu strategaeth ar gyfer gwella ysgolion
  • Sicrhau bod consortia, awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol yn glir ynglŷn â’u rolau a’u cyfrifoldebau priodol ar gyfer ysgolion yn rhaglen Her Ysgolion Cymru

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn