Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. Mae hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn ymarferol a’r rhwystrau a nododd arweinwyr ysgolion i ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, ac felly’n gwella presenoldeb. Mae hefyd yn cynnwys cameos ac astudiaethau achos arfer effeithiol.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- Gryfhau cynllunio i wella presenoldeb yn strategol, gan gynnwys gwneud defnydd effeithiol o ddata i nodi tueddiadau ac mewn cynllunio ymagweddau tymor hir at wella presenoldeb disgyblion
- Cryfhau eu hymagwedd at fonitro, gwerthuso a gwella presenoldeb
- Cryfhau eu gwaith gyda rhieni / gofalwyr i esbonio pam mae presenoldeb da yn bwysig
- Datblygu dulliau mwy effeithiol i gasglu barn disgyblion nad ydynt yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd
- Sicrhau bod addysgu ac arlwy’r cwricwlwm yn ennyn diddordeb disgyblion mewn dysgu
Dylai awdurdodau lleol:
- Roi her a chymorth rheolaidd ac effeithiol i ysgolion i wella presenoldeb disgyblion a helpu gwerthuso effaith eu gwaith
- Sicrhau bod ymyriadau awdurdodau lleol yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes gan ysgolion
- Gweithio gydag ysgolion i’w cynorthwyo i weithio gyda rhieni / gofalwyr i ddeall pwysigrwydd presenoldeb da
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Ddatblygu ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb da gyda rhieni / gofalwyr a disgyblion
- Ystyried sut gallai disgyblion sy’n byw o fewn y radiws tair milltir nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim gael eu cynorthwyo’n well i fynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd
- Cyhoeddi setiau data craidd ar gyfer presenoldeb ddwywaith y flwyddyn, gan gynnwys dadansoddiad atchweliad, gweddillebau ar gyfer absenoldebau parhaus
- a phresenoldeb grwpiau blwyddyn i gefnogi prosesau gwerthuso’r ysgolion eu hunain yn well
- Parhau i ddarparu dadansoddiad wythnosol o bresenoldeb ar lefel ysgol i ddarparu gwybodaeth fwy mynych a gwella ansawdd y data hwn
- Ystyried sut y gellir dyrannu cyllid yn fwy effeithiol i gynorthwyo ysgolion i wella presenoldeb
- Ystyried sut gallai diwygio’r flwyddyn ysgol gynorthwyo disgyblion yn well i fynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd
- Ymchwilio i nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar bresenoldeb gwael a darganfod y dulliau mwyaf effeithiol o wella presenoldeb