Gwella medrau siarad a gwrando disgyblion trwy gwricwlwm estynedig - Estyn

Gwella medrau siarad a gwrando disgyblion trwy gwricwlwm estynedig

Arfer effeithiol

Cwmfelinfach Primary School


 

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yng nghanol pentref Cwmfelinfach yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 192 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae nifer y disgyblion mewn grwpiau blwyddyn penodol yn amrywio’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd bod nifer o ddisgyblion yn ymuno ac yn ymadael yn ystod y flwyddyn.

Mae pedwar dosbarth oedran unigol a thri dosbarth oedran cymysg yn yr ysgol.  Mae’r ysgol yn nodi bod anghenion addysgol arbennig gan oddeutu 14% o ddisgyblion, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (25%).  Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae bron pob un o’r disgyblion o gefndir ethnig gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Yn 2010, cyflwynodd yr ysgol Gwricwlwm wedi’i Gyfoethogi i ddatblygu medrau ehangach disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Er mwyn datblygu arbenigedd staff a hybu perchenogaeth, cwblhaodd yr ysgol archwiliad o staff i fesur diddordeb a lefelau profiad.  Roedd pedwar athro a thri ymarferwr ychwanegol yn rhan o’r prosiect yn y flwyddyn gyntaf.  Cyflwynodd yr aelodau staff hyn grochenwaith, Almaeneg, chwaraeon, coginio, celf, gwau ac Ysgolion Coedwig.  Rhoddodd staff ddisgyblion o flynyddoedd 3 i 6 mewn grwpiau ac aeth sesiynau yn eu blaen mewn amserlen chwe wythnos, am 90 munud yr un.

Wrth i’r rhaglen fynd rhagddi dros y blynyddoedd, mae wedi datblygu i gynnwys aelodau’r gymuned.  Mae hyn yn cynnwys wardeniaid cefn gwlad, ‘knitting nannies’ a Chymdeithas Rhandiroedd Cwmfelinfach.  O ganlyniad, enillodd yr ysgol Wobr Pontio’r Cenedlaethau ar gyfer cynnwys y gymuned.  Hefyd, mae’r ysgol yn cefnogi elusennau lleol fel ‘The Dogs Trust’ a’r Uned Gofal i Fabanod Cynamserol yn Ysbyty Brenhinol Gwent trwy weithgareddau codi arian, trwy’r Cwricwlwm wedi’i Gyfoethogi.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Pan gyflwynodd yr ysgol y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh), fe wnaeth aelodau staff archwilio’r Cwricwlwm wedi’i Gyfoethogi.  Fe wnaeth staff adolygu pob gweithgaredd er mwyn cysylltu â datganiadau’r FfLlRh mewn ffordd bwrpasol, a chynllunio pob sesiwn i sicrhau eu bod yn ymdrin â medrau ar lefel briodol i’r dysgwyr yn y grŵp.

I ddechrau, roedd ychydig aelodau staff yn amharod i ildio ‘amser addysgu’ gwerthfawr ac roedd angen dwyn perswâd arnynt ynghylch y gwerth y byddai’r sesiynau hyn yn eu cynnig.  Fodd bynnag, y budd cyntaf a nodwyd gan yr holl staff oedd y berthynas waith gadarn a ddatblygodd rhwng staff a disgyblion a rhwng y disgyblion eu hunain.  Diflannodd ffiniau wrth i wahanol ddisgyblion ymgymryd â rôl fwy arweiniol mewn datblygu’r cwricwlwm, yn aml yn arddangos medrau na chydnabuwyd yn flaenorol.  Sylwodd oedolion fod disgyblion yn siarad yn fwy rhydd yn ystod y sesiynau hyn a’u bod yn aml yn trafod problemau a phryderon na fyddent wedi cael sylw fel arall.

Gydag amser, mae’r ysgol wedi datblygu amrywiaeth ysgogol ac arloesol o brofiadau dysgu i fodloni anghenion a diddordebau’r holl ddisgyblion.  Mae cynllunio’r cwricwlwm ar draws yr ysgol gyfan yn cefnogi dilyniant clir ym medrau disgyblion o’r Cyfnod Sylfaen i ddiwedd cyfnod allweddol 2.  Mae themâu a ddewiswyd yn ofalus yn dal dychymyg disgyblion yn eithriadol o dda.  O ganlyniad, mae llawer o symbyliad gan bron pob un o’r disgyblion a gwnânt gynnydd cadarn iawn.  Mae cyfleoedd dysgu yn defnyddio pobl a lleoedd yn y gymuned leol mewn modd dychmygus.  Mae disgyblion yn mwynhau mynd i’r Ysgol Goedwig, garddio ar y rhandir lleol, gwau gyda neiniau/teidiau a gwneud ymchwiliadau gwyddonol.  Mae’r arfer hynod effeithiol hon yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd mewn ffyrdd buddiol, pleserus.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio ac yn cymhwyso’r medrau hyn yn hyderus ac i safon uchel ar draws y cwricwlwm, o oedran cynnar.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Dywedodd adroddiad arolygu diweddar yr ysgol fod ‘gan ddisgyblion fedrau siarad a gwrando a rhifedd rhagorol’.  Mae arweinwyr o’r farn bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r Cwricwlwm wedi’i Gyfoethogi, sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion siarad mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gydag amrywiaeth o oedolion ac i ddefnyddio’u medrau rhifedd mewn ffordd ystyrlon.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan yn weithgar mewn cynllunio gwaith pynciau ac mae ganddynt ymdeimlad craff o berchenogaeth ar yr hyn y maent yn ei ddysgu, a sut.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn meddu ar y medrau sydd eu hangen i wella’u dysgu eu hunain, gweithio gydag eraill, datrys problemau a dangosant lefelau uchel iawn o annibyniaeth.  Mae tystiolaeth glir o effaith i’w gweld yn y defnydd o fedrau llythrennedd, rhifedd a meddwl lefel uchel ar draws holl feysydd y cwricwlwm, o oedran cynnar iawn.  Hefyd, mae lefelau uchel o ymgysylltiad disgyblion a phresenoldeb gwell yn amlwg.

Bu tuedd o wella yng nghanlyniadau’r ysgol mewn Saesneg a mathemateg ar y lefel ddisgwyliedig, sef lefel 4, ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 dros y pedair blynedd diwethaf.  Yn ogystal, mae’r ysgol yn perfformio’n ffafriol o gymharu ag ysgolion tebyg ar y lefelau uwch, yn enwedig mewn gwyddoniaeth, gan ei gosod yn y 25% uchaf.

Mae’r ysgol yn olrhain lles disgyblion gan ddefnyddio Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol ac mae’r canlyniadau’n dangos bod eu hymatebion cadarnhaol i’r cwricwlwm wedi cynyddu o 48% i 56% yn 2015.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn meddu ar y gallu i drosglwyddo’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o fedrau i sefyllfaoedd ymarferol ac mae ganddynt ymdeimlad craffach o faterion dinasyddiaeth fyd-eang.

Mae holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2 yn gallu arfarnu eu defnydd ar fedrau yn gywir ar draws y cwricwlwm gan ddefnyddio’u Proffiliau Medrau.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon gyda chydweithwyr ar draws y clwstwr.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ei hysgol gynradd gyfagos wedi rhoi’r Cwricwlwm hwn wedi’i Gyfoethogi ar waith yn llwyddiannus hefyd, sydd o fudd i’r disgyblion ac i’r gymuned leol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn