Gwella profiad o’r cwricwlwm drwy fedrau ffilm - Estyn

Gwella profiad o’r cwricwlwm drwy fedrau ffilm

Arfer effeithiol

Ysgol Pen-y-Bryn


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Pen-y-Bryn wedi’i lleoli ar ddau safle yn Nhreforys a Phenlan yn Abertawe ac fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe. Mae’n ysgol arbennig i ddisgyblion rhwng pedair a 19 oed sydd ag anawsterau dysgu cymedrol, anawsterau dysgu difrifol ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Daw disgyblion o bob rhan o Ddinas a Sir Abertawe ac mae tri disgybl o awdurdodau eraill hefyd.
Mae’r ysgol yn cynnig llety preswyl i ychydig o ddisgyblion rhwng 14 a 19 oed. Mae gan bron pob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, sy’n cynnwys anawsterau corfforol, synhwyraidd, meddygol, emosiynol ac ymddygiadol. 
Saesneg yw prif iaith bron pob un o’r disgyblion ac nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf ar yr aelwyd. Mae ychydig o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac ychydig o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 42% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae medrau ffilm ym Mhen-y-bryn wedi datblygu o raglenni menter llwyddiannus yr ysgol, fel Pen-y-Bryn Books a chynyrchiadau Pen-y-Bryn Films.

Yn wreiddiol, roedd y fenter yn canolbwyntio ar brosiectau tymhorol yn datblygu a chynhyrchu llyfrau o ansawdd proffesiynol â chynnwys digidol rhyngweithiol. Mae’r ysgol wedi argraffu dros 20 o gyhoeddiadau, sydd wedi’u lawrlwytho dros 20,000 o weithiau mewn cymaint â 49 o wledydd ledled y byd hefyd. Mae hyn wedi arwain at animeiddiadau, ffilmiau animeiddiedig byr â silwét ar sgrin werdd wedi’u hadrodd, ffilmiau byw mud wedi’u trosleisio a ffilmiau byw â deialog.

Mae’r cwricwlwm medrau ffilm yn arwain at gynhyrchu tair ffilm y flwyddyn a’r uchafbwynt yw lansiad swyddogol ar ddiwedd bob tymor, sy’n cynnwys y gallu i’r cyhoedd ei wylio ar blatfform cyfryngau cymdeithasol Pen-y-Bryn Films. Mae cylchgrawn o ansawdd proffesiynol yn cyd-fynd â phob ffilm i roi mewnwelediad i sut cafodd y ffilm ei gwneud ac amrywiaeth o nodweddion yn gysylltiedig â phob prosiect.

Yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a datblygu profiadau dysgu go iawn, nod yr ysgol yw creu rhaglen i ddisgyblion ddeall a chael profiad o safon y diwydiant o greu ffilmiau. Gyda chymorth partneriaeth yr ysgol â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mae disgyblion yn defnyddio’r medrau hyn i gynhyrchu gwaith o ansawdd proffesiynol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Caiff medrau ffilm eu darparu i bob disgyblion ar garwsél cylchredol bob tymor. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i bob disgybl gyfrannu at gynhyrchiad ffilm a chylchgrawn cyfatebol.

Caiff pob agwedd ar wneud ffilmiau ei harchwilio, gan gynnwys gwersi synhwyraidd i ddysgwyr mwyaf cymhleth yr ysgol a dylunio cynhyrchiad i ddysgwyr chweched dosbarth yr ysgol. Caiff disgyblion eu cynorthwyo i ddatblygu medrau technegol mewn gwaith camera, goleuadau, effeithiau sain, golygu ac effeithiau arbennig, a chânt eu hannog i ddatblygu mynegiant creadigol, ynghyd â medrau technegol mewn actio, dylunio setiau, gwneud celfi, llunio byrddau stori, cyfansoddi sgôr cerddorol a dewis traciau sain.

Mae partneriaethau allanol yr ysgol yn galluogi disgyblion i gael profiad o amgylcheddau gwneud ffilmiau proffesiynol mewn stiwdios ffilm masnachol, yn ogystal ag yn yr ysgol. Caiff disgyblion brofiad o ffilmio ar leoliad ac astudio ystyriaethau cynllunio logistaidd cysylltiedig sy’n galluogi gwneud ffilmiau’n llwyddiannus. Mae profiadau dysgu wedi cynnwys ymweld â stiwdio ffilmiau proffesiynol yng Nghaerdydd, ffilmio ar leoliad yn Abaty Margam a sesiwn holi ac ateb â gwneuthurwr celfi, actor a dylunydd setiau proffesiynol.

Mae disgyblion yn golygu cynnwys y ffilmiau ac yn cynhyrchu hysbyslun, sy’n cael ei lanlwytho i blatfform cyfryngau cymdeithasol yr ysgol cyn i’r ffilm gael ei chyhoeddi. Mae disgyblion yn ymarfer eu medrau dylunio graffig wrth lunio poster i hysbysebu’r ffilm.

Mae cynhyrchu’r cylchgrawn medrau ffilm sy’n cyd-fynd â’r ffilm yn galluogi disgyblion i ddatblygu medrau pellach wrth iddynt baratoi cwestiynau a chynnal cyfweliadau, paratoi erthyglau nodwedd ac ystyried y gofynion dylunio graffig. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??

Mae medrau ffilm yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar hyder, ymgysylltiad, gwydnwch a datblygiad medrau disgyblion.

Mae’r cwricwlwm medrau ffilm yn galluogi dysgu i wneud cynnydd ar draws sawl un o feysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd wedi cael effaith sylweddol o ran cynorthwyo disgyblion i gyflawni’r targedau yn eu CAU (cynllun addysgu unigol) drwy eu cynorthwyo i gymhwyso nifer o fedrau trawsgwricwlaidd mewn amrywiaeth o gyd-destunau dysgu.

O fis Medi 2022, bydd disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 a’r chweched dosbarth yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith, a fydd yn galluogi dysgwyr i drosglwyddo’r medrau y mae wedi’u dysgu mewn medrau ffilm i amgylchedd gwaith proffesiynol gwneud ffilmiau. 
 

Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn defnyddio ei phlatfformau cyfryngau cymdeithasol i ddathlu a rhannu’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion. Caiff cylchgrawn medrau ffilm ei lunio bob tymor i gyd-fynd â’r ffilm a wneir gan ddisgyblion. Caiff y cylchgrawn hwn ei argraffu’n broffesiynol a’i ddosbarthu i randdeiliaid a phartneriaid i ddathlu ac arddangos cyflawniadau prosiect y tymor. Mae ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol hefyd. Bob tymor, mae gan y prosiect ffilm ddyddiad lansio a digwyddiad lle caiff y ffilm ei harddangos am y tro cyntaf, lle caiff rhieni, llywodraethwyr, partneriaid a gwesteion eu croesawu i ymuno â’r dathliadau o’r gwaith a grëwyd gan bob grŵp medrau ffilm. Cyn y pandemig, lansiwyd y ffilmiau mewn digwyddiad ‘carped coch’ mewn sinema leol. Mae’r ysgol yn bwriadu lansio ffilm newydd mewn stiwdio ffilmiau proffesiynol ym Mae Caerdydd mewn digwyddiad arbennig sydd wedi’i gynllunio i’r disgyblion.
 
Mae’r ysgol wedi gwahodd amrywiaeth o randdeiliaid i sesiynau medrau ffilm agored. Mae’r gwesteion hyn wedi cynnwys rhieni, staff o ysgolion eraill, aelodau Llywodraeth Cymru, cyn Weinidog Addysg Cymru a’r Athro Graham Donaldson.

Mewn partneriaeth â sefydliad proffesiynol gwneud ffilmiau, mae’r ysgol wedi datblygu cyfres o gynlluniau gwersi medrau ffilm sydd ar gael am ddim yn y Gymraeg a’r Saesneg i ysgolion eraill eu rhannu. Nod y gwersi hyn yw addysgu agweddau gwahanol ar wneud ffilmiau ac maent ar gael i ddisgyblion o bob gallu.